Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod teuluoedd yn ardaloedd Dechrau'n Deg yn cael eu Bwndeli Babanod cyntaf yr wythnos hon. Mae hyn yn garreg filltir arwyddocaol o ran ein cymorth i rieni yn ystod y misoedd cynharaf sy'n cael yr effaith fwyaf ar fywyd eu plentyn.
Mae'r Bwndel Babi yn cynnwys eitemau hanfodol i gefnogi rhieni newydd a'u babanod – sy’n rhoi cymorth ymarferol wrth i deuluoedd baratoi ar gyfer dyfodiad eu babi newydd. Mae pob bwndel yn cynnwys amrywiaeth o ddillad ar gyfer babanod newydd-anedig hyd at 6 mis oed, blancedi babanod, llieiniau mwslin, thermomedrau, padiau bwydo a mamolaeth, mat chwarae a llyfr babanod. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth a chyngor defnyddiol ynghylch rhaglenni cymorth a magu plant.
Bydwragedd sydd wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o'r rhaglen ymhlith rhieni cymwys yn ystod apwyntiadau cynenedigol 16 wythnos. A gall rhieni gofrestru ar gyfer y rhaglen mewn apwyntiadau cynenedigol 25-28 wythnos. Ar ôl cofrestru, mae teuluoedd yn cael eu bwndel babi rhwng 32 a 34 wythnos o feichiogrwydd. Gall bydwragedd hefyd gofrestru nifer cyfyngedig o deuluoedd sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg os asesir bod angen cymorth arnynt.
Gan fod costau byw yn parhau i fod yn uchel, mae llawer o deuluoedd yn dal i wynebu anawsterau wrth dalu am hanfodion y cartref, fel bwyd a gwres. Mae'r rhaglen hon wedi'i thargedu i helpu teuluoedd cymwys trwy leddfu rhai o'r pwysau ariannol sy'n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer babi newydd. Mae'r dull hwn yn caniatáu i'r cymorth gael ei roi lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Mae'r rhaglen hefyd yn sicrhau manteision cadarnhaol i'r economi leol. Mae APS Group Ltd a'u hisgontractwyr yng Nghymru yn darparu cymorth i gwsmeriaid, ac yn gweithgynhyrchu, pacio a dosbarthu'r Bwndeli Babi, gan greu a chynnal swyddi a sgiliau lleol.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gadarn ei bwriad i drechu tlodi. Mae'r Bwndeli Babi cyntaf sydd wedi'u dosbarthu yn brawf pendant o'r ymrwymiad hwnnw. Edrychaf ymlaen at rannu diweddariad pellach wrth i'r rhaglen barhau.
