Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Caiff y data hwn ei gasglu at ddibenion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn unig, mewn perthynas â Gweithredoedd Cyffredinol, Gweithredoedd Opsiynol a Gweithredoedd Cydweithredol.

Gwybodaeth mewn perthynas â thatws a gwreiddgnydau sy’n âr neu’n arddwriaeth

Tra bo ffermio âr fel rheol yn cynnwys gwreiddgnydau, gall y categoreiddio ddibynnu ar raddfa a math. Caiff tatws fel rheol eu hystyried yn gnwd âr, lle byddai trin tir ar raddfa lai ar gyfer rhai llysiau, fel moron, yn cael ei drin fel arfer garddwriaeth.

Mae gofyn i chi ddewis y sector/au amaethyddol sy’n berthnasol i’ch busnes

Llaeth

Cadw neu magu gwartheg i gynhyrchu llaeth a chynhyrchion llaeth eraill nad ydynt at eich defnydd eich hyn.

Cig eidion

Cadw neu magu gwartheg ar gyfer bridio neu gynhyrchu cig nad yw at eich defnydd eich hyn.

Defaid

Cadw neu magu defaid ar gyfer gwlan, bridio, llaeth, neu gynhyrchu cig nad yw at eich defnydd eich hyn.

Moch

Cadw neu magu mocha r gyfer bridio neu gynhyrchu cig nad yw ar eich cyfer chi eich hyn.

Dofednod

Cadw neu magu dofednod ar gyfer bridio, cynhyrchu wyau neu gig nad ydynt at eich defnydd eich hyn.

Ȃr

Tir sy’n cael ei drin ar gyfer cynhyrchu cnydau – gan gynnwys tir a ddefnyddir ar gyfer cnydau combein, cnydau a dyfir ar gyfer ffibr, tatws, gwreiddgnydau, cnydau a dyfir ar gyfer bwyd anifeiliaid fel indrawn porthiant a rȇp porthiant.

Garddwriaeth

Cynhyrchydd cnydau garddwriaethol masnachol. Mae cnydau garddwriaethol yn golygu ffrwythau, a llysiau bwytadwy, planhigion addurnol, blodau a meithrinfeydd coed.

Geifr

Cadw neu magu geifr ar gyfer ffibr, bridio, llaeth, neu gynhyrchu cig nad yw at eich defnydd eich hyn.

Coetir/amaethgoedwigaeth

Coetir/Amaethgoedwigaeth yw integreiddio coed i’r system ffermio, gan gynnal neu wella prif allbwn amaethyddol y fferm.

Glaswelltir/porthiant (dim anifeiliaid)

Nid oes gennych anifeiliaid pori eich hyn, a’ch prif fenter yw torri gwair, byrnu gwair a/neu silwair, gwerthu porthiant neu osod tir I ffermwyr eraill i bori eu hanifeiliaid.

Coetir (masnachol)

Mae coetir masnachol yn cyfeirio at goetir a brynwyd at ddibenion masnachol neu a blannwyd ar gyfer y dibenion hynny, megis cynhyrchu pren, gall hefyd geynnwys coetir a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau hamdden sy’n cynhyrchu incwm. Maent yn cynnwys coed y gellir eu cynaefu yn broffidiol.

Cadw gwenyn (gwenynyddiaeth)

Cadw gwenyn i gynhyrchu mȇl, cwyr a helpu i beilio cnydau.

Camelidau

Cadw neu magu anifeiliaid fel lamas, alpacas, a chamelod ar gyfer gwlȃn, bridio, llaeth, neu gynhyrchu cig nad yw at eich defnydd eich hyn.

Ceirw

Cadw neu magu ceirw ar gyfer bridio neu gynhyrchu cig nad yw at eich defnydd eich hyn.

Arall

Os ydych chi’n rhan o Sector Amaethyddol arall nad yw wedi’I restru ar wahȃn. Dylai hyn gynnwys gweithgareddau sy’n gysylltiedig ȃ’ch prif fusnes ffermio yn unig.

I ddiweddaru/diwygio eich sector/au amaethyddol

O'ch Hafan, dewiswch fanylion CRN ac yna Manylion y Cwsmer. Cliciwch ar y Meysydd Busnes ac yna ochr yn ochr â Sectorau Amaethyddol, dewiswch 'Diweddaru'r wybodaeth hon'. Dewiswch y sectorau amaethyddol y mae eich busnes yn gweithredu ynddynt. Cliciwch ar ‘Arbed Newidiadau’.