Mae'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, yn lansio Fix-it-February mewn caffi trwsio dros dro yng Nghaerdydd.
Mae'r gwasanaeth trwsio am ddim ar gael drwy gydol y flwyddyn ac mae bellach wedi arbed dros filiwn cilogram o allyriadau carbon deuocsid. Mae hyn yn cyfateb i gar petrol arferol yn teithio 11.2 miliwn o filltiroedd neu'n gyrru hyd yr A470 fwy na 60,000 o weithiau.
Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru o tua £14 miliwn, drwy Gronfa'r Economi Gylchol, wedi helpu i sefydlu mwy na 130 o gaffis trwsio ledled y wlad, lle mae gwirfoddolwyr medrus yn trwsio popeth o sipiau sydd wedi torri i dostwyr diffygiol.
Mae eisoes gan Gymru drefniadau o'r radd flaenaf ar gyfer ailgylchu gwastraff trefol, ac mae'r strategaeth Mwy nag Ailgylchu yn nodi sut y bydd y wlad yn symud ymhellach i fyny'r hierarchaeth gwastraff i greu diwylliant lle mae trwsio ac ailddefnyddio'n dod yn ail natur.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
"Mae Cymru eisoes yn ail yn y byd o ran ailgylchu, a nawr rydyn ni'n adeiladu diwylliant lle mae trwsio ac ailddefnyddio yn dod yn ail natur. Mae arbed miliwn cilogram o garbon drwy ein rhwydwaith caffis trwsio yn garreg filltir anhygoel. Drwy drwsio yn hytrach na phrynu eitemau newydd, rydyn ni'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur ac yn arbed arian. Rwy'n gofyn i bawb yng Nghymru ymuno â Fix-it-February a rhoi bywyd newydd i eitem sydd wedi torri yn rhad ac am ddim."
Mae caffis trwsio'n darparu manteision lluosog i gymunedau Cymru. Maen nhw'n lleihau gwastraff, yn helpu aelwydydd i arbed arian, yn creu cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau cymdeithasol ac yn cefnogi datblygu sgiliau. Mae dysgu trwsio yn hyrwyddo dysgu gydol oes ac yn cyfrannu at agenda twf gwyrdd Cymru.
Dywedodd Phoebe Brown, Cyfarwyddwr Caffi Trwsio Cymru:
"Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymroddiad gwirfoddolwyr a chymunedau ledled Cymru sy'n cyflawni manteision amgylcheddol a chymdeithasol gwirioneddol drwy drwsio. Mae llawer mwy i gaffis trwsio na thrwsio eitemau sydd wedi torri. Maen nhw'n helpu pobl i arbed arian, dysgu sgiliau a chysylltu â'u cymuned – wrth gymryd camau ymarferol ar newid yn yr hinsawdd. Mae Fix-it-February yn gyfle gwych i ragor o bobl gymryd rhan, boed hynny drwy ymweld â chaffi trwsio, dysgu sgiliau newydd, neu gefnogi busnes trwsio yn eu hardal leol."
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Benthyg Cymru, rhwydwaith o lyfrgelloedd lle gall pobl fenthyg eitemau yn hytrach na'u prynu.
Mae prosiectau ailddefnyddio cymunedol yn gweithredu ledled Cymru, o oergelloedd cymunedol yn Sir Fynwy i weithgareddau ailddefnyddio mewn canolfannau ailgylchu gwastraff cartref yng Ngheredigion a Sir Benfro.
Dysgwch lle i gael eich eitemau wedi'u trwsio am ddim (Caffi Trwsio Cymru)
Dewch o hyd i'ch llyfrgell pethau agosaf (Benthyg)
