Mae deddfwriaeth flaengar i ddiwygio'r ffordd mae gwasanaethau bysiau lleol yn cael eu cynllunio a'u darparu yng Nghymru heddiw wedi cael y Cydsyniad Brenhinol, sy'n ei gwneud yn gyfraith.
Cafodd Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) ei selio'n swyddogol gan y Prif Weinidog, Eluned Morgan, mewn seremoni yng Nghaerdydd heddiw (dydd Llun 2 Chwefror) gan roi Cymru ar flaen y gad o ran gwella gwasanaethau bysiau yn y DU.
Mae hyn yn nodi dechrau'r broses o drawsnewid gwasanaethau bysiau lleol ledled Cymru, gan roi teithwyr yn gyntaf a rhoi rôl gryfach i'r sector cyhoeddus wrth lunio rhwydweithiau ar draws ardaloedd gwledig a threfol.
Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, bydd Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, Cyd-bwyllgorau Corfforedig, gweithredwyr bysiau, undebau a'r cyhoedd, i ddefnyddio gwybodaeth leol i ddylunio a chynllunio gwasanaethau sy'n rhoi llais y teithiwr wrth galon eu rhwydwaith bysiau lleol.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru – mae'n anfon neges glir ein bod wedi ymrwymo i wella'r system fysiau a darparu gwasanaeth gwell, mwy dibynadwy i bobl Cymru.
"Mae bysiau'n achubiaeth i lawer o gymunedau ledled Cymru sy'n cysylltu pobl â swyddi, gwasanaethau iechyd, addysg a ffrindiau, ac rwy'n llawn cyffro wrth weld y gwelliannau sydd yn yr arfaeth."
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
"Mae heddiw yn garreg filltir bwysig i wasanaethau bysiau yng Nghymru.
"Mae'n ddechrau cyfnod newydd a fydd yn dod â newidiadau newydd a chyffrous i bobl ledled Cymru.
"Fydd y newidiadau hyn ddim yn dwyn ffrwyth dros nos – bydd yn cymryd amser. Ond rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r diwydiant ac awdurdodau lleol i gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau i ddiwallu anghenion teithwyr heddiw ac yn y dyfodol."
Bwriedir dechrau cyflwyno'r newidiadau yn Ne-orllewin Cymru yn 2027, wedyn y Gogledd yn 2028, y De-ddwyrain yn 2029 a'r Canolbarth yn 2030.
