Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Rwy'n falch iawn o gyhoeddi cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ar ein Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Cynhelir y cyfnod ymgynghori rhwng 2 Chwefror a 13 Ebrill 2026, a gellir gweld yr holl wybodaeth yma: Drafft Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl 2026
Ein gweledigaeth yw cenedl sy'n Ymwybodol o Ofalwyr. Mae hyn yn golygu sicrhau bod gofalwyr yn cael eu cydnabod a bod cymorth ar eu cyfer yn dod yn rhan annatod o wasanaethau cyhoeddus a chymunedau. Mae'n golygu bod gofalwyr di-dâl yn cael eu nodi'n gynnar ac yn cael yr wybodaeth, yr adnoddau a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i gynnal eu llesiant eu hunain. Mae hefyd yn golygu eu bod yn cael eu trin fel partneriaid yn y broses o gynllunio gofal a rhyddhau o'r ysbyty ar gyfer y rhai y maent yn gofalu amdanynt.
Mae’r strategaeth hon yn gosod dyheadau uchelgeisiol, fel y dylai, gan fod llawer i’w wneud. Mae sicrhau bod gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gael yn gyson i ofalwyr di-dâl, er mwyn iddynt gael help cyn gynted â phosibl, yn faes allweddol ar gyfer gwelliant cenedlaethol. Ar gyfer gofalwyr sydd ag anghenion penodol am gymorth, mae ein Grŵp Cynghori'r Gweinidog yn goruchwylio cynllun gweithredu i ysgogi gwell darpariaeth o ran asesu anghenion gofalwyr a, phan fo hynny'n briodol, cynlluniau cymorth ystyrlon i ofalwyr.
Mae'n hanfodol sicrhau bod trefniadau gofal amgen digonol a phriodol (gofal seibiant) a seibiannau byr ar gael i ofalwyr er mwyn eu galluogi i ofalu am eu llesiant. Gwyddom fod aros mewn gwaith cyflogedig neu ail-ymuno â'r farchnad swyddi, pan fo hynny'n bosibl, yn ffactor allweddol o ran lleihau'r caledi ariannol a brofir gan gymaint o ofalwyr di-dâl.
Rhaid inni hefyd fod yn wyliadwrus nad yw ein gofalwyr ifanc yn ysgwyddo gormod o gyfrifoldebau, gan effeithio'n negyddol ar eu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a'u canlyniadau addysgol.
Mae fy swyddogion wedi ymgysylltu'n helaeth â gofalwyr di-dâl a'u cynrychiolwyr i lywio'r strategaeth ddrafft hon. Y broses ymgynghori cyhoeddus yw'r cam hollbwysig nesaf i sicrhau bod y strategaeth newydd yn cael ei llywio gan yr ystod ehangaf o ofalwyr di-dâl ledled Cymru a'r sefydliadau sy'n rhoi cymorth iddynt.
Bydd y Strategaeth Genedlaethol newydd yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosibl ar ôl etholiadau'r Senedd ym mis Mai.
