Cyfarfod Pwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru: 23 Ionawr 2025
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor y Cabinet ar Ogledd Cymru ar 23 Ionawr 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS
- Huw Irranca-Davies AS
- Ken Skates AS (Cadeirydd)
- Jane Hutt AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Dawn Bowden AS
- Jack Sargeant AS
- Sarah Murphy AS
- Vicki Howells AS
Arweinwyr Awdurdodau Lleol y Gogledd – Rhan 2
- Y Cyng. Charlie McCoubrey, Conwy
- Y Cyng. Jason McLellan, Sir Ddinbych
- Y Cyng. Gary Pritchard, Ynys Môn
- Y Cyng. Mark Pritchard, Wrecsam
- Y Cyng. Dave Hughes, Sir y Fflint
- Y Cyng. Nia Jeffreys, Gwynedd
Mynychwyr allanol eraill – Rhan 2
- Dyfed Edwards, Cadeirydd y Bwrdd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai
- Yr Athro Edmund Burke, Is-ganghellor Prifysgol Bangor
- Yr Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam
- Yana Williams, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Cambria
Swyddogion Llywodraeth Cymru
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Grŵp Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg
- Steven McGregor, Dirprwy Gyfarwyddwr Gogledd Cymru
- Ceri Christian-Mullineux, Uwch-reolwr Partneriaethau Rhanbarthol - Gogledd Cymru
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Beverley Morgan, Pennaeth y Strategaeth Drawsbynciol ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio
- Aled Jones, Cyfieithydd (Cymen)
Ymddiheuriadau
- Jayne Bryant AS
- Julie James AS
- Judith Paget
Rhan 1
Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru Ysgrifenyddion a Gweinidogion y Cabinet i gyfarfod cyntaf yr Is-bwyllgor yn 2025, gan nodi y byddai'r cyfarfod hwn yn canolbwyntio ar ddwy o bedair blaenoriaeth y Prif Weinidog, sef Iechyd Da a Chyfle i Bob Teulu, ac y byddai'r cyfarfod nesaf yn edrych ar Swyddi a Thwf Gwyrdd a Chysylltu Cymunedau, gan gynnwys gwneud y cysylltiadau â rhanbarth y Gogledd ac ymchwilio i'w heffaith arno.
Eitem 1: Iechyd Da – Cymru Iachach
1.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ddiweddariad ar y camau i gyflawni yn y maes blaenoriaeth hwn.
1.2 Croesawodd yr Is-bwyllgor y camau cadarnhaol sy'n cael eu cymryd ar draws y rhanbarth i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol sy'n wynebu'r sector.
Eitem 2: Cyfle i Bob Teulu
2.1 Cyflwynwyd yr eitem gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
2.2 Nod Llywodraeth Cymru oedd creu system addysg deg a rhagorol yng Nghymru, lle'r oedd pob dysgwr yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial llawn.
2.3 Byddai'n hanfodol parhau i fynd i'r afael ag effeithiau tlodi ar gyrhaeddiad addysgol fel prif flaenoriaeth, a'r nod cyffredinol oedd darparu addysg o'r radd flaenaf i bob plentyn a phob person ifanc, waeth beth fo'u cefndir economaidd neu ble maent yn byw.
2.4 Croesawodd yr Is-bwyllgor y camau cadarnhaol sy'n cael eu cyflawni yn unol â'r maes blaenoriaeth hwn ar draws rhanbarth y Gogledd.
Rhan 2
Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru bartneriaid cyflawni'r Gogledd o'r Awdurdodau Lleol a'r sectorau Iechyd ac Addysg i gyfarfod cyntaf yr Is-bwyllgor yn 2025 a diolchodd i bawb a oedd wedi cynorthwyo â'r problemau diweddar pan gafwyd digwyddiad yn ymwneud â'r cyflenwad dŵr yn y rhanbarth.
Eitem 3: Iechyd Da – Cymru Iachach
3.1 Gwahoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i roi golwg gyffredinol ar y ffordd y byddent yn cyfrannu at Iechyd Da ac i nodi'r cyfleoedd a'r heriau posibl sy'n wynebu'r Gogledd.
3.2 Roedd y bwrdd iechyd yn gweithio i gyflawni Iechyd Da drwy ei set ei hun o flaenoriaethau, gan gynnwys lleihau rhestrau aros, mynd i'r afael â heriau'r gweithlu, a chanolbwyntio ar ddatblygu'r seilwaith.
3.3 Yna gofynnodd Ysgrifennydd y Cabinet i Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy roi cyflwyniad byr o safbwynt yr awdurdod lleol.
3.4 Adroddwyd bod yr Awdurdodau Lleol ledled y rhanbarth wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â'r bwrdd iechyd ac eraill i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
3.5 Diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r partneriaid am eu hymrwymiad parhaus i gydweithredu ar draws y rhanbarth i gyflawni'r canlyniadau gorau i bobl y Gogledd.
Eitem 4: Cyfle i Bob Teulu
4.1 Gwahoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru Aled Jones-Griffith, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai i roi golwg gyffredinol ar y cydweithio ar draws y rhanbarth i ryddhau potensial cynhenid y Gogledd.
4.2 Adroddwyd bod y cynnig dysgu oedolion yn elfen hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant lleol a rhyngwladol i'r Gogledd a'i sefydliadau addysg. Roedd gwaith Medr yn hanfodol o ran dod â chydweithrediad ar draws y rhanbarth, gyda systemau a oedd yn gweithio i unigolion yn hytrach nag i sefydliadau.
4.3 Diolchodd y Prif Weinidog i'r holl bartneriaid am eu presenoldeb ac ailadroddodd y pwynt fod pawb yn cyflawni'r blaenoriaethau a osodwyd gan bobl Cymru.
4.4 Byddai'n hanfodol parhau i estyn allan at y rhai nad ydynt ar hyn o bryd yn cael mynediad at y cymorth sydd ar gael, gan sicrhau bod buddsoddi'n digwydd yn yr ased gorau sydd gan Gymru, sef ei phobl, ar gyfer y tymor hir.
4.5 Diolchodd y Prif Weinidog i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru am ei arweinyddiaeth ar draws y rhanbarth.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Ionawr 2025
