Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Heddiw cefais gwrdd â Chadeirydd newydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am y tro cyntaf, sef Dr Mary-Ann Stephenson. Mae Dr Stephenson yn dod â chyfoeth o brofiad gyda hi - dros 30 mlynedd o weithio ar faterion cydraddoldeb a hawliau dynol yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys mwy nag 20 mlynedd ar lefel bwrdd a Phrif Weithredwr.
Bydd Dr Stephenson yn chwarae rôl hanfodol dros y pedair blynedd nesaf, wrth i'r Comisiwn barhau i hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch, dal eraill i gyfrif, a darparu arweiniad a chyfarwyddyd lle bo angen i greu Prydain yr ydym i gyd yn gobeithio amdani.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol annibynnol sy'n gyfrifol am hyrwyddo ac annog cydraddoldeb ac amrywiaeth, dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, a diogelu a hyrwyddo hawliau dynol pawb ym Mhrydain.
Mae’r Comisiwn yn gorfodi deddfwriaeth gydraddoldeb mewn perthynas ag oedran; anabledd; ailbennu rhywedd; priodas a phartneriaeth sifil; beichiogrwydd a mamolaeth; hil, crefydd neu gred; rhyw a chyfeiriadedd rhywiol - gelwir y rhain yn nodweddion gwarchodedig.
Rwyf am ddiolch i gangen Cymru o'r Comisiwn am Adroddiad Effaith Cymru 2024 i 2025.
Mae'r adroddiad hwn yn dangos ystod lawn gwaith y Comisiwn i ddiogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol a gwneud Cymru yn wlad decach. Adroddiad effaith terfynol Cynllun Strategol y Comisiwn 2022-2025 yw hwn, ac mae'n adlewyrchu ymdrech barhaus dros y cyfnod hwn i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn chwe maes blaenoriaeth:
- Cydraddoldeb mewn gweithle sy'n newid
- Cydraddoldeb i blant a phobl ifanc
- Cynnal hawliau a chydraddoldeb mewn iechyd a gofal cymdeithasol
- Mynd i'r afael ag effeithiau gwasanaethau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gydraddoldeb a hawliau dynol
- Meithrin perthnasoedd da a hyrwyddo parch rhwng grwpiau
- Sicrhau fframwaith cyfreithiol effeithiol i ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol
Rwy'n ddiolchgar iawn am waith amhrisiadwy cangen Cymru o'r Comisiwn, sy'n cael ei adlewyrchu cystal yn eu Hadroddiad Effaith. Rwyf am ddiolch i'r Comisiwn yng Nghymru am eu harweinyddiaeth barhaus a'u hymrwymiad i gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dal ati i gynnal ein ffocws cryf ar ymgorffori cydraddoldeb a hawliau dynol ym mhopeth a wnawn, ac i gyflawni ein nodau o dan Gynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol Llywodraeth Cymru 2025-2029.
Mae'r Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol yn amlinellu ein hymrwymiad i fwrw ymlaen â'n Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol a'n Nod Hirdymor – mae Cymru yn genedl sy'n dilyn egwyddorion tegwch, cynhwysiant a brwydro yn erbyn gwahaniaethu, drwy gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae hefyd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o hawliau dynol pawb, a sut y gallant arfer yr hawliau hynny.
Edrychaf ymlaen at adeiladu perthynas gref gyda Dr. Stephenson a'i thîm wrth inni gymryd camau i wireddu ein hamcan cyffredin o gyflawni ein nod llesiant o greu 'Cymru sy'n fwy cyfartal'.
