Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae'r datganiad hwn yn rhoi diweddariad ar gyflawni rhaglen ARFOR ac mae'n cyd-daro heddiw â chyhoeddi dau adroddiad sy'n darparu’r manylion ychwanegol a ganlyn:
- adroddiad ar raglen ARFOR 2 gan bartneriaid awdurdodau lleol
- y gwerthusiad annibynnol o ARFOR 2 a gynhaliwyd gan Wavehill Consulting Ltd
Dolen i’r ddau adroddiad: Ail wedd ARFOR
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £11m o gyllid grant i'r awdurdodau lleol yn rhanbarth ARFOR Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin i gyflwyno rhaglen strategol sydd wedi'i chynllunio i gefnogi datblygiad economaidd a'r Gymraeg ar draws ardaloedd y pedwar awdurdod lleol. Mae'r rhaglen, sydd wedi cael ei rheoli gan Gyngor Gwynedd a'i chyflwyno gan bartneriaid dan gontract ochr yn ochr â'r awdurdodau lleol eu hunain, wedi profi ystod o ddulliau a’r egwyddor graidd yw cydnabod bod economi leol gref yn hanfodol i gynnal y Gymraeg yn ei chadarnleoedd gwledig.
Gan adeiladu ar y rhaglen ARFOR gynharach gwerth £2m a oedd yn gweithredu rhwng 2019 a 2021, mae ARFOR 2 wedi canolbwyntio ar annog pobl ifanc i aros yn eu cymunedau neu ddychwelyd iddynt, cefnogi mentrau lleol, hyrwyddo cyfleoedd economaidd a chymdeithasol, a chryfhau'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle a'r gymuned ehangach. Mae’r prosiect wedi creu nifer o elfennau, gan gynnwys:
- Llwyddo'n Lleol – Canolbwyntio ar newid canfyddiadau o'r rhanbarth fel lle i fyw a gweithio ynddo, gan ddefnyddio marchnata a chymorth uniongyrchol i helpu pobl ifanc i ymgartrefu, dod o hyd i swyddi, neu ddechrau busnesau
- Cymunedau Mentrus - Darparu grantiau i fusnesau i greu swyddi a hyrwyddo'r Gymraeg
- Cronfa Her – Ariannu prosiectau arloesol ar gyfer ystod ehangach o randdeiliaid i archwilio syniadau newydd a chynhyrchu dysgu am y berthynas rhwng yr economi ac iaith, yn unol ag amcanion y rhaglen
- Bwrlwm ARFOR – Llinyn cyfathrebu a marchnata i hyrwyddo hunaniaeth ranbarthol a'r Gymraeg ac ymwybyddiaeth o amcanion y rhaglen.
Comisiynwyd Wavehill Consulting Ltd i weithio ochr yn ochr â’r gwaith o gyflawni'r gwahanol elfennau o raglen ARFOR 2. Mae’r gwerthusiad, a gyhoeddwyd heddiw, yn dod i'r casgliad bod y rhaglen wedi cyflawni llawer iawn o weithgarwch mewn cyfnod byr iawn. Cytunwyd ar sawl mesur perfformiad allweddol fel rhan o'r broses gontractiol ac yn gyffredinol, mae'r canlyniadau a'r allbynnau yn awgrymu perfformiad effeithiol. O'r 23 o ddangosyddion a oedd yn cynnwys targed meintiol, cyflawnodd y rhaglen 18 ohonynt neu rhagorodd arnynt. Fodd bynnag, ar gyfer rhai agweddau ar y rhaglen e.e. newid canfyddiadau ac ati, mae wedi bod yn anodd cymhwyso unrhyw fesurau meintiol ystyrlon.
Mae'r gwerthusiad yn adrodd bod ARFOR 2 wedi cyflawni manteision economaidd byrdymor, gan gynnwys:
- creu 327 a diogelu 295 o swyddi
- cefnogi 263 o fentrau newydd a 678 o fentrau presennol
- 210 o fusnesau wedi cynyddu eu defnydd o'r Gymraeg a dros 200 o bobl ifanc wedi cael cymorth cynhwysfawr.
Mae'r adroddiad gwerthuso yn gwneud nifer o argymhellion eang, gan gynnwys:
- yr angen am ymyrraeth hirdymor i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, o ystyried nad yw'r rhaglen gyflawni ddwy flynedd yn ddigonol i fynd i'r afael â'r heriau a osodwyd. Mae'n awgrymu ffocws ar:
- rhannu arferion da a darparu arweiniad a chydlynu strategol
- ymchwil, profi a threialu, gyda ffocws ar bobl ifanc
- marchnata a chyfathrebu – wedi'u hanelu at newid canfyddiadau
- defnyddio cyfnod pontio i gynllunio'n drylwyr ar gyfer ymyrraeth hirdymor, gyda chefnogaeth barhaus i Llwyddo'n Lleol ar raddfa lai i gefnogi agweddau marchnata, ac i weithio tuag at brif ffrydio elfennau llwyddiannus ac arloesol y rhaglen
- cymhwyso prif wersi'r ymchwil i lywio'r camau nesaf.
Gan adeiladu ar argymhellion adroddiad Wavehill, rydym wedi darparu cyllid pellach o £500 mil i'r awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol i gefnogi rôl barhaus cydlynydd y rhaglen yng Nghyngor Gwynedd, i barhau i gyflwyno agweddau ar raglen Llwyddo'n Lleol sydd wedi'i hanelu at bobl ifanc ac i ymgymryd ag ymarfer "oedi a myfyrio". Gan weithio'n agos gyda Wavehill, bwriad hyn yw caniatáu i'r awdurdodau lleol nodi'r hyn sydd wedi gweithio'n dda, lle mae'r effaith wedi bod gryfaf, yr hyn sydd wedi bod yn llai effeithiol, a lle mae cyfleoedd yn bodoli i ddefnyddio'r gwersi a ddysgwyd mewn gweithgarwch prif ffrwd. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r ymarfer hwn ar ôl ei gwblhau. Bydd hyn yn allweddol i lywio ffordd ymlaen.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg a minnau yn mynychu Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd ar 4 Mawrth i drafod rhaglen ARFOR 2.
