Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Bydd Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2026 ("Rheoliadau 2026") yn gwneud newidiadau i'r rheoliadau hynny sy'n darparu ar gyfer cymorth statudol i fyfyrwyr a diogelu ffioedd dysgu (er mwyn i statws ffioedd cartref a ffioedd dysgu wedi'u capio fod yn gymwys). Mae'r newidiadau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr cymwys sy'n dilyn cwrs addysg uwch dynodedig mewn blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2026. 

Sylwer, mae'r wybodaeth a ddisgrifir yn yr hysbysiad hwn at ddibenion cyfarwyddo'n unig ac mae'n dibynnu ar Reoliadau 2026 yn cael eu gwneud yn gyfraith. Nid yw'r hysbysiad hwn yn cwmpasu pob manylyn o'r polisi ac ni ddylid ei drin fel cyngor cyfreithiol nac esboniad cyflawn o'r gyfraith.

Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir ar adeg ei chyhoeddi, ond ni ddylid dibynnu arni fel crynodeb cyflawn a chywir o Reoliadau 2026. Os bydd anghysondeb rhwng yr hysbysiad hwn a Rheoliadau 2026, Rheoliadau 2026 fydd drechaf.

Disgwylir i Reoliadau 2026 ddod i rym ym mis Mawrth 2026.

Cymhwysedd

Cymhwystra ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a diogelu ffioedd dysgu i bobl sydd â chaniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros yn y DU a roddwyd o dan Lwybr Ymateb Afghanistan

Bydd Rheoliadau 2026 yn estyn y diffiniad o "berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Affganistan" i gynnwys personau sydd â chaniatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd o dan Lwybr Ymateb Affganistan. 

Roedd Llwybr Ymateb Affganistan yn gynllun mewnfudo a oedd yn agored i unigolion a oedd yn bodloni meini prawf penodol, gan gynnwys cael eu categoreiddio fel rhai mewn perygl uchel o gael eu targedu gan y Taliban, ac nad oeddent yn gymwys cyn hynny i gael statws caniatâd i aros o dan Bolisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid, Cynllun Ailsefydlu Dinasyddion Afghanistan neu unrhyw lwybr arall sy'n darparu statws sefydlog.

Agorwyd y cynllun Llwybr Ymateb Affganistan gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Ebrill 2024 ac fe'i caewyd i geisiadau newydd ar 4 Gorffennaf 2025.

Bydd darparu cymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr ac i gael eu ffioedd wedi eu diogelu o dan y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr a diogelu ffioedd yn sicrhau polisi cyson ar gyfer pob dinasyddion perthnasol o Affganistan ac aelodau o'u teuluoedd.

Yn ogystal, gellir camddehongli geiriad penodol o fewn y diffiniad o "berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros fel dinesydd perthnasol o Afghanistan". Bydd Rheoliadau 2026 yn diwygio geiriad presennol y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr a diogelu ffioedd i sicrhau dealltwriaeth glir o'r gofynion ar gyfer cymhwystra. Nid oes unrhyw newid i bolisi yn deillio o'r newidiadau hyn.

Bydd y diwygiadau yn berthnasol i flwyddyn academaidd cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2026, a byddant yn berthnasol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig newydd a phresennol cymwys.

Ymholiadau

Os oes gennych ymholiadau ynghylch ceisiadau, sut i wneud cais, taliadau neu unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn, anfonwch e-bost at Is-adran Strategaeth a Chyllid Llywodraeth Cymru.

Mae fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill ar gael ar gais.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.