Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Ar 2 Chwefror, lansiodd Perfformiad a Gwella’r GIG gam cyntaf y model cynhyrchiant pob-ffactor. Ymateb yw hyn i argymhelliad gan y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG ynghylch datblygu mesur cyfannol o gynhyrchiant y system, ac mae’n ganlyniad i waith â ffocws gan Lywodraeth Cymru, Perfformiad a Gwella'r GIG a sefydliadau'r GIG.
Mae'r model, a ddatblygwyd at ddibenion gwybodaeth reoli’r GIG, yn nodi tueddiadau o ran twf cynhyrchiant rhwng 2019-20 a 2024-25 ar lefel Cymru gyfan a’r byrddau iechyd. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr edrych ar y ffactorau sylfaenol sy’n gyrru cynhyrchiant drwy edrych yn fanwl ar fewnbynnau (gwariant) ac allbynnau (gweithgarwch gofal eilaidd).
Y flaenoriaeth yn syth yw defnyddio'r model i hybu gwelliannau mewn cynhyrchiant ym maes gofal eilaidd. Y nod yw datblygu'r model ymhellach i adlewyrchu ansawdd ac, yn y pen draw, i fesur cynhyrchiant y system gyfan, gan gynnwys gofal sylfaenol a chymunedol.
Mae’n un o nifer o fesurau i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i wella cynhyrchiant, effeithlonrwydd, a’r ffordd mae’n defnyddio ei adnoddau. Mae’r mesurau eraill yn cynnwys:
- Parhau i ddatblygu’r Pecyn Cymorth Gwerth, Dyrannu, Defnyddio a Dysgu – neu VAULT. Storfa wybodaeth yw hon sydd wedi'i chynllunio i ddangos pa gyfleoedd sydd ar gael i wella'r defnydd o adnoddau.
- Pwyslais ar gyflawni set allweddol o gamau gweithredu galluogol ar sail "mabwysiadu neu gyfiawnhau". Mae nifer o'r camau gweithredu hyn yn ymwneud â gweithgarwch y mae'n rhaid rhoi llai o flaenoriaeth iddo a rhoi’r gorau iddo os oes tystiolaeth o wastraff, niwed neu amrywiadau sy'n arwain at werth neu effeithiolrwydd clinigol isel neu ddim o gwbl.
- Gwneud newidiadau i'r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu, er mwyn cynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd a lleihau amrywiadau. Mae'r galluogwyr hyn wedi'u nodi yn y canllawiau cenedlaethol ar ofal a gynlluniwyd, ac maent yn ychwanegol at y £120 miliwn i leihau amseroedd aros hir a'r rhestr aros gyffredinol.
Rwy'n disgwyl i holl sefydliadau'r Gwasanaeth Iechyd ddefnyddio'r wybodaeth a'r cyfleoedd hyn i ddatblygu cynlluniau clir sy'n dangos sut y bydd eu camau gweithredu yn sicrhau cynnydd mewn cynhyrchiant yn 2026-27, fel y nodir yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru.
