Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi

Yn ddiweddar, mae CThEF wedi cyhoeddi rhybudd ynglŷn â gweithredu modelau gwrthbwyso credyd treth (TCOM) a allai arwain at dwyll posibl.

Os ydych chi'n defnyddio ein cytundebau fframwaith Asiantaeth, gallwn gadarnhau bod gwiriadau cyflenwyr wedi'u cynnal yng ngham cymhwyso'r fframwaith presennol. Mae'r gwiriadau hyn yn sicrhau bod unrhyw asiantaeth fframwaith sy'n defnyddio cwmnïau talu ambarél yn cyflawni'r diwydrwydd dyladwy perthnasol ac yn dilyn cod ymddygiad sydd wedi’i ardystio’n annibynnol. Mae hyn yn golygu y dylai asiantaethau sydd ar ein fframwaith fod yn cydymffurfio â'r newidiadau sy'n cael eu gweithredu gan CThEF yn barod, a byddwn yn parhau i atgoffa cyflenwyr o'r disgwyliad hwn. I gael gwybodaeth am ganllawiau CThEF, ewch i wefan GOV.UK.

I ddarganfod mwy am ein fframweithiau, anfonwch e-bost at: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru.

Oeddech chi'n gwybod?

Yn ogystal â chynnig cytundeb cryf, mae 95% o'r gwariant drwy ein fframwaith athrawon cyflenwi trwy gyflenwyr o Gymru.