Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig, a osodwyd ar ffurf drafft gerbron y Senedd ar 1 Rhagfyr 2025 ac a ddyroddwyd ar 2 Chwefror 2026, yn gymwys yn gyfartal i awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru o ran comisiynu gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru) o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. 

Mae’r Cod Ymarfer yn ategu fy nyheadau i’r holl wasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig yng Nghymru fod o’r ansawdd uchaf, a’u bod yn canolbwyntio ar wella a chyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’r oedolion a’r plant sy’n elwa ar y gwasanaethau hynny. Mae’r Cod Ymarfer yn annog dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau i bobl, cydweithio, a diwylliant o ddysgu a gwella. Ei nod yw sicrhau arferion mwy cyson ledled Cymru.

Daw’r Cod Ymarfer i rym ar 31 Mawrth 2026, a bydd yn disodli’r canllawiau statudol Escalating Concerns with, and Closures of Care Homes Providing Services for Adults a ddyroddwyd yn 2009. Dylid darllen y Cod Ymarfer ar y cyd â’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru: Cod Ymarfer.

Ar 3 Chwefror 2026, gwnaed Gorchymyn Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2026 a Chyfarwyddydau i Fyrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru. Dyroddwyd y Cyfarwyddydau drwy Gylchlythyr Iechyd Cymru ar 4 Chwefror 2026. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r sefydliadau hyn arfer eu swyddogaethau perthnasol yn unol â darpariaethau’r Cod Ymarfer pan ddaw i rym.