Neidio i'r prif gynnwy

Gofyniad i feddu ar Gymhwyster Athrawon Addysg Bellach

Cyflwynodd Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024 y gofyniad i bob athro addysg bellach sy'n ymarfer feddu ar gymhwyster addysgu a nodir yn Atodlen 6 Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015, neu weithio tuag at un o'r cymwysterau o fewn y cyfnod amser canlynol:

  • tair blynedd o'r dyddiad pan ddechreuodd weithio tuag at y cymhwyster, os yw'r person yn cael ei gyflogi'n llawn amser
  • pum mlynedd o'r dyddiad pan ddechreuodd weithio tuag at y cymhwyster, os yw'r person yn cael ei gyflogi'n rhan-amser

Mae'r gofyniad i feddu ar gymhwyster addysgu a nodir yn Atodlen 6 wedi bod ar waith ers 10 Mai 2024. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y dylai pob athro addysg bellach, o’r pwynt pan gaiff ei gyflogi, naill ai:

  • fod â chymhwyster a nodir yn Atodlen 6
  • fod yn gweithio tuag at un ohonynt 

Pwrpas y gofyniad yw proffesiynoli gweithlu'r sector a chyfrannu at ddatblygu cydraddoldeb ag amodau athrawon ysgol, y tu hwnt i dâl. Mae gwaith pellach ar y cynnig ar gyfer datblygiad proffesiynol ac Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn mynd rhagddo drwy'r adolygiad o AGA Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n diweddaru'r rhestr o gymwysterau sydd wedi'u nodi yn Atodlen 6, gyda'r nod o gynyddu'n sylweddol y nifer a fydd yn cael eu cydnabod.

Datblygwyd y rhestr ddiwygiedig ochr yn ochr â Chyngor y Gweithlu Addysg a ColegauCymru. Y gobaith yw y bydd hyn yn adlewyrchu'n well y cymwysterau perthnasol hynny sy'n bodloni'r meini prawf ac sydd eisoes gan y gweithlu, gan leihau'n sylweddol nifer yr athrawon y bydd gofyn iddynt ennill cymhwyster addysgu ychwanegol. 

Caiff y rhestr gymwysterau ddiwygiedig ei chyflwyno drwy Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach, Cyfnodau o Absenoldeb o’r Gwaith a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, disgwylir i'r Rheoliadau ddod i rym o wanwyn 2026.

Cofnod Cyngor y Gweithlu Addysg

Gellir gweld cofnod ymarferydd cofrestredig drwy system fewngofnodi MYEWC, i wirio a yw un o'r cymwysterau a restrir yn Atodlen 6 ganddo eisoes.

Bydd sicrhau bod y cofnodion yn gyfredol yn help i Gyngor y Gweithlu Addysg wrth gynghori Gweinidogion Cymru ar y diweddariadau sydd eu hangen er mwyn nodi mwy o gymwysterau addysgu AB perthnasol yn Atodlen 6 i'r dyfodol.

Cymorth gan gyflogwyr

Bydd cyflogwyr yn gallu dweud p'un a oes gan athrawon un o'r cymwysterau addysgu perthnasol a nodwyd, neu p'un a oes angen sesiynau datblygu proffesiynol pellach er mwyn cael un ohonynt. 

Byddant hefyd yn gallu cyfeirio at gymorth, cymwysterau addysgu perthnasol ar gyfer eu lleoliad, ac unrhyw gyllid sydd ar gael i helpu. Cysylltwch â'ch adran Adnoddau Dynol yn y lle cyntaf.

Crynodeb o'r camau y gallwch eu cymryd

  • Gwiriwch gofnod ymarferwyr Cyngor y Gweithlu Addysg am gymhwyster addysgu a nodir yn Atodlen 6.
  • Trafodwch y cymhwyster addysgu gyda'ch cyflogwr neu cyflogai.
  • Os oes gan unigolyn gymhwyster a nodir yn Atodlen 6, nid oes angen cymryd camau pellach i fodloni'r gofyniad hwn.
  • Os yw'r cyflogwr yn nodi bod gan unigolyn gymhwyster perthnasol nad yw wedi'i nodi yn Atodlen 6, gallwch chi anfon e-bost at cymwysterauathrawonab@llyw.cymru i roi gwybod inni am y cymhwyster y mae'r cyflogwr yn credu y dylid ei ychwanegu.
  • Os yw'r cyflogwr yn nodi nad oes gan unigolyn gymhwyster addysgu perthnasol neu a nodwyd, trafodwch y cymorth sydd ar gael i ennill un ohonynt.