Neidio i'r prif gynnwy

Manylion

Dyddiad Cyhoeddi:

4 Chwefror 2026

Statws:

Cydymffurfio: rhaid i’r derbynnydd gydymffurfio 

Gweithredu: mae’n ofynnol i’r derbynnydd gymryd camau gweithredu penodol

Categori:

Deddfwriaeth 

Teitl:

Cyfarwyddydau i gymhwyso Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig: Chwefror 2026  

Dyddiad dod i ben / Dyddiad yr Adolygiad: 

Amherthnasol

I’w weithredu gan:

Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru

I’w weithredu erbyn:

O 31 Mawrth 2026 ymlaen

Anfonir gan:

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Galluogi Pobl 

Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru

Y Gangen Rheoleiddio ac Arolygu ac Ansawdd Cartrefi Gofal, 
Llywodraeth Cymru, 
Parc Cathays, 
Caerdydd 
CF10 3NQ 
E-bost: TîmCartrefiGofal@llyw.cymru 

Dogfennau amgaeedig: 

  1. Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig 2026.
  2. Gorchymyn Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2026.
  3. Cyfarwyddydau i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig 2026.

Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig (WHC/2025/044)

Annwyl Gydweithwyr,

Rydym yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu y gosodwyd y Cod Ymarfer drafft ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig 2026 (‘y Cod Ymarfer’) gerbron y Senedd ar 1 Rhagfyr 2025. Wedi’r cyfnod annilysu o 40 diwrnod, lle na chafwyd penderfyniad gan y Senedd i beidio â chymeradwyo’r drafft, dyroddwyd y Cod Ymarfer ar 2 Chwefror 2026.   

Ar 3 Chwefror 2026, gwnaeth y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol y Cyfarwyddydau i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig 2026. Mae’r Cyfarwyddydau yn darparu bod rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG arfer eu swyddogaethau perthnasol yn unol â darpariaethau’r Cod Ymarfer. 

Ar 3 Chwefror 2026, gwnaed Gorchymyn Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2026 a bydd yn dod â’r Cod Ymarfer i rym ar 31 Mawrth 2026.

Mae’r Cod Ymarfer yn gymwys i awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru mewn perthynas â chomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru) o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Caiff y Cod Ymarfer ei ategu gan adnoddau a thempledi a ddarperir ym Mhecyn Cymorth y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yng Nghymru. Gellir cael gafael ar y pecyn cymorth hwn drwy blatfform Cymuned Ymarfer Comisiynu Gofal a Chymorth (y Fframwaith Cenedlaethol). Rhaid i ddefnyddwyr gael cyfrif i gael gafael ar y pecyn cymorth. 

Camau gweithredu:

  1. Gofynnir i Fyrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru nodi y bydd y Cod Ymarfer yn dod i rym ar 31 Mawrth 2026 yn sgil gwneud y Gorchymyn sydd ynghlwm.
  2. Rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru gydymffurfio â’r Cyfarwyddydau sydd ynghlwm. Hynny yw, o 31 Mawrth 2026 ymlaen, rhaid iddynt arfer eu swyddogaethau yn unol â darpariaethau perthnasol y Cod Ymarfer.
  3. Yn unol â darpariaethau’r Cod Ymarfer, rhaid i Fyrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru gydweithio ag awdurdodau lleol o ran y gofynion a’r canllawiau ynghylch gweithio mewn partneriaeth a chydweithio sydd wedi’u cynnwys yn y Cod Ymarfer.
  4. Gofynnir i gomisiynwyr Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru sy’n comisiynu gwasanaethau gofal a chymorth sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, a chydweithwyr perthnasol eraill, gofrestru ar blatfform Cymuned Ymarfer Comisiynu Gofal a Chymorth (y Fframwaith Cenedlaethol) y cyfeirir ato uchod.

Yn gywir,

Jacqueline Totterdell                           
Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru

Albert Heaney CBE
Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru