Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith parhaus y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gryfhau a moderneiddio'r system penodiadau cyhoeddus yng Nghymru.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod penodiadau cyhoeddus yn adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu drwy brosesau teg, tryloyw a chynhwysol.
Mae'r datganiad hwn yn nodi'r cynnydd rydym wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf a'r camau y byddwn yn parhau i'w gweithredu i sicrhau bod penodiadau cyhoeddus yn hygyrch, yn gynrychioliadol ac yn ddibynadwy.
Cyhoeddodd y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ei Adroddiad Blynyddol 2024-25 ym mis Rhagfyr 2025, sy’n cynnwys data amrywiaeth ar gyfer penodiadau a wnaed yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at welliannau calonogol o ran amrywiaeth ac yn cydnabod llwyddiannau Llywodraeth Cymru. Ar fy nghais i, roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys, am y tro cyntaf, ddata ar ranbarthedd yng Nghymru a'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg. Yn ddiweddar, cyhoeddodd fy swyddogion arolwg o’r holl aelodau byrddau rheoleiddiedig a fydd yn creu'r data sylfaenol o dan ein strategaeth Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru. Roedd y prif ffigurau ar benodiadau rheoleiddiedig yn adroddiad y Comisiynydd yn cynnwys y canlynol:
- Roedd 60% o'r rhai a benodwyd yn fenywod, i fyny o 50% yn 2023-24.
- Roedd 15% yn ystyried eu hunain yn anabl, cynnydd sylweddol o 3.9% y flwyddyn flaenorol.
- Roedd 19% o gefndir ethnig leiafrifol.
- Gwnaeth 37% o'r rhai a benodwyd ddisgrifio eu hunain fel rhai sy'n dod o gefndir economaidd-gymdeithasol is (mesur newydd ar gyfer 2024-25).
- Dywedodd 24% eu bod yn meddu ar sgiliau uwch yn y Gymraeg (mesur newydd ar gyfer 2024-25).
Rhaglen o welliannau
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cyflwyno rhaglen gynhwysfawr o welliannau i foderneiddio'r system penodiadau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Canllawiau, safonau a chymorth wedi'u cryfhau
- Cyflwyno canllawiau, templedi ac adnoddau mewnol newydd i gefnogi prosesau recriwtio cyson, o ansawdd uchel ac sy'n cydymffurfio.
- Lansio tudalennau gwe newydd sbon ar gyfer ymgeiswyr i ddarparu rhagor o wybodaeth am y broses, gan gynnwys canllawiau clir, astudiaethau achos yn ymwneud â phrofiad bywyd a chyngor ymarferol ar wneud cais.
Gwell hygyrchedd a phrofiad i ymgeiswyr
- Cynnal digwyddiad cyd-greu mawr gyda rhanddeiliaid, ymgeiswyr ac aelodau byrddau i nodi rhwystrau a chyd-ddylunio gwelliannau.
- Penodi Arweinydd Amrywiaeth Cynhwysiant ac Allgymorth pwrpasol i ysgogi gweithgarwch ymgysylltu wedi'i dargedu.
- Cryfhau dulliau cyfathrebu ag ymgeiswyr ac ehangu deunyddiau cymorth i wella eglurder, hygyrchedd a hyder ym mhob cam o'r broses.
- Casglu a dadansoddi adborth yn rhagweithiol gan ymgeiswyr, byrddau, Cadeiryddion, Uwch Aelodau Paneli Annibynnol a rhanddeiliaid, gan ddefnyddio'r wybodaeth hon i lywio gwelliannau parhaus ar draws y system.
Meithrin gallu a gweithio mewn partneriaeth
- Cryfhau cysylltiadau perthnasoedd â phartneriaid allweddol, gan gynnwys y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus a Swyddfa'r Cabinet.
- Meithrin cysylltiadau ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys drwy Gadeiryddion Cyrff Hyd Braich a Fforymau Prif Weithredwyr.
- Cyflwyno gweithdy ymarferol ar gyfer y Llwybr at Gynnydd i gynorthwyo ymgeiswyr posibl.
- Gwerthuso'r strategaeth Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru. Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu â’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Estyn y strategaeth tan fis Mai 2026 i sicrhau parhad ac annog gwelliannau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Arolwg o Amrywiaeth a'r Gymraeg
- Lansio arolwg dwyieithog newydd o amrywiaeth a'r Gymraeg ar gyfer holl aelodau byrddau, gan ddefnyddio safonau cyfredol y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Am y tro cyntaf, bydd hyn yn darparu set ddata sylfaenol gynhwysfawr a chyson ar gyfer holl gyrff cyhoeddus Cymru i dargedu camau gweithredu a chryfhau tryloywder.
Y camau nesaf
Wrth edrych ymlaen, byddwn yn parhau i ymgorffori tegwch, tryloywder a chynhwysiant drwy gamau gweithredu ymarferol a mesuradwy. Bydd ein camau gweithredu nesaf yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Rhoi'r blaenoriaethau a nodwyd drwy'r digwyddiad cyd-greu ar waith.
- Datblygu fframwaith recriwtio a phroses recriwtio cynhwysol a deunyddiau wedi'u diweddaru i ymgeiswyr.
- Coladu data amrywiaeth pwrpasol ar gyfer Cadeiryddion cyrff cyhoeddus rheoleiddiedig drwy ein cylch arolwg nesaf, i fynd i'r afael â'r bwlch presennol mewn gwybodaeth am y rolau arwain hyn. Byddwn hefyd yn gweithio gydag Academi Wales, sy'n gyfrifol am ddatblygu byrddau, i sicrhau bod cymorth i Gadeiryddion yn cyd-fynd â'n huchelgais ehangach i wella amrywiaeth ar lefelau uwch.
- Gwella dulliau rhoi adborth i wella dysgu a phrofiad ymgeiswyr.
- Cyflwyno hyfforddiant ar-lein i aelodau paneli i wella cysondeb a hyder.
- Darparu allgymorth ac ymgysylltu wedi'u targedu i annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i benodiadau cyhoeddus.
- Cryfhau ansawdd, cysondeb a'r defnydd o ddata amrywiaeth a sgiliau.
- Cryfhau cysylltiadau â Phwyllgorau'r Senedd i hyrwyddo goruchwyliaeth a hyder yn y system.
Gyda'i gilydd, bydd y camau gweithredu hyn yn helpu i sicrhau bod penodiadau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i esblygu, gan alluogi byrddau i elwa ar ystod ehangach o ddoniau, profiadau a safbwyntiau.
