Mae adnoddau Cymru gyfan newydd yn cael eu datblygu i gefnogi'r canllawiau cyfredol ar gyfer ysgolion i ddelio ag achosion o arfau mewn ysgolion a lleoliadau addysg.
Bydd y dull Cymru gyfan hwn, sy'n gam gweithredu o'r Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol yn 2025, yn adeiladu ar y canllawiau a lansiwyd gan Gyngor Caerdydd yn hydref 2025 i ddarparu cyngor syml ac ymarferol i ysgolion Caerdydd.
Bydd Cyngor Caerdydd yn arwain ar waith gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i ddatblygu dull gweithredu cyson i ysgolion ledled Cymru ar gyfer rheoli achosion os digwydd i blant fynd ag arfau ar safle'r ysgol neu pan fo unrhyw amheuon rhesymol bod disgybl yn meddu ar arf ar safle'r ysgol.
Bydd y gwaith yn cynnwys ymgysylltu â phartneriaid ledled Cymru ac ystyried arferion gorau a'r dystiolaeth ddiweddaraf, gan ymgysylltu â phobl ifanc, teuluoedd a chymunedau drwy gydol y broses.
Yn seiliedig ar egwyddorion protocol Arfau mewn Ysgolion a Lleoliadau Addysg (WISES) Cyngor Caerdydd, bydd y gweithgor yn datblygu set o adnoddau y gellir eu haddasu i roi arweiniad i ysgolion ac awdurdodau lleol ledled Cymru.
Bydd yr adnoddau newydd yn ategu canllawiau presennol Llywodraeth Cymru 'Ymyriad diogel ac effeithiol: defnyddio grym rhesymol a chwilio am arfau', sy'n nodi sut all ysgolion yng Nghymru gynnal chwiliad o ddisgyblion yr amheuir eu bod yn cario arf.
Nod yr adnoddau newydd yw sicrhau dull gweithredu cadarn, cyson a theg sy'n ystyriol o drawma, hybu dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol a darparu gwell diogelwch a chefnogaeth i'r holl staff a dysgwyr, gan gynnwys y dysgwyr hynny sydd ag arfau yn eu meddiant.
Cynhyrchwyd canllawiau WISES Cyngor Caerdydd ar y cyd ag ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys Heddlu De Cymru, llywodraethwyr, undebau llafur, gwasanaethau ieuenctid ac arbenigwyr atal trais. Ymgynghorwyd â phlant a phobl ifanc hefyd.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd ac Aelod o'r Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry:
Mae'r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi dewis defnyddio canllawiau Cyngor Caerdydd fel sail i gyflwyno dull gweithredu cenedlaethol yn hynod gadarnhaol. Mae'n adlewyrchu cymeradwyaeth gref i'r gwaith yr ydym wedi'i wneud gydag ysgolion, partneriaid a chymunedau, ac mae'n adlewyrchu'r effaith y mae eisoes yn ei chael wrth helpu i gadw pobl ifanc a staff ysgolion yn ddiogel.
Mae'r canllawiau wedi cael eu cydnabod fel arfer gorau cenedlaethol, gan ennill gwobr yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru, ac mae eu mabwysiadu ledled Cymru yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o ysgolion yn elwa ar ddull clir, cyson a chefnogol. Mae hon yn foment falch i Gaerdydd ac yn gam cadarnhaol i blant a phobl ifanc ledled y wlad.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Mae gan ddysgwyr, athrawon a staff mewn ysgolion yr hawl i weithio mewn amgylchedd diogel a pharchus. Mae canllawiau cenedlaethol eisoes yn glir bod ysgolion yng Nghymru yn gallu sgrinio unrhyw ddisgyblion yr amheuir eu bod yn cario arf.
Bydd yr adnoddau pellach hyn yn rhoi mwy o eglurder i ysgolion, dysgwyr a theuluoedd i sicrhau bod ysgolion yn lle diogel.
Un o'r pum cam gweithredu uniongyrchol o'r Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol oedd sicrhau ein bod yn rhannu arferion gorau rhwng ysgolion yn lleol ac yn genedlaethol. Mae cyflwyno protocol Cymru gyfan yn adeiladu ar y gwaith da a wnaed eisoes gan Gyngor Caerdydd, sydd wedi cael ei groesawu'n eang gan benaethiaid, cymunedau ysgolion a theuluoedd, i ddarparu dull gweithredu cyson ledled Cymru. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan gyllid o hyd at £300,000 dros y 12 mis nesaf, gyda'r bwriad o sicrhau bod yr holl adnoddau ar gael ledled Cymru yn 2027.
Bydd yr adnoddau newydd yn helpu ysgolion i weithio'n agos gyda theuluoedd a gwasanaethau eraill fel y gellir rhoi'r cymorth cywir ar waith, tra'n sicrhau diogelwch i staff a dysgwyr.
