Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Ar 4 Tachwedd, cadarnheais mewn Datganiad Ysgrifenedig fy mod yn ymgynghori ar newidiadau i symud Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol i raddfa gyflog y grŵp arweinyddiaeth. Ar y cyfan, roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad yn gefnogol i wneud y newidiadau i symud Cydlynwyr ADY i'r raddfa arweinyddiaeth. Mae'r newidiadau hyn yn deillio o bumed adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB).
Er mwyn gweithredu'r newidiadau hyn, byddaf yn mynd ati'n fuan i wneud Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2026 sy'n dod â fersiynau diwygiedig o Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2025 i rym. Mae'r fersiwn gyntaf yn dod â'r dyfarniad cyflog i rym yn ôl-weithredol, a chaiff ei ôl-ddyddio i 1 Medi 2025. Mae'r ail fersiwn yn dod â'r newidiadau cysylltiedig i'r telerau a'r amodau i rym, nad ydynt yn ôl-weithredol, er mwyn gwarchod buddiannau Cydlynwyr ADY.
Bydd angen i gyflogwyr nawr weithio drwy oblygiadau ymarferol symud Cydlynwyr ADY i bwynt priodol ar raddfa gyflog y grŵp arweinyddiaeth. Gallai hyn gymryd mwy neu lai o amser i wahanol ysgolion, ac felly mae’n bosibl y caiff yr ôl-daliadau eu talu mewn misoedd gwahanol. Bydd gwybodaeth fanwl am weithredu’r newid yn cael ei nodi mewn polisi cyflog a fydd yn cael ei gytuno rhwng cyflogwyr ac undebau llafur.
Nodaf yn benodol fod pryderon wedi'u codi am effaith y newid ar y Cydlynwyr ADY sydd eisoes ar y raddfa arweinyddiaeth, nad oeddent o fewn cwmpas argymhelliad IWPRB. Awgrymodd IWPRB yn ei bumed adroddiad y dylai cyrff perthnasol ystyried tâl penaethiaid sy'n ymgymryd â rôl Cydlynydd ADY, gan ddefnyddio'r hyblygrwydd sydd ar gael iddynt ym mharagraff 9 o Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).
Mae rôl Cydlynydd ADY yn hollbwysig wrth sicrhau bod dysgwyr yn derbyn y ddarpariaeth gywir i ddiwallu eu hanghenion amrywiol, gan ymgorffori hyn ar draws yr ysgol. Mae rôl Cydlynydd ADY ar ei mwyaf effeithiol pan fydd yn rhan o'r uwch dîm arweinyddiaeth, gan ddylanwadu ar gyfeiriad strategol a phenderfyniadau'r ysgol. Wrth i anghenion dysgwyr esblygu, bydd rôl y Cydlynydd ADY yn parhau i ddatblygu, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gweithlu mwy medrus a hyderus sydd wedi'u harfogi i ddarparu addysg gynhwysol a chyflawni amcanion y system ADY.
Roedd 1 Medi 2025 yn nodi penllanw cyfnod pedair blynedd o weithredu'r system ADY yn raddol, gyda'r nod o greu dull cynhwysol o gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru, mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y dysgwr ac sy'n seiliedig ar ei hawliau.
Wrth i'r cyfnod gweithredu ddod i ben, mae'r ffocws bellach yn symud tuag at ymgorffori a chryfhau'r system ADY ar draws pob lleoliad addysgol, gan sicrhau effaith gyson a gwelliant parhaus er budd dysgwyr. Mae rôl arweinyddiaeth Cydlynwyr ADY yn sylfaenol i'r broses hon, gan fod eu dylanwad strategol a'u hymrwymiad yn hanfodol wrth yrru system gymorth gynhwysol ac effeithiol i bob plentyn a pherson ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Fel yr wyf wedi cadarnhau o'r blaen, bydd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ac o 2026/27 ymlaen at ddibenion cefnogi'r newid hwn. Byddaf yn ysgrifennu at awdurdodau lleol i nodi fy nisgwyliadau ynghylch ei roi ar waith.
Rwy'n falch o fod yn symud Cydlynwyr ADY i'r raddfa gyflog arweinyddiaeth sy'n hanfodol er mwyn cydnabod y rôl bwysig y mae Cydlynwyr ADY yn ei chwarae yn ein system addysg, ac er mwyn eu gwobrwyo. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses hon.
Fel y nodais yn fy Natganiad Ysgrifenedig, dyddiedig 22 Medi 2025, byddwn yn parhau i weithio gyda'r Fforwm Partneriaeth Cyflog ac Amodau Athrawon i archwilio gwelliannau posibl i amodau a chyflog arweinwyr, a fydd o fudd i Gydlynwyr ADY sydd eisoes ar y raddfa gyflog arweinyddiaeth a'r rhai sy'n cael eu symud iddi.
