Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a'r Prif Chwip,
Jack Sargeant AS, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Ar 19 Ionawr, bu Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a'r Prif Chwip, Jane Hutt AS, a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant AS, yn cynnal Grŵp Rhyngweinidogol y Pedair Gwlad ar Waith a Phensiynau. Daeth y cyfarfod â Gweinidogion o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynghyd i drafod blaenoriaethau a rennir o ran cymorth cyflogaeth i bobl anabl a phobl ifanc.
Wrth gadeirio'r cyfarfod, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ddull trawslywodraethol Cymru o ddarparu cymorth cyflogadwyedd i bobl anabl, gan dynnu sylw at y Cynllun Hawliau Pobl Anabl i Gymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n anelu at gryfhau hawliau a chyfleoedd pobl anabl ar draws pob maes bywyd, gan gynnwys cyflogaeth. Pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet mai'r model cymdeithasol o anabledd yw'r egwyddor ganolog sy'n sail i holl gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bobl anabl.
Tynnodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol sylw at bwysigrwydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyflogwyr gan gynnwys Busnes Cymru a'r Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, sy'n tynnu ar brofiad bywyd i helpu cyflogwyr i gael gwared ar rwystrau gan ddefnyddio'r model cymdeithasol o anabledd. Croesawodd y Gweinidog y gwaith ar y cyd ar Arloeswyr Anweithgarwch Economaidd Cymru, yn enwedig effeithiolrwydd eu dull amlasiantaethol sy'n canolbwyntio ar y person, ond nododd bryderon am y cyfnod cyllido dwy flynedd. Gofynnodd i Lywodraeth y DU rannu'r dysgu cynnar ac unrhyw gynlluniau ar gyfer cyflwyno'r Arloeswyr yn ehangach, cyn gynted ag y bydd ar gael.
Pwysleisiodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol bwysigrwydd dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, monitro canlyniadau cyflogaeth a mynd i'r afael â bylchau cyflog, a chroesawodd yr ymrwymiad parhaus i gydweithio ar draws y pedair gwlad. O ran cyflogaeth ieuenctid, tynnodd y Gweinidog sylw at lwyddiant y Warant i Bobl Ifanc yng Nghymru, sydd wedi cefnogi 64,000 o bobl ifanc i gael gwaith ers 2021. Gan ganolbwyntio ar y goblygiadau ar gyfer rhaglenni peilot yng Nghymru, pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd ymgysylltu'n gynnar â'r llywodraethau datganoledig ar ddatblygu Gwarant Ieuenctid y DU. Bydd yr ymgysylltiad hwn hefyd yn sicrhau cysondeb ac aliniad o ran y ddarpariaeth ar draws llywodraethau datganoledig ac yn gwneud y mwyaf o'r effaith.
Nodwyd y rhwystrau ymarferol i gyflogaeth sy'n wynebu pobl ifanc a phobl anabl, gan gynnwys mynediad at addysg, trafnidiaeth a hyfforddiant. Cydnabuwyd bod Cymru yn enghraifft o arfer da o ran lliniaru rhwystrau, er enghraifft, drwy gynnal a chynyddu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg a chyflwyno prisiau bws fforddiadwy i bobl ifanc.
Daeth y cyfarfod i ben gydag ymrwymiad i barhau i rannu gwybodaeth a gwella cydweithredu ar draws y pedair cenedl i atal dyblygu ymdrechion.
Disgwylir i hysbysiad gael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y dyfodol agos.
Mae'r Cylch Gorchwyl ar gael ar dudalen Cysylltiadau Rhynglywodraethol bwrpasol gwefan Llywodraeth y DU.
