Neidio i'r prif gynnwy

Bywgraffiad y Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol (Cymru).

Image
Melissa McCullough

Cafodd Melissa McCullough ei phenodi yn Gomisiynydd Safonau’r Holl Ynysoedd ym mis Mawrth 2023 a gwasanaethodd fel Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon o 2020 i 2025.

Ers 2005, mae hi wedi gweithio fel academydd yn y gyfraith, moeseg a phroffesiynoldeb yn y DU ac Iwerddon. Gwasanaethodd fel cyfarwyddwr anweithredol ar y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon – rôl a oedd yn benodiad gweinidogol – o 2009 tan 2020. Ar hyn o bryd, mae’n aelod o Bwyllgor Moeseg y BMJ.

Mae gwaith cyhoeddedig a diddordebau ymchwil Melissa yn cynnwys proffesiynoldeb, moeseg gymhwysol, cydraddoldeb a chyfiawnder mewn polisi ac ymarfer, addysg moeseg a moeseg deallusrwydd artiffisial. Mae hi wedi ymddangos yn rheolaidd ar y cyfryngau darlledu fel un sy’n arbenigo yn y pynciau hyn.

Mae hi’n briod ac mae ganddi dri o blant sydd bellach yn oedolion.