Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol (Cymru).
Cynnwys
Cyflwyniad
Penodir y Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol gan y Prif Weinidog i'w cynghori ar faterion sy'n ymwneud â Chod y Gweinidogion. Mae deiliad y swydd yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae disgwyl iddynt roi cyngor diduedd i'r Prif Weinidog. Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd gadw at Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus.
1. Buddiannau'r gweinidogion
1.1 O dan baragraff 5.1 o God y Gweinidogion, rhaid i'r Gweinidogion sicrhau na fydd gwrthdaro, nac y gellid yn rhesymol gael yr argraff bod gwrthdaro, rhwng eu dyletswyddau cyhoeddus a'u buddiannau preifat, yn ariannol neu fel arall. Cyfrifoldeb personol pob un Gweinidog yw penderfynu a oes angen gweithredu a pha gamau y mae angen eu cymryd er mwyn osgoi gwrthdaro neu argraff o wrthdaro. Wrth wneud hynny, rhaid iddynt ystyried cyngor a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol a'r Cynghorydd Annibynnol, pan fo'r Prif Weinidog wedi gofyn am gyngor o'r fath.
1.2 Pan gânt eu penodi i bob swydd newydd, rhaid i'r Gweinidogion roi rhestr ysgrifenedig gyflawn i'r Ysgrifennydd Parhaol o'r holl fuddiannau hynny y gellid barnu eu bod yn arwain at wrthdaro buddiannau. Rhaid darparu'r rhestr hon o fewn pedair wythnos i ddechrau yn y swydd (paragraff 5.2). Dylai'r rhestr gynnwys buddiannau priod neu bartner y Gweinidogion ac aelodau o'u teulu agos y gellid barnu eu bod yn arwain at wrthdaro buddiannau. Mae gan y Gweinidogion ddyletswydd hefyd i sicrhau bod eu datganiadau'n cael eu diweddaru a gofynnir iddynt adolygu eu datganiadau'n ffurfiol bob blwyddyn (paragraff 5.4).
1.3 Ar gais y Prif Weinidog neu'r Ysgrifennydd Parhaol, caniateir i'r Cynghorydd Annibynnol hefyd roi sylwadau a chyngor ar y datganiadau o fuddiant a wneir gan y Gweinidogion; cynnwys y gofrestr arfaethedig o fuddiannau'r Gweinidogion a gaiff ei chyhoeddi; ac unrhyw fesurau y bwriedir eu rhoi ar waith i liniaru unrhyw achosion o wrthdaro buddiannau a nodwyd, naill ai o natur etholaethol neu bersonol.
1.4 Pan fo cais o'r fath wedi'i wneud, rhaid i'r Cynghorydd Annibynnol adolygu unrhyw wybodaeth a ddarperir gan Weinidog (paragraff 3.1 o'r cylch gorchwyl hwn) a chânt, yn gyfrinachol, roi cyngor i'r Gweinidog dan sylw ar unrhyw gamau y dylid eu cymryd gan y Gweinidog er mwyn cynnal y safonau a nodir yng Nghod y Gweinidogion.
1.5 Bydd gwybodaeth bersonol a ddatgelir i'r Cynghorydd Annibynnol yn cael ei thrin yn gyfrinachol.
1.6 Caniateir darparu cyngor ar sut i ymdrin â buddiannau hefyd ar sail ad-hoc. Rhaid i Weinidog y rhoddir cyngor iddynt ddarparu cofnod i'r Cynghorydd Annibynnol o'r camau a gymerwyd mewn ymateb i'r cyngor.
2. Ymchwilio i honiadau o dorri Cod y Gweinidogion
2.1 O dan God y Gweinidogion, bydd y Prif Weinidog yn penderfynu sut yr ymchwilir i honiadau o dorri'r Cod a byddant yn ymgynghori â'r Ysgrifennydd Parhaol, neu dîm Priodoldeb a Moeseg Llywodraeth Cymru ar ran yr Ysgrifennydd Parhaol, i gael cyngor cychwynnol (paragraff 1.10). Caiff y Prif Weinidog, yn ôl eu disgresiwn, gyfeirio'r gŵyn at y Cynghorydd Annibynnol ar Safonau Gweinidogol (paragraff 1.11).
2.2 Pan fydd hyn yn digwydd, bydd y Cynghorydd Annibynnol yn ymchwilio i honiadau bod Cod y Gweinidogion wedi'i dorri ac yn llunio adroddiad ar y canfyddiadau ar gyfer y Prif Weinidog. Bydd y Cynghorydd Annibynnol yn cael rhwydd hynt, di-dor i gynnal yr ymchwiliad fel y gwelant yn dda, a bydd Gweinidogion a gweision sifil Llywodraeth Cymru yn cydweithredu'n llawn â'r ymchwiliad. Pan fydd y Prif Weinidog yn comisiynu ymchwiliad, bydd cylch gorchwyl yn cael ei gyhoeddi ar ddechrau'r ymchwiliad gyda'r adroddiad dilynol hefyd yn cael ei gyhoeddi'n llawn, yn amodol ar unrhyw rwymedigaethau neu esemptiadau cyfreithiol sy'n cystadlu.
2.3 Bydd disgwyl i'r Cynghorydd Annibynnol gynnwys yn eu hadroddiad eu barn ynghylch a fu achos o dorri Cod y Gweinidogion a chânt, os dymunant, gynnwys unrhyw ffactorau lliniarol a allai fod yn berthnasol. Os byddant yn canfod bod Cod y Gweinidogion wedi'i dorri, yna ni ddisgwylir iddynt wneud argymhelliad ar sancsiynau posibl oni bai bod y Prif Weinidog yn gofyn yn benodol iddynt wneud hynny. Nid yw'n rhan o gyfrifoldebau'r Cynghorydd Annibynnol i gynnal ymchwiliadau ar eu liwt eu hunain.
2.4 Yn dilyn ymchwiliad a gynhelir gan y Cynghorydd Annibynnol, caniateir iddynt ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyngor a ddarperir i'r Prif Weinidog ar ganlyniad ymchwiliad o'r fath gael ei gyhoeddi mewn modd amserol.
2.5 Pan fo Gweinidog yn credu y gallant fod wedi methu â chynnal y safonau a osodir gan God y Gweinidogion, rhaid iddynt ysgrifennu at y Prif Weinidog. O dan amgylchiadau o'r fath, bydd y Prif Weinidog yn dilyn y dull a nodir ym mharagraffau 1.10 a 1.11 o God y Gweinidogion a chânt gyfeirio'r mater at y Cynghorydd Annibynnol.
2.6 Mater i'r Prif Weinidog yw penderfynu pa gamau i'w cymryd o ganlyniad i achos o dorri'r Cod a pha ganlyniadau sy'n briodol am achos o'r fath (paragraff 1.7).
3. Rheolau Penodiadau Busnes
3.1 O dan baragraff 5.27 o God y Gweinidogion, disgwylir i gyn-Weinidogion gydymffurfio â'r Rheolau Penodiadau Busnes a chyda'r cyngor a ddarperir gan y Cynghorydd Annibynnol.
3.2 Bydd cyn-Weinidogion yn cyflwyno cais am gyngor gan y Cynghorydd Annibynnol, a byddant yn cael y cyngor hwnnw'n ysgrifenedig. Bydd manylion y cyngor a ddarperir yn cael eu cyhoeddi os bydd rôl yn cael ei chyhoeddi neu ei derbyn.
3.3 Pan fo rheswm dros ystyried nad yw cyn-Weinidog wedi cynnal y safonau a ddisgwylir o dan y Rheolau Penodiadau Busnes, caiff y Cynghorydd Annibynnol ymchwilio i'r mater a rhoi cyngor i'r Prif Weinidog. Bydd manylion unrhyw fethiant i gynnal y safonau yn cael eu cyhoeddi.
3.4 Ymgynghorir â'r Cynghorydd Annibynnol cyn i unrhyw ddiwygiadau gael eu gwneud i'r Rheolau Penodiadau Busnes.
4. Gwybodaeth
4.1 Rhaid i Weinidog ddarparu i'r Cynghorydd Annibynnol unrhyw wybodaeth y mae'r Cynghorydd Annibynnol ei hangen yn rhesymol at ddibenion cyflawni'r cyfrifoldebau a nodir yn y cylch gorchwyl hwn. Pan fo'r Cynghorydd Annibynnol o'r farn nad yw Gweinidog yn darparu gwybodaeth o'r fath, byddant yn hysbysu'r Prif Weinidog.
4.2 Bydd gwybodaeth a ddarperir i'r Cynghorydd Annibynnol at ddibenion eu swyddogaethau yn cael ei darparu'n gyfrinachol. Caiff y Cynghorydd Annibynnol gyhoeddi gwybodaeth a ddarperir iddynt, gan gynnwys ar ffurf gryno, os byddant o'r farn bod hynny'n angenrheidiol i gyflawni eu cyfrifoldebau.
4.3 Caiff y Cynghorydd Annibynnol ei gwneud yn ofynnol i Weinidog gyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud â chydymffurfio â Chod y Gweinidogion.
5. Materion eraill yn ymwneud â Chod y Gweinidogion
5.1 Ar gais y Prif Weinidog, efallai y bydd yn ofynnol i'r Cynghorydd Annibynnol wneud sylwadau ar newidiadau arfaethedig i God y Gweinidogion.
5.2 Caiff y Cynghorydd Annibynnol, ar gais Gweinidog, roi cyngor cyffredinol i'r Gweinidog, yn gyfrinachol, mewn perthynas â Chod y Gweinidogion. Bydd y Prif Weinidog yn cael gwybod am unrhyw gais o'r fath.
5.3 Bydd disgwyl i'r Cynghorydd Annibynnol hefyd gyfrannu at yr Adroddiad Blynyddol ynghylch camau gweithredu mewn perthynas â Chod y Gweinidogion.
