Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae dogfen ymgynghori ar ganllawiau arfer da drafft ‘Gwybodaeth a Chanllawiau ar Gam-drin Domestig a Thrais Rhywiol: Diogelu Pobl Hŷn (60+) yng Nghymru’ wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae'r ymgynghoriad yn ymwneud â chanllawiau i'w cyhoeddi o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r canllawiau hyn wedi'u datblygu mewn partneriaeth â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos tan 29 Chwefror 2016. Mae'n hanfodol bod barn rhanddeiliaid yn cyfrannu at ddatblygiad y canllawiau hyn yn y dyfodol, a byddaf yn eu hystyried yn ofalus cyn cyhoeddi fersiwn derfynol y canllawiau.