Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am apwyntiadau mewn practisau cyffredinol gan gynnwys dadansoddi modd, math o ymarferydd ac ymgynghoriad; a gweithgareddau ychwanegol penodol ar gyfer Ionawr i Mawrth 2026.

Mae manylion y datganiad rheolaidd hwn wedi newid

Dyddiad datganiad blaenorol:

Rheswm am newid:

Y bwriad oedd cyhoeddi’r datganiad ystadegol ar 23 Gorffennaf 2026 ond mae penderfyniad wedi’i wneud i ohirio hynny gan fod angen mwy o amser ar gyfer sicrhau ansawdd.

Mae gwiriadau sicrhau ansawdd wedi nodi problemau gyda'r data sylfaenol yn dilyn mudo systemau rheoli apwyntiadau practisau cyffredinol i un cyflenwr. Mae'r materion hyn wedi arwain at dangyfrif rhai mathau o apwyntiadau, gan gynnwys apwyntiadau a fynychwyd o bell ac ymweliadau cartref, ac maent wedi effeithio ar gofnodi presenoldeb cleifion ar restrau brysbennu, gan arwain at gynnydd mawr yn nifer yr apwyntiadau 'heb fynychu'. Bydd data ar gyfer cyfnodau blaenorol yn parhau i fod ar gael ar y wefan; fodd bynnag, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol gael eu diwygio ar ôl i'r materion gael eu datrys. Mae ymchwiliadau'n parhau ac ni ddisgwylir datrysiad cyn hydref 2026.