Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod mwy na 100,000 o brentisiaethau wedi'u creu y tymor Seneddol hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru wedi cyrraedd carreg filltir, wrth i Lywodraeth Cymru gyflawni ei tharged o ddarparu 100,000 o brentisiaethau yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Cyhoeddwyd y garreg filltir gan y Prif Weinidog Eluned Morgan, i nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, sy'n dechrau heddiw.

Ers 2021, mae mwy na 100,000 o bobl wedi dilyn prentisiaethau o ansawdd uchel, gan roi sgiliau gwaith ymarferol a chymwysterau cydnabyddedig iddynt.

Mae hefyd wedi helpu busnesau i recriwtio, hyfforddi a chadw staff ar draws sectorau, gan gynnwys adeiladu, ynni a'r diwydiannau creadigol.

Mae'r cyfleoedd yn amrywio o lefel sylfaen i lefel gradd, gan greu llwybrau cynnydd clir i brentisiaid a chefnogi busnesau i gryfhau eu gweithlu.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

Mae creu mwy o swyddi, yn enwedig swyddi sy'n galw am grefft, wedi bod yn un o 'mhrif flaenoriaethau fel Prif Weinidog. Mae prentisiaethau o fudd nid dim ond i bobl sy'n dechrau eu gyrfa, maen nhw'n datblygu gweithlu medrus a fydd o fudd i'n heconomi am flynyddoedd i ddod, yn enwedig lle mae galw clir am weithwyr â chrefft.

Mae creu mwy na 100,000 o brentisiaethau yn rhywbeth gwych i fod wedi'i gyflawni. Mae hyn yn fwy na niferoedd yn unig – mae'n golygu bod miloedd o bobl, yn enwedig pobl ifanc, wedi ennill sgiliau gwerthfawr, hyder a llwybr clir i fyd gwaith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na hanner biliwn o bunnoedd mewn prentisiaethau yng Nghymru y tymor Seneddol hwn.

Mae aelodau'r Cabinet ledled Llywodraeth Cymru yn ymweld â phrentisiaid a chyflogwyr drwy gydol Wythnos Prentisiaethau Cymru i ddathlu'r garreg filltir a thynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael.

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant:

Mae prentisiaethau yn ganolog i sicrhau economi gryfach, decach a gwyrddach yng Nghymru. Fel cyn-brentis fy hun, dw i'n gwybod o brofiad sut gall y llwybr hwn drawsnewid bywyd. Maen nhw'n cryfhau ein gweithlu ac yn rhoi'r pŵer i bobl adeiladu eu dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth rhyfeddol i Gymru fod wedi'i gyflawni.

Dw i am ddiolch i Medr, ein partneriaid, colegau, prifysgolion, darparwyr a chyflogwyr a wnaeth hyn yn bosibl. Fe fyddwn ni'n parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn i sicrhau bod prentisiaethau yn dal i fod yn sbardun pwerus i dwf yng Nghymru.

Ar ymweliad â Real SFX - cwmni effeithiau arbennig yng Nghaerdydd - cyfarfu'r Prif Weinidog â Will Houghman, a ddechreuodd ei yrfa fel prentis Sgil Cymru yn 2019 ac sydd bellach yn aelod parhaol o staff, yn mentora prentisiaid newydd ac yn ennill sawl gwobr am ei waith.

Dywedodd Will, Technegydd gydag SFX:

Mae fy nhaith brentisiaeth gyda Real SFX drwy Sgil Cymru wedi newid fy mywyd. 

Mae'r gefnogaeth, yr ymddiriedaeth a'r cyfleoedd a roddwyd imi wedi caniatáu i mi greu gyrfa dw i'n falch ohoni. Dw i wedi mynd o ddysgu'r ABC i ennill gwobrau, a nawr mentora prentisiaid ac aelodau iau o'r tîm, sy'n cyflawni'r cylch.  

Fe wnaeth Sgil Cymru a Real SFX wneud mwy na fy rhoi ar ben ffordd - fe wnaethon nhw fy helpu i gredu yn yr hyn y gallwn i ei gyflawni. Mae hon yn yrfa dw i'n teimlo'n angerddol yn ei chylch, ac yn un dw i'n teimlo'n gyffrous i barhau i'w datblygu.

Mae Real SFX yn gweithio'n agos gyda Sgil Cymru ac mae wedi cefnogi 15 o brentisiaid ers agor yng Nghaerdydd yn 2009. 

Maent yn darparu hyfforddiant ymarferol ar draws eu canolfannau rhanbarthol yng Nghymru a'r DU, ac mae prentisiaid yn rhan annatod o dimau arbenigol Real SFX, gan gyfrannu at ystod eang o gynyrchiadau sgrin o'r radd flaenaf.