Neidio i'r prif gynnwy

Gall pob teulu 2 â phlant dyflwydd oed oed yn Abertawe bellach fanteisio ar ofal plant am ddim drwy gynllun Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma'r ail awdurdod lleol yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful i gyrraedd y garreg filltir allweddol hon.

Ymwelodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, â Chanolfan Plant Abertawe heddiw i ddathlu'r garreg filltir a gweld dros ei hun sut mae darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel yn gwneud gwahaniaeth i deuluoedd a phlant yr ardal.

Mewn gwerthusiad cenedlaethol o'r cynllun a gyhoeddwyd yr wythnos hon dywedodd teuluoedd bod eu profiad o dderbyn cymorth Dechrau'n Deg yn gadarnhaol iawn. Canfu'r adroddiad fod gofal plant Dechrau'n Deg yn cael ei ganmol yn gyson gan deuluoedd sy'n cymryd rhan am gefnogi cymdeithasu, annibyniaeth, hyder a yn ystod blynyddoedd cynnar hanfodol eu plant, a bod y rhaglen yn helpu plant i baratoi ar gyfer dechrau ysgol.

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £25 miliwn ychwanegol eleni i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg, gan ddod â Chymru yn nes at gynnig gofal plant i bob plentyn dwy oed. Mae Dechrau'n Deg yn darparu gofal plant o ansawdd uchel wedi'i ariannu'n llawn am ddwy awr a hanner y dydd, bum diwrnod yr wythnos.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod y rhaglen wedi rhagori ar ei tharged o gefnogi 9,500 o blant dwy oed ychwanegol rhwng 2023 a 2025. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod lleoedd gofal plant wedi'u cynnig i dros 13,400 o blant a theuluoedd ledled Cymru, gyda mwy na 10,000 o blant yn cymryd lle.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Mae ein rhaglenni gofal plant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant a'u teuluoedd.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn garreg filltir allweddol yn nhaith Dechrau'n Deg ac mae'n golygu bod pob teulu yn Abertawe sydd â 2 dwy oed bellach yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth gofal plant o ansawdd uchel.

Ledled Cymru, rydym wedi blaenoriaethu cyflwyno gofal plant Dechrau'n Deg i'n cymunedau mwy difreintiedig ac wedi sicrhau bod y ddarpariaeth yn gynaliadwy cyn ymestyn y rhaglen i gyrraedd mwy o blant 2 oed.

Mae'r ehangu sylweddol hwn i blant 2 oed yn rhan o becyn buddsoddi ehangach yn y blynyddoedd cynnar. Mae cyfanswm ein cyllideb ar gyfer gofal plant o ansawdd uchel eleni yn fwy na £150 miliwn.

Byddwn yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol fel y gallwn roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.

Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart:

Rydym yn ddiolchgar iawn i'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru am ariannu'r fenter hon sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant ifanc a'u teuluoedd.

Rwyf hefyd yn falch bod ein tîm wedi gweithio'n galed i gwblhau'r gwaith o gyflwyno'r ddarpariaeth fel y gall pob rhiant a gofalwr, waeth ble rydych chi'n byw yn Abertawe, nawr wneud cais am ofal plant Dechrau'n Deg ar draws ystod o leoliadau a thrwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Roedd £30 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gofal plant yn 2025 i 2026 yn ganlyniad i'r cytundeb cyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.