Cynllun cymorth i Undebau Credyd
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC11437 - cynllun i wella mynediad at gynhyrchion ariannol moesegol a fforddiadwy a ddarperir gan undebau credyd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.
1. Rhanbarth
Cymru
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Cynllun Cymorth i Undebau Credyd
3. Y sail gyfreithiol
Mae adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud unrhyw beth sy'n briodol yn eu barn nhw i hyrwyddo neu wella llesiant economaidd, cymdeithasol, ac amgylcheddol Cymru, ac mae adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth y mae angen iddynt ei wneud wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau eraill.
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Y nod yn natganiad cenhadaeth y Cynllun Cymorth i Undebau Credyd yw cynyddu a gwella cynhwysiant ariannol yn sylweddol yng Nghymru, drwy wella mynediad at gynhyrchion ariannol moesegol a fforddiadwy a ddarperir gan undebau credyd.
Oherwydd y cymysgedd o fethiant y farchnad a'r hinsawdd economaidd ers y pandemig, mae allgau ariannol yn parhau i fod yn her y mae angen ei datrys cyn gynted â phosibl, gan na all miliynau o bobl incwm isel ledled y DU gael mynediad at y cynhyrchion a'r gwasanaethau ariannol angenrheidiol. Dyma'r math o allgáu y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei leddfu drwy ddarparu grantiau i undebau credyd.
5. Diben y cynllun
Mae'r ymdrech i ehangu'r sector undebau credyd yng Nghymru yn elfen hanfodol bwysig o'r ymgyrch i sicrhau bod y farchnad gwasanaethau ariannol yn decach. Mae'n rhan allweddol o'r Arian a Phensiynau sy'n eiddo ar y cyd, a Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Llesiant Ariannol.
Canfu ymchwil gan Fair4All Finance fod dros 20 miliwn o bobl ar draws y DU yn byw mewn amgylchiadau sy'n agored i niwed yn ariannol.
Bydd y cymhorthdal yn helpu i ddatblygu capasiti yn y farchnad undebau credyd ar adegau o argyfwng. Er enghraifft, drwy gael y gallu i ddarparu cyllid cyfalaf ar gyfer gwytnwch y fantolen. Gall absenoldeb adnoddau rwystro gallu undebau credyd i dyfu os nad oes lefelau digonol o gyfalaf.
Bydd y cymhorthdal yn galluogi mwy o fynediad at gredyd ymysg pobl ar incwm isel y mae eu teilyngdod credyd yn wael, gan helpu i gynyddu twf aelodaeth undebau credyd ledled Cymru, gyda'r nod o gynyddu nifer y bobl, sydd wedi'u hallgáu'n ariannol, sy'n gallu cael mynediad at wasanaethau a chynhyrchion undebau credyd ledled Cymru.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Undebau Credyd yng Nghymru yn unig.
8. Sectorau i’w cefnogi
Gweithgareddau ariannol ac yswiriant.
9. Hyd y cynllun
Rhwng 1 Ionawr 2026 a 1 Ionawr 2031.
10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun
£20,000,000
11. Ffurf y cymorth
Bydd yr holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael eu dyfarnu drwy grantiau uniongyrchol.
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Mae'r cymhorthdal hwn ar gael i undebau credyd Cymru yn unig: nid yw ar gael i unrhyw fath arall o fenter ariannol sy'n gweithredu yng Nghymru.
Bydd yn cefnogi gyda chostau sy'n ymwneud â'r cynllun tanysgrifio ehangu benthyciadau a weithredir gan undebau credyd Cymru, ac ar gyfer gweithgareddau prosiectau refeniw i dyfu'r sector undebau credyd yng Nghymru, drwy ariannu gweithgareddau marchnata, a chodi ymwybyddiaeth a gweithgareddau hyrwyddo eraill mewn ysgolion a gweithleoedd i gynyddu cynilion drwy undebau credyd. Bydd hefyd yn darparu cyllid cymorth cyfalaf ar gyfer prosiectau sy'n gysylltiedig â gwytnwch, megis datblygiadau Fintech i wella effeithlonrwydd / gwella'r broses o symleiddio swyddogaethau swyddfa gefn; datblygiadau Fintech a fydd yn helpu i wella mynediad a gwasanaethau i aelodau, a datblygiadau a fydd yn helpu'n uniongyrchol i ehangu gwasanaethau undebau credyd i gynnwys ardaloedd daearyddol newydd nad ydynt yn cael eu gwasanaethau'n ddigonol ar hyn o bryd; cefnogi'r costau cyfalaf sy'n gysylltiedig ag uno dwy neu fwy o undebau credyd yn strategol i gynorthwyo gwytnwch; a chefnogi trothwyon cyfalaf undebau credyd lle mae risg amlwg o beidio â bodloni trothwyon PRA.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Mae'r grantiau a ddarperir i undebau credyd o dan y cymhorthdal i gyd yn cael eu monitro bob chwarter yn erbyn targedau blynyddol y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. O dan y cynllun hwn, gall cyllid Llywodraeth Cymru ddarparu hyd at 100% o gyfanswm costau'r prosiect - nid oes gofyniad ar gyfer cyllid cyfatebol na chymhareb cymhorthdal. O ran y cyllid a ddarperir o dan y cynllun ehangu benthyciadau, mae'r cyllid yn cael ei gyfrifo'n seiliedig ar fformiwla sy'n mesur maint yr undeb credyd ac yn defnyddio ffactor y risg i'r undeb credyd. Mae hyn yn cael ei gyfrifo gan Lywodraeth Cymru.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£900,000
15. Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am gymorth o dan y cynllun hwn, cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio: creditunions@gov.wales
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â:
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhif ffôn:
+ 44 (0)3000 604 400
E-bost: subsidycontrolunit@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
