Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddwyd Adroddiad Hughes (dolen allanol, Saesneg yn unig) a oedd yn nodi opsiynau ar gyfer cynllun gwneud iawn yn y DU ar gyfer menywod a gafodd eu niweidio gan rwyll pelfig a sodiwm falproad.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr effaith ddofn ar fenywod a'r gofid sy'n parhau gan na chafwyd datrysiad cynhwysfawr. Mae'r rhai yr effeithiwyd arnynt wedi dangos gwydnwch a phenderfyniad eithriadol.
Yn ei hadroddiad, argymhellodd Dr Henrietta Hughes y dylid sefydlu cynllun gwneud iawn ar draws y DU i ddiwallu anghenion cleifion unigol sydd wedi dioddef “niwed y gellid bod wedi’i osgoi” oherwydd methiannau yn gysylltiedig â rhwyll pelfig a sodiwm falproad. Dywedodd hefyd na ddylai unigolion orfod mynd ar daith emosiynol gythryblus, ac y byddai’n anghyfiawn iawn comisiynu’r gwaith hwn pe bai’r llywodraeth heb fwriad o gwbl i wneud iawn am y sefyllfa.
Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn llwyr yw bwrw ymlaen â chynllun gwneud iawn o'r fath.
Mae Gweinidogion Cymru wedi pwyso’n gyson am gynnydd drwy drafodaethau pedair gwlad ac yn parhau i fod yn glir fod perygl y bydd oedi pellach yn gwaethygu’r niwed y mae menywod a’u teuluoedd eisoes wedi’i brofi.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi trafod y mater hwn yn ddiweddar gyda chydweithwyr gweinidogol yn Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill. Er bod y trafodaethau’n parhau, nid oes penderfyniad eto ynghylch gwneud iawn.
Byddwn yn parhau i bwyso am gynnydd, tra'n sicrhau bod ein safbwynt yn cael ei deall yn glir.
Ar yr achlysur hwn, rwy'n ailadrodd ein hymrwymiad i bawb y mae hyn yn effeithio arnynt.
Rydym yn parhau i ddadlau o blaid iawndal ariannol, er mwyn rhoi terfyn ar y siwrnai emosiynol o barhau i ddisgwyl a'r niwed parhaus dros gyfnod hir.
Byddwn yn cymryd camau lle mae gennym y pŵer i wneud hynny, ac yn gweithio gyda phartneriaid eraill i sicrhau datrysiad teg a chynaliadwy.
