Mae’r Prif Weinidog, Eluned Morgan, wedi croesawu cefnogaeth i 20 o brosiectau ynni adnewyddadwy mawr—sy’n gyfanswm o fwy na 530 MW—yng Nghymru, a allai arwain at greu miloedd o swyddi gwyrdd.
Dyma’r nifer mwyaf erioed o brosiectau Cymru i dderbyn cefnogaeth yn arwerthiant Contracts for Difference Llywodraeth y DU.
Yn y rownd ddiweddaraf a gyhoeddwyd heddiw, derbyniodd pump o brosiectau gwynt ar y tir, 12 prosiect solar a thri phrosiect ynni llanw warant gontractiol ar bris yr ynni maent yn ei gynhyrchu, sy’n galluogi i waith ddechrau ar y prosiectau hyn. Sicrhaodd Cymru 99.65% o’r holl gyllid ar gyfer ynni llanw.
Yn ogystal â chynhyrchu miloedd o swyddi, bydd hyn yn creu cyfleoedd economaidd i gwmnïau Cymreig eraill ac yn helpu i gyrraedd targedau lleihau carbon.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
Rwy’n hynod falch bod y prosiectau hyn wedi bod yn llwyddiannus yn y rownd arwerthiant ddiweddaraf. Yn ogystal â chyflawni targedau hanfodol i leihau carbon, mae ynni gwynt ar y tir ac ynni llanw yn dod â buddion economaidd sylweddol a swyddi o ansawdd uchel i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro ynni gwyrdd.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw eglurder a sicrwydd i ddatblygwyr, a dyna pam yr ydym yn gweithio’n galed i gyflymu’r broses gynllunio ar gyfer prosiectau seilwaith mawr. Mae ein deddfwriaeth newydd a’n buddsoddiad mewn adeiladu capasiti eisoes yn gwneud gwahaniaeth.
