Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r Crynodeb o'r Ymatebion i'r ymgynghoriad ar yr eithriadau i gofrestru gofal plant a'r cynnig ar gyfer Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol, ynghyd â'n camau nesaf ar gyfer bwrw ymlaen â'r gwaith hwn.

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar 11 Awst 2025 a daeth i ben ar 3 Tachwedd 2025. Fe'i rhannwyd yn eang er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd ystod fawr ac amrywiol o sefydliadau ac unigolion sy'n ymwneud â gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau, a sectorau cysylltiedig ledled Cymru, yn ogystal â rhieni a theuluoedd.

Daeth cyfanswm o 97 o ymatebion ysgrifenedig i law gan ystod eang o unigolion, sefydliadau a rhanddeiliaid. Yn ogystal, cynhaliodd swyddogion bedwar grŵp ffocws: dau gyda rhieni, un gyda darparwyr cofrestredig ac un gyda darparwyr heb gofrestru. Roedd hyn yn cynnwys 35 o unigolion.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i ystyried yr ymgynghoriad ac i ymateb iddo.  Hoffwn ddiolch yn arbennig i holl aelodau ein Grŵp Cynghori ar Orchmynion Eithriadau sydd wedi helpu i lywio Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026 ("Gorchymyn 2026") a datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol. Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael yma:  Eithriadau o ran cofrestru gofal plant a'r cynnig ar gyfer Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol | LLYW.CYMRU

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu Plant yng Nghymru i gynnal sesiynau ymgysylltu â phobl ifanc, gan roi cyfle iddynt rannu eu barn ar faterion allweddol a godwyd yn yr ymgynghoriad. Er nad oedd y gweithdai hyn yn rhan ffurfiol o'r ymgynghoriad, roeddent yn darparu mewnwelediad gwerthfawr. Cynhaliwyd tri gweithdy mewn gwahanol leoliadau gyda phobl ifanc 10–25 oed, ac mae adroddiad Plant yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r crynodeb o'r ymatebion.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig gwneud newidiadau i'r eithriadau i gofrestru gofal plant a datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ymhellach.  Bydd y cynigion sy'n ymwneud â'r eithriadau yn helpu i sicrhau bod y trefniadau ar gyfer goruchwylio'r gofal plant, y gwaith chwarae a'r gweithgareddau a ddarperir yng Nghymru yn gymesur wrth benderfynu pa ddarparwyr nad yw'n ofynnol iddynt gofrestru. Nod datblygu'r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol yw caniatáu i rai darparwyr sydd wedi'u heithrio geisio cymeradwyaeth o dan y cynllun. Ar y cyfan, amcan y cynigion hyn yw hyrwyddo darpariaeth ddiogel, hygyrch sy'n canolbwyntio ar y plentyn, ac yn diwallu anghenion plant a theuluoedd. Gyda'i gilydd, nod y cynigion hyn yw ehangu: gofal plant fforddiadwy a hyblyg; opsiynau chwarae a gweithgareddau i deuluoedd; mynediad plant at gyfleoedd sy'n cyfoethogi; mynediad at gymorth ariannol i rieni; a darparu sicrwydd bod darparwyr yn bodloni safonau cofrestru priodol neu feini prawf cymhwysedd sydd wedi'u gwirio ar gyfer cymeradwyaeth.

Mae'r newidiadau i'r eithriadau wedi'u nodi yng Ngorchymyn 2026 a fydd yn cael ei osod heddiw. Rhagwelir y bydd Gorchymyn 2026 yn cael ei wneud ar 1 Ebrill 2026, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2027 ac yn gwbl orfodadwy erbyn 1 Ebrill 2028 yn dilyn cyfnod pontio o flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi canllawiau i  helpu dealltwriaeth pobl o Orchymyn 2026 cyn iddo ddod i rym. 

Ar gyfer y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol, cam nesaf y gwaith fydd mireinio manylion y cynllun gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad.  Byddwn yn gweithio tuag at ei weithredu yn Ebrill 2027.