Rhaglen Hwb: asesiad effaith integredig
Asesiad effaith integredig (AEI) ar effaith rhaglen Hwb.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu dull cenedlaethol, teg, cynhwysol, cyson a dwyieithog i wasanaethau digidol fel rhan o'i Rhaglen Lywodraethu, "Cenhadaeth ein Cenedl," Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), a’r Cwricwlwm i Gymru.
Yn sail i'r ymrwymiadau hyn, mae rhaglen Hwb yn hanfodol o ran cefnogi diwygio addysg hirdymor a gwella canlyniadau. Mae'n darparu'r sylfeini digidol ar gyfer ysgolion, llwyfan ar gyfer dysgu ac addysgu, ac yn cefnogi gweithrediadau o ddydd i ddydd. Mae'r rhaglen Hwb yn sicrhau mynediad at wasanaethau diogel, sicr a theg sy'n ysbrydoli athrawon a dysgwyr i ymgorffori arferion digidol a datblygu'r cymwyseddau sy'n angenrheidiol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r rhaglen yn cael ei hysgogi gan amcanion strategol sy'n blaenoriaethu ymarferwyr a dysgwyr. Mae'r amcanion hyn yn cynnwys darparu arweinyddiaeth, datblygu partneriaethau strategol ar gyfer caffael effeithiol, darparu seilwaith digidol, cefnogi trawsnewid digidol trwy wasanaethau dwyieithog, gwella cadernid digidol, a meithrin galluoedd digidol.
Mae'r rhaglen Hwb yn cynnwys nifer o fentrau hanfodol sy'n cefnogi'r Rhaglen Lywodraethu a blaenoriaethau Gweinidogol:
Llwyfan Gwe Hwb
Porth digidol i addysg yng Nghymru gael mynediad at lu o adnoddau, gwasanaethau ac offer digidol dwyieithog.
Cwmwl Hwb
Mae’n sicrhau mynediad diogel i dros 550,000 o ddefnyddwyr ledled Cymru ac yn darparu gwasanaethau ac offer digidol hanfodol i gefnogi gweithrediadau ysgolion ac arferion addysgu a dysgu. Mae'r gwasanaethau hanfodol hyn yn cynnwys tenant cenedlaethol a thrwydded ar gyfer Microsoft 365, yn ogystal â thenantiaethau cenedlaethol Google for Education, Apple Classroom ac Adobe Creative Cloud.
Rhaglen Technoleg Addysg (EdTech)
Rhaglen fuddsoddi genedlaethol i wella seilwaith digidol a gwasanaethau cymorth mewn ysgolion a gynhelir ledled Cymru yn unol â Safonau Digidol Addysg cenedlaethol.
Cadernid Digidol mewn Addysg
Rhaglen genedlaethol i wella diogelu ac arferion digidol diogel mewn ysgolion.
Aeddfedrwydd Digidol
Rhaglen newid ar y cyd gyda'r holl awdurdodau lleol i sicrhau bod ysgolion wedi'u paratoi ar gyfer tirwedd dechnegol sy'n esblygu'n gyson, safonau cysylltiedig a bod ganddynt sgiliau digidol priodol i harneisio potensial Offer Hwb.
Hirdymor
Nod rhaglen Hwb yw cefnogi dull "Unwaith i Gymru", sy’n:
- Cefnogi ysgolion i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.
- Gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd y mae technoleg ddigidol yn eu cyflwyno i leihau biwrocratiaeth ddiangen, gan gefnogi arweinwyr ysgol i leihau’r baich ar y gweithlu.
- Trawsnewid amgylcheddau dysgu, cyfrannu at ddatblygu ysgolion carbon sero net a gwella cyfleusterau ysgolion ar gyfer cymunedau lleol.
- Gwella sgiliau digidol i ddysgwyr ac addysgwyr, sydd yn ei dro yn cefnogi datblygiad gweithlu digidol cymwys yng Nghymru.
- Darparu mynediad at adnoddau ac offer digidol o ansawdd uchel.
- Hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg i helpu i wella canlyniadau addysgol.
Atal
Mae rhaglen Hwb yn lleihau anghydraddoldeb addysgol drwy ddarparu mynediad cyfartal at offer a gwasanaethau digidol sy'n arwain y byd. Mae'r mynediad hwn yn ysgafnhau’r baich ariannol ar ddysgwyr, rhieni a gofalwyr, gan gefnogi'r ymrwymiad i leihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad.
Mae seilwaith, gwasanaethau ac offer Hwb a ariennir yn ganolog yn symleiddio anghenion seilwaith lleol, yn gwneud mabwysiadu digidol yn haws ac yn lleihau costau i ysgolion. Mae'r dull hwn, sy'n arbennig o werthfawr yn ystod cyfnod o lymder ac yn ystod y pandemig, yn caniatáu i ysgolion a Llywodraeth Cymru ymateb yn ystwyth i heriau, yn ogystal â chyflawni arbedion maint sylweddol o ran amser, costau ac ansawdd.
Mae rhaglen Hwb yn chwarae rhan allweddol wrth atal niwed ar-lein drwy feithrin diwylliant o ymwybyddiaeth ddigidol. Mae'n cynnig amgylchedd canolog a diogel ar gyfer dysgu digidol, ynghyd â hidlo cynnwys ac amddiffyniadau seiberddiogelwch. Mae ardal Cadw'n Ddiogel Ar-lein Hwb yn darparu cyfres gynhwysfawr o adnoddau, canllawiau a hyfforddiant i gefnogi ysgolion a chymunedau ysgolion i hyrwyddo ymddygiadau ar-lein diogel a chyfrifol. Yn y bôn, mae'n meithrin diwylliant o gydweithio drwy weithio gydag arbenigwyr diogelwch ar-lein blaenllaw'r sector fel yr IWF, SWGfL, Childnet, NSPCC, yn ogystal â rheoleiddwyr fel Estyn, Ofcom a'r ICO i sicrhau bod cyngor a gwybodaeth o ansawdd uchel ar gael i ysgolion yng Nghymru.
Integreiddio
Mae rhaglen Hwb yn atgyfnerthu sawl maes polisi, gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru, Cymraeg 2050, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'n chwarae rhan hanfodol wrth ysgogi trawsnewid digidol ar draws addysg yng Nghymru, ac yn cyd-fynd â gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer addysg ac amcanion strategol ehangach.
Trwy integreiddio offer a seilwaith digidol o fewn ysgolion, mae Hwb yn grymuso dysgwyr ac addysgwyr gyda'r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu mewn tirwedd ddigidol sy'n esblygu'n gyflym, gan feithrin system addysg fwy arloesol a chynhwysol sy’n barod i'r dyfodol.
Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi'r uchelgeisiau a amlinellir yn y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Cymru, gan gydnabod bod y byd digidol yn alluogwr allweddol o ran mynediad teg, arloesi a rhagoriaeth addysgol. Trwy arfogi ysgolion â thechnoleg sy'n addas i'r dyfodol, mae'r rhaglen Hwb yn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu cymwyseddau digidol hanfodol, gan eu paratoi ar gyfer llwyddiant mewn addysg ac yn y gweithlu.
Mae Hwb yn cyfrannu at strategaeth Cymraeg 2050 drwy ymgorffori'r Gymraeg mewn addysg ddigidol. Trwy ei bartneriaethau gyda Microsoft a Google, mae Hwb yn sicrhau bod gan ddysgwyr, athrawon a dinasyddion sy’n siarad Cymraeg fynediad at offer a gwasanaethau digidol dwyieithog. Mae'r cydweithrediad hwn wedi arwain at integreiddio rhyngwynebau, nodweddion hygyrchedd, ac adnoddau digidol Cymraeg, gan atgyfnerthu'r Gymraeg fel iaith weithio fyw mewn gofodau digidol.
Ar ben hynny, mae dull digidol yn gyntaf Hwb yn cryfhau gallu ysgolion i addasu, arloesi a chyflawni nodau strategol ehangach, gan gefnogi system addysg fwy cadarn a chynhwysol ledled Cymru.
Cydweithio
Mae rhaglen Hwb yn fenter genedlaethol a sefydlwyd mewn cydweithrediad â'r holl awdurdodau lleol. Caiff y rhaglen ei hysgogi gan ethos o fod ‘yn eiddo i’r Sector, dan arweiniad y Sector’, ac mae'n darparu dull cyson, 'Unwaith i Gymru' o weithredu Technoleg Addysg, gan gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae grŵp Dysgu Digidol Cymru, sy'n cynrychioli'r holl awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion, yn llywodraethu'r rhaglen, gan sicrhau bod dulliau cenedlaethol yn cyd-fynd â chyd-destunau lleol.
Mae'r Grŵp Safoni Technegol yn cefnogi cysondeb a threfniadau safonol ledled Cymru, gan gyfrannu at safonau digidol addysg cynhwysfawr. Mae cydweithio ag awdurdodau lleol, gwasanaethau gwella ysgolion, a rhanddeiliaid eraill yn sicrhau bod effaith mentrau Technoleg Addysg yn sylweddol ac yn hwyluso mabwysiadu gwasanaeth Hwb yn effeithiol.
Mae awdurdodau lleol yn gweithredu fel partneriaid cyflenwi strategol, gan symleiddio modelau cymorth TGCh a sicrhau bod gwasanaethau cyson yn cael eu darparu.
Mae’r Byd Digidol mewn Addysg yng Nghymru yn amlinellu gweledigaeth strategol gydgysylltiedig sy'n cwmpasu'r cwricwlwm, dysgu proffesiynol a dysgu digidol. Y dull hwn yw ein cam nesaf wrth amlinellu uchelgais a rennir ar gyfer trawsnewid digidol yn ein system addysg a fydd yn ein harwain ymlaen ac yn sicrhau bod ysgolion yn cael eu grymuso i gefnogi pob dysgwr yng Nghymru i gyrraedd eu potensial llawn. Mae'r weledigaeth yn amlinellu 3 thema ganolog:
- ymgorffori technoleg ddigidol ar draws cwricwlwm, addysgu, dysgu ac asesu ysgolion
- datblygu arweinwyr a gweithlu sy’n fedrus ac yn hyderus yn y maes digidol
- darparu technoleg addysg arloesol, gadarn a chynaliadwy
Trwy integreiddio'r themâu hyn, mae'n anelu at gyflawni'r weledigaeth ar draws ysgolion, gan sefydlu Cymru fel cenedl arloesol ym maes addysg ddigidol sy’n sicrhau budd i ddysgwyr, ymarferwyr ac economi'r dyfodol.
Cynnwys
Mae rhaglen Hwb wedi'i datblygu trwy gydweithio helaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau mynediad cyfartal at adnoddau digidol o ansawdd uchel, seilwaith dibynadwy, a'r sgiliau sydd eu hangen i integreiddio technoleg yn effeithiol mewn addysgu a dysgu.
O'r cychwyn cyntaf, mae'r rhaglen wedi cael ei siapio gan y rhai y mae'n effeithio arnynt fwyaf. Mae athrawon, arweinwyr ysgolion, awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol, a dysgwyr wedi cyfrannu'n weithredol trwy ymgynghoriadau, arolygon, rhaglenni peilot, a chydweithrediad uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol addysgol. Mae'r dull cynhwysol hwn wedi sicrhau bod adnoddau a gwasanaethau digidol yn effeithiol, yn hawdd eu defnyddio, ac yn ymatebol i anghenion amrywiol ysgolion ledled Cymru.
O ganlyniad, mae dysgwyr, addysgwyr a rhieni yn elwa o integreiddio digidol di-dor, adnoddau dwyieithog, a thechnoleg sy'n addas i'r dyfodol sy'n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru yn uniongyrchol, gan sicrhau profiad dysgu digidol modern, hygyrch ac addasadwy i bawb.
Er mwyn cynnal arferion gorau a phrofiad addysgu a dysgu safonol, diogel a chydlynol, mae'r Is-adran Gwasanaethau Digidol Ysgolion o fewn Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, ymgynghorwyr diogelwch, gwasanaethau cyfreithiol, a phartneriaid technoleg byd-eang (Apple, Google, a Microsoft).
Mae ymgysylltu parhaus yn allweddol i lwyddiant y rhaglen. Mae rhanddeiliaid, gan gynnwys dysgwyr, addysgwyr, arweinwyr ysgolion ac awdurdodau lleol yn cyfrannu'n weithredol trwy ymgynghoriadau, sesiynau adborth, mentrau peilot, a chyfleoedd hyfforddi. Mae hyn yn sicrhau bod Hwb yn parhau i fod yn gynhwysol, yn addasadwy ac yn cyd-fynd ag anghenion esblygol system addysg Cymru.
Yn ogystal, mewn partneriaeth â phob un o'r 22 awdurdod lleol, mae rhaglen Hwb wedi datblygu'r Safonau Digidol Addysg cenedlaethol. Mae'r safonau hyn yn helpu i sicrhau bod ysgolion yn darparu amgylchedd technegol cyson ac yn bodloni'r disgwyliadau digidol diweddaraf, gan gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau digidol mewn ysgolion.
Mae'r dull cydweithredol hwn yn atgyfnerthu rôl Hwb wrth ysgogi trawsnewid digidol ar draws addysg yng Nghymru, gan sicrhau bod gan bob dysgwr, waeth beth fo'u lleoliad, fynediad at yr offer a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.
Effaith
Mae rhaglen Hwb wedi effeithio'n sylweddol ar addysg yng Nghymru, gan ysgogi trawsnewid digidol, hyrwyddo cydraddoldeb, a chefnogi canlyniadau addysgol gwell.
Canlyniadau addysgol
Mae Hwb yn chwarae rhan hanfodol o ran cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru drwy ddarparu adnoddau ac offer perthnasol sy'n cyd-fynd â'i nodau. Mae wedi helpu i gyfrannu at wella mentrau addysgol, a chanlyniadau addysg yn anuniongyrchol, trwy alluogi mynediad at adnoddau digidol o ansawdd uchel a chefnogi arferion addysgu effeithiol.
Gwell llythrennedd digidol
Mae'r platfform yn cefnogi'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, sy'n rhan annatod o gwricwlwm Cymru, gan helpu athrawon i integreiddio llythrennedd digidol yn eu haddysgu.
Gwell mynediad a thegwch digidol
Mae Hwb yn sicrhau bod gan bob dysgwr ac athro yng Nghymru fynediad teg at offer a gwasanaethau digidol, gan helpu i leihau'r rhaniad digidol.
Cefnogaeth ar gyfer dysgu cyfunol
Mae Hwb yn darparu offer a gwasanaethau digidol ar gyfer dysgu yn y dosbarth ac o bell, a oedd yn hanfodol yn ystod pandemig COVID-19. Mae Hwb yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu parhaus a phrofiadau dysgu wedi'u personoli.
Cydweithio a chyfathrebu
Mae offer a gwasanaethau digidol fel Microsoft 365 a Google for Education yn hwyluso cydweithio rhwng dysgwyr ac athrawon, a hyd yn oed rhieni/gofalwyr. Mae'r platfform hefyd yn meithrin cymuned ymarfer ar draws gweithlu'r ysgol.
Diogelu
Mae Hwb yn cynnwys mesurau diogelu cadarn, gan sicrhau amgylchedd diogel ar-lein i bob defnyddiwr a'u data.
Argaeledd ac ansawdd adnoddau
Mae'r platfform yn cynnig adnoddau dwyieithog sy'n cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru, gan safoni ansawdd addysg a helpu i hyrwyddo'r Gymraeg.
Parhad dysgu
Yn ystod y pandemig, roedd Hwb yn hanfodol i gefnogi parhad dysgu pan gaeodd ysgolion. Roedd seilwaith a gwasanaethau Hwb yn golygu bod modd trosglwyddo’n llyfn i ddysgu o bell, gan liniaru effaith cau ysgolion ar addysg dysgwyr.
Dysgu ac addysgu
Mae Hwb yn darparu mynediad at ystod eang o offer a gwasanaethau digidol i gefnogi addysgu a dysgu, fel Microsoft 365 a Google for Education. Mae'r gwasanaethau hyn yn galluogi profiadau dysgu rhyngweithiol a diddorol, o wersi rhithwir i brosiectau cydweithredol, yn ogystal â chefnogi gwahanol arferion a strategaethau pedagogaidd. Mae Hwb yn cynnig adnoddau sy'n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, gan helpu addysgwyr i integreiddio llythrennedd a sgiliau digidol i addysgu a sicrhau hefyd bod dysgwyr yn datblygu cymwyseddau sy'n hanfodol i'r byd modern.
Trawsnewid ysgolion
Trwy ddarparu amgylchedd digidol diogel, y gellid ei ehangu ar gyfer pob ysgol a gynhelir, mae Hwb yn lleihau baich rheoli TG ac yn sicrhau mynediad cyfartal i holl ddysgwyr ac athrawon. Mae'r offer a'r gwasanaethau digidol a gynigir gan Hwb hefyd yn galluogi ysgolion i foderneiddio eu harferion gweithredol, symleiddio tasgau gweinyddol, a gwella cyfathrebu â rhieni a rhanddeiliaid.
Ymarfer ysgol mwy effeithiol
Mae Hwb yn cyfrannu at arferion ysgol mwy effeithiol ac yn darparu effeithlonrwydd ariannol, gweithredol ac o ran amser trwy gyfuniad o seilwaith digidol canolog, offer cydweithredol, a chymorth cynhwysfawr i athrawon.
Costau ac arbedion
Mae Is-adran Gwasanaethau Digidol Ysgolion Llywodraeth Cymru yn buddsoddi oddeutu £4 miliwn bob blwyddyn yn offer a gwasanaethau digidol Hwb. Yn ogystal, mae rhaglen Hwb wedi buddsoddi dros £200 miliwn i uwchraddio seilwaith ac offer digidol, gan sicrhau bod gan ysgolion dechnoleg fodern i gefnogi dysgu ac addysgu.
Mae Map Buddion Hwb (Atodiad a) yn tynnu sylw at gyfraniad y rhaglen at effeithlonrwydd costau ac arbedion sylweddol i ysgolion ac awdurdodau lleol, gan ddangos gwerth trwy offer a gwasanaethau digidol symlach.
Mecanwaith
Ni chynigir unrhyw ddeddfwriaeth ar gyfer Rhaglen Hwb.
Adran 8: casgliad
Sut mae pobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi bod yn rhan o'i ddatblygu?
Datblygwyd rhaglen Hwb trwy gydweithio helaeth â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys athrawon, arweinwyr ysgolion, awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol, a dysgwyr. O'r cychwyn cyntaf, mae ymgynghoriadau, arolygon, rhaglenni peilot, ac adborth uniongyrchol oll wedi chwarae rhan hanfodol wrth lunio'r rhaglen i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion amrywiol ysgolion ledled Cymru. Mae'r dull cyfranogol hwn wedi golygu bod modd datblygu adnoddau a gwasanaethau sy'n hawdd eu defnyddio, yn effeithiol ac yn cyd-fynd ag amcanion y Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r rhaglen yn cael ei llywodraethu gan Dysgu Digidol Cymru sy'n cynrychioli awdurdodau lleol ac anghenion gwella ysgolion, gan sicrhau bod strategaethau cenedlaethol yn eiddo i'r sector, ac yn cael eu harwain gan y sector. Mae ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid, gan gynnwys sesiynau adborth, mentrau peilot, a chyfleoedd hyfforddi, yn parhau i lywio esblygiad Hwb, gan sicrhau ei fod yn parhau i ymateb i anghenion newidiol addysgwyr, dysgwyr ac ysgolion.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda phartneriaid technoleg byd-eang fel Microsoft, Google, ac Apple i gynnal amgylchedd digidol cyson, o ansawdd uchel ar gyfer ysgolion a gynhelir. Mae'r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod rhaglen Hwb yn parhau i fod yn gynhwysol, yn addasadwy ac yn canolbwyntio ar gyflawni nodau addysgol ehangach Llywodraeth Cymru. Yn eu tro, mae dysgwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid addysg yn elwa o gamau i integreiddio offer digidol, adnoddau dwyieithog, a thechnoleg addas i'r dyfodol sy'n sail uniongyrchol i’r Cwricwlwm i Gymru ac yn galluogi ysgolion i fanteisio i’r eithaf ar rinweddau technoleg ddigidol i greu ecosystem wedi'i phersonoli sy’n ddiogel ac yn arfogi ysgolion i baratoi eu dysgwyr i ffynnu mewn cymdeithas ddigidol fyd-eang.
Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn gadarnhaol ac yn negyddol?
Datblygwyd rhaglen Hwb trwy gydweithio helaeth â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol, arweinwyr ysgolion, athrawon a phartneriaid technoleg byd-eang. Mae eu hadborth a'u mewnwelediadau wedi bod yn rhan annatod o lunio'r rhaglen i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion amrywiol dysgwyr, athrawon a chymunedau ledled Cymru. Mae'r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod y rhaglen yn cyd-fynd â blaenoriaethau addysgol cenedlaethol, gan gynnwys y 'Cwricwlwm i Gymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015'. Mae Hwb yn blaenoriaethu cynhwysiant a thegwch, gan greu platfform sy'n cefnogi athrawon i integreiddio offer digidol yn effeithiol wrth sicrhau bod gan bob dysgwr, waeth beth fo'u cefndir neu leoliad, fynediad cyfartal at adnoddau addysgol o ansawdd uchel.
Mae rhaglen Hwb yn cyfrannu'n sylweddol at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gymru wydn a llewyrchus. Trwy ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd a thegwch, mae'n darparu'r offer sydd eu hangen ar bob dysgwr i lwyddo, nawr ac yn y dyfodol. Mae ei rôl wrth hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb addysgol yn sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr yn cael ei adael ar ôl mewn byd sy'n digideiddio'n gyflym. Ar ben hynny, mae ffocws Hwb ar adnoddau digidol dwyieithog nid yn unig yn cefnogi'r Gymraeg ond yn cryfhau llesiant diwylliannol ac ieithyddol, gan gysylltu dysgwyr â threftadaeth Gymreig mewn ffyrdd ystyrlon.
Ymhlith effeithiau cadarnhaol mwyaf arwyddocaol y rhaglen mae ei chyfraniadau at leihau anghydraddoldeb addysgol, gwella mynediad digidol, a chefnogi trawsnewid digidol ysgolion. Trwy ddarparu platfform diogel, canolog gydag offer o'r radd flaenaf fel Microsoft 365 a Google Workspace, mae Hwb wedi hwyluso addysgu a dysgu mwy effeithiol, gwella llythrennedd digidol, a chefnogi'r trawsnewidiad llyfn i ddysgu o bell yn ystod pandemig COVID-19. Mae'r buddion hyn yn meithrin gweithlu sy’n gymwys yn ddigidol, gan baratoi myfyrwyr yn well ar gyfer gofynion yr economi fodern.
Fodd bynnag, mae heriau'n parhau o ran sicrhau cymorth a hyfforddiant parhaus i harneisio potensial offer digidol yn llawn. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae ffocws strategol Hwb ar gadernid digidol a'i fodel llywodraethu cydweithredol wedi lliniaru llawer o risgiau, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn rym trawsnewidiol ar gyfer addysg yng Nghymru. Trwy gyd-fynd ag 'Asesiad Effaith Integredig y Cwricwlwm i Gymru', mae Hwb mewn sefyllfa i ysgogi newid cadarnhaol hirdymor, gan hyrwyddo tegwch addysgol, cynaliadwyedd diwylliannol, a gweithlu sy'n barod i'r dyfodol.
Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
- yn cyfrannu i’r eithaf at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant a (neu)
- yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Mae rhaglen Hwb yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn cyfrannu ati drwy gefnogi ei nodau cyffredinol o greu Cymru fwy cynaliadwy, teg ac iachach. Mae'r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant, ac mae rhaglen Hwb yn cyfrannu at nifer o'r rhain yn y ffyrdd canlynol:
Cymru iachach
Hyrwyddo llesiant digidol
Mae rhaglen Hwb yn darparu adnoddau ac offer sy'n hyrwyddo llythrennedd digidol, defnydd diogel o'r rhyngrwyd, ac ymwybyddiaeth iechyd meddwl. Trwy feithrin y sgiliau hyn, mae'r rhaglen yn cyfrannu at lesiant ac iechyd meddwl dysgwyr ac athrawon, sy'n ganolog i greu poblogaeth iachach.
Addysg iechyd
Mae Hwb yn cefnogi addysg iechyd trwy integreiddio adnoddau digidol sy'n addysgu myfyrwyr am iechyd corfforol, maeth a llesiant meddyliol, gan helpu i feithrin arferion iach o oedran ifanc.
Cymru sy’n fwy cyfartal
Mynediad teg i adnoddau digidol
Mae rhaglen Hwb yn sicrhau bod gan bob dysgwr ledled Cymru, waeth beth fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol neu leoliad daearyddol, fynediad at adnoddau digidol o ansawdd uchel. Mae hyn yn helpu i leihau anghydraddoldebau addysgol, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i lwyddo, sy'n cyd-fynd â'r nod o hyrwyddo cydraddoldeb.
Adnoddau dwyieithog
Mae Hwb yn darparu adnoddau dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cael mynediad at ddeunyddiau addysgol yn eu dewis iaith, a thrwy hynny gefnogi cydraddoldeb a chynhwysiant ieithyddol.
Cymru lewyrchus
Cymhwysedd digidol
Trwy ymgorffori arferion digidol mewn addysg, mae Hwb yn helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol mewn economi sy'n cael ei gyrru gan dechnoleg ddigidol. Mae hyn yn cyfrannu at greu Cymru lewyrchus drwy roi cymwyseddau i fyfyrwyr sy'n hanfodol i weithlu'r dyfodol.
Cymorth i athrawon
Mae Hwb hefyd yn cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol i athrawon, gan eu helpu i wella eu sgiliau digidol, sydd yn ei dro yn gwella ansawdd addysg ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd economaidd yn y dyfodol.
Cymru o gymunedau cydlynus
Cefnogi dysgwyr gwledig a dysgwyr o bell
Mae Hwb yn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu dysgwyr mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell trwy ddarparu mynediad at lwyfannau ac adnoddau dysgu digidol, gan helpu i greu cymunedau cydlynus lle mae pawb yn cael yr un cyfleoedd, waeth beth fo'u lleoliad.
Ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned
Trwy ddarparu offer digidol y gellir eu defnyddio ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned, mae Hwb yn cefnogi ysgolion i ddod yn ganolfannau i'w cymunedau, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a chysylltiad ymhlith dysgwyr, rhieni ac addysgwyr.
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Arferion cynaliadwy
Mae rhaglen Hwb yn hyrwyddo'r defnydd o adnoddau digidol, a all leihau'r angen am ddeunyddiau ffisegol fel papur, gan gyfrannu at arferion addysgol mwy cynaliadwy. Mae hyn yn cyd-fynd â'r nod o weithredu mewn ffordd gyfrifol ar lefel fyd-eang trwy leihau ôl troed amgylcheddol addysg.
Dinasyddiaeth ddigidol
Trwy ei ffocws ar ddefnydd diogel a chyfrifol o'r rhyngrwyd, mae Hwb yn helpu i feithrin dinasyddion byd-eang sy'n deall effaith eu gweithredoedd ar-lein, yn lleol ac yn fyd-eang.
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Addysg ddwyieithog
Mae adnoddau digidol dwyieithog Hwb yn cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg mewn addysg, gan gyfrannu at ei chadw a'i hyrwyddo. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod yn rhan fywiog o ddiwylliant y wlad.
Adnoddau diwylliannol
Mae Hwb yn darparu mynediad at adnoddau sy'n dathlu diwylliant a threftadaeth Cymru, gan sicrhau bod dysgwyr yn gallu ymgysylltu â'u hunaniaeth ddiwylliannol a'i gwerthfawrogi fel rhan o'u haddysg.
Cymru gydnerth
System addysg addasadwy
Mae Hwb yn cyfrannu at system gydnerth trwy ddarparu seilwaith digidol sy'n gallu addasu i amgylchiadau sy'n newid, megis yr angen am ddysgu o bell yn ystod argyfyngau fel pandemig COVID-19. Mae'r gallu hwn i addasu yn cefnogi cydnerthedd y gymuned ehangach.
Ymwybyddiaeth amgylcheddol
Trwy ei adnoddau, gall Hwb hefyd hyrwyddo addysg amgylcheddol, gan helpu myfyrwyr i ddeall pwysigrwydd cynaliadwyedd a'r rôl y maent yn ei chwarae wrth ddiogelu'r amgylchedd, sy'n allweddol i adeiladu Cymru gydnerth.
Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a'i werthuso wrth iddo ddatblygu a phan fydd yn dod i ben?
Trwy wrando ar adborth gan y gymuned addysg gan gynnwys plant a phobl ifanc, mae Hwb yn cyflwyno gwasanaethau a nodweddion newydd, fel bod gan ysgolion yr hyn sydd ei angen arnynt i wella cymwyseddau digidol i ddysgwyr a chefnogi arferion dosbarth arloesol i ymarferwyr. Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn cydweithio'n barhaus i sicrhau bod rhaglen Hwb yn diwallu anghenion ysgolion ac yn darparu profiad technoleg addysg gyson a chynaliadwy.
Mae gwella aeddfedrwydd digidol awdurdodau lleol ac ysgolion yn hanfodol i fanteisio i’r eithaf ar botensial trawsnewidiol Technoleg Addysg. Mae rhaglen Hwb yn mabwysiadu dull cenedlaethol o feithrin dysgu ac arloesi digidol ledled Cymru.
Mae ein dull gweithredu yn cynnwys gweithio i aros ar y blaen trwy nodi tueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn gynnar o fewn technoleg addysg. Trwy fonitro datblygiadau, rydym yn anelu at harneisio pŵer y technolegau hyn i wella profiadau dysgu ac ysgogi canlyniadau cadarnhaol i'n dysgwyr. Trwy bartneriaethau strategol a chydweithio gydag arweinwyr diwydiant a'n grŵp arbenigol o academyddion a sefydliadau'r trydydd sector, rydym yn ymdrechu i roi atebion arloesol ar waith sy'n ymgorffori amgylcheddau dysgu rhyngweithiol ac ymdrochol.
Rydym wedi ymrwymo i gofleidio technolegau sy'n dod i'r amlwg, fel Deallusrwydd Artiffisial (AI), Realiti Rhithwir (VR), a Realiti Estynedig (AR), lle bo hynny'n briodol. Mae'n amlwg bod technoleg sy'n dod i'r amlwg yn cynnig potensial aruthrol i effeithio ar y cyfleoedd addysgol a roddir i'n dysgwyr a'n gweithlu.
Trwy anelu at aros ar y blaen o ran Technoleg Addysg sy'n dod i'r amlwg, mae gan ein dysgwyr a'n hymarferwyr fynediad at offer ac adnoddau arloesol, sy'n helpu i'w harfogi â'r sgiliau a'r wybodaeth ddigidol sydd eu hangen i ffynnu mewn byd sy'n esblygu'n gyflym.
Mewn cydweithrediad ag Estyn, gwnaethom gynnal asesiad trylwyr o dirwedd ddigidol awdurdodau lleol yn 2023 i asesu hynt yr aeddfedrwydd digidol yn yr awdurdod lleol ac ar draws eu hysgolion. Roedd yr asesiad yn canolbwyntio ar gydymffurfio â'r safonau digidol, ansawdd y ddarpariaeth ar-lein, y defnydd o blatfform Hwb a chadernid digidol. Bydd yr holl argymhellion yn llywio'n uniongyrchol y trafodaethau parhaus fel rhan o gynllun gwella awdurdodau lleol gydag Estyn a hefyd fel rhan o drefniadau monitro Rhaglen Technoleg Addysg Hwb.
Mae rhaglen Hwb yn cael ei monitro a'i gwerthuso drwy fframwaith cydweithredol a strwythuredig gan gynnwys Grŵp Cyflenwi Rhaglenni, Dysgu Digidol Cymru a'r Grŵp Safonau Technoleg i sicrhau cyflwyniad effeithiol, cyfatebiaeth strategol, a gwelliant parhaus. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn ymatebol, yn arloesol ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau addysgol yng Nghymru, gan ddarparu manteision sylweddol i ysgolion, athrawon a dysgwyr.
