Cyfarfod o Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl: 10 Rhagfyr 2025
Cofnodion cyfarfod o Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mynychwyr
Kate Cubbage, Cynghrair Cynhalwyr a Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru - Cadeirydd
Alyson Hoskins, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent – Dirprwy Gadeidrydd
Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Alistair Davey, Llywodraeth Cymru
Denise Moultrie, Llywodraeth Cymru
Suzanne Becquer-Moreno, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Rachel Wright, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Kim Dolphin, Rhwydwaith Dysgu a Gwella Swyddogion Gofalwyr
Bobbie-Jo Haarhoff, Gofalwr Di-dâl
Albie Sutton, Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc
Rob Simkins Gofalwyr Cymru
Jon Antoniazzi, Cynghrair Cynhalwyr/ Marie Curie
David Watkins – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Valerie Billingham, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
Nick Andrews, Prifysgol Abertawe
Dan Burrows, Prifysgol Caerdydd
Adam Frewen, Arolygiaeth Gofal Cymru
Naomi Harper, Cyngor Sir y Fflint
Josie Yuen, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Tanya Tye, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Anna Bird, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Ffion Scott, Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc
Naheed Ashraf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Amanda Phillips, Llywodraeth Cymru
Yn bresennol
Siobhan O'Dwyer, Athro Cyswllt, Prifysgol Birmingham
Ymddiheuriadau
Jayne Newman, Gofalwr Di-dâl
Louise Bushell-Bauers, Arolygiaeth Gofal Cymru
Victoria Lloyd, Age Cymru
Myfanwy Moran, Pennaeth Gwasanaethau Oedolion Casnewydd
Sean O’Neill, Plant yng Nghymru
Hannah Williams, Gofal Cymdeithasol Cymru
Trudy Heald, Llywodraeth Cymru
Croeso
Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod gan groesawu pawb a oedd yn bresennol a nodi'r ymddiheuriadau.
Diweddariad ar y Strategaeth Genedlaethol
Nododd Denise Moultrie fod y gwaith o ddatblygu'r strategaeth yn mynd rhagddo, a diolchodd i aelodau is-grŵp y Strategaeth am eu cefnogaeth a'u mewnbwn parhaus. Mae cynlluniau ar waith i lansio'r ymgynghoriad cyhoeddus ar 12 Ionawr 2026, gan ganiatáu cyfnod llawn o 12 wythnos cyn i'r cyfnod cyn-etholiad ddechrau ar 8 Ebrill 2026. Bydd unrhyw oedi neu newidiadau i'r cynlluniau hyn yn cael eu trafod gyda'r grŵp llywio.
Bydd cymeradwyaeth derfynol yn dibynnu ar y weinyddiaeth ôl-etholiad a'r Gweinidog newydd. Gofynnir i'r aelodau gefnogi'r ymgynghoriad trwy rannu dolenni'n eang er mwyn gwneud y mwyaf o'r ymatebion a'r ymgysylltiad.
Diweddariad ymchwil
Cyflwynodd Dan Burrows a Nick Andrews ganfyddiadau'r ymchwil ddiweddar ar ymyriadau ar gyfer gofalwyr di-dâl, gan gynnwys gwerthusiadau o raglenni cymorth digidol. Rhoddodd Dan Burrows grynodeb o'r gwerthusiad a gynhaliwyd yn y DU o'r rhaglen 'WHO I Support' ar gyfer gofalwyr dementia, ynghyd ag astudiaethau ychwanegol o ymyriadau digidol ar gyfer gofalwyr pobl â seicosis. Nododd fod yr astudiaethau'n dangos pwysigrwydd defnyddio dulliau gweithredu perthynol a rhyngweithiol.
Nodwyd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi comisiynu prosiect ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe i ymchwilio i'r profiadau a'r rhwystrau sy'n wynebu gofalwyr ifanc yn ystod rhyddhau o'r ysbyty, gyda'r nod o lywio hyfforddiant staff a'r gwaith o addasu gwasanaethau.
Nododd Nick Andrews fod y cylch gorchwyl ar gyfer y gymuned ymarfer ar gyfer ymchwil gofalwyr bellach ar waith, ac y byddai'n cael ei rannu gydag aelodau ar gyfer y Grŵp Cynghori trwy e-bost, ac y bydd cyfarfodydd chwarterol bellach yn cael eu cynnal. Gwahoddwyd aelodau i gynnig themâu i'w trafod, trwy gysylltu â Nick yn uniongyrchol.
Diweddariad gan yr Is-grŵp Gofalwyr Ifanc
Dywedodd Denise Moultrie fod adnoddau i hyrwyddo cardiau adnabod gofalwyr ifanc wedi'u hanfon i bob awdurdod lleol, a chafwyd adborth gan 19 allan o 22 ohonynt. Roedd yr ymatebion yn amrywio, gyda rhai awdurdodau'n dweud eu bod yn fodlon ar eu cynlluniau, ac eraill yn nodi cyfyngiadau ar adnoddau.
Esboniodd Denise Moultrie fod rhai awdurdodau lleol yn cynnig consesiynau gyda chardiau adnabod, yn bennaf ar gyfer hamdden a bwyd, ond y byddai consesiynau teithio yn gofyn am drafodaeth ar lefel genedlaethol.
Cyhoeddodd Denise Moultrie fod y Gweinidog wedi cytuno ar gyllid o £40,000 ar gyfer yr Ŵyl Gofalwyr Ifanc yn 2026, a bod cefnogaeth ychwanegol gan addysg yn cael ei hystyried.
Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Tynnodd y Gweinidog sylw at yr angen i wella cysondeb mewn asesiadau o anghenion gofalwyr ar draws awdurdodau lleol, a chyhoeddodd y bwriad i ysgrifennu at holl arweinwyr y cynghorau i atgyfnerthu eu dyletswyddau cyfreithiol a phwysleisio pwysigrwydd cymorth amserol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Cadarnhaodd y Gweinidog fod y Cynllun Seibiant Byr cenedlaethol a'r Gronfa Cymorth i Ofalwyr wedi'u hymestyn am dair blynedd arall, sy'n cynrychioli buddsoddiad o £15.75 miliwn.
Nododd y Gweinidog fod y Cyfamod Gofalwyr Ifanc wedi ei lofnodi mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn adeilad y Senedd ar 13 Tachwedd 2025.
Diweddariad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen
Dywedodd Alyson Hoskins fod bwrdd prosiect Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi'i sefydlu gydag arweinwyr rhanbarthol i nodi a rhannu arferion gorau mewn asesiadau o anghenion gofalwyr. Mae'r bwrdd wedi nodi a choladu enghreifftiau o arfer gorau, ac mae'n defnyddio methodoleg adolygu cymheiriaid i helpu i gysoni dulliau gweithredu. Mae gwaith ar y gweill gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a phartneriaid i adolygu a datblygu adnoddau, gan gynnwys fideos ac adnoddau eraill, i'w gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.
Nod y grŵp yw ymgysylltu â gofalwyr yn gynnar yn y flwyddyn newydd i sicrhau eu bod yn cyfrannu eu mewnbwn, ac i archwilio ail gam i roi sylw i faterion sydd heb eu datrys; integreiddio canfyddiadau i'r strategaeth genedlaethol; a chryfhau cysylltiadau rhwng asesiadau o anghenion a'r ddarpariaeth seibiannau.
Atal hunanladdiad
Croesawodd y Cadeirydd Siobhan O'Dwyer, Athro Cyswllt Gofal Cymdeithasol, Canolfan Rheoli Gwasanaethau Iechyd, Prifysgol Birmingham i'r cyfarfod i gyflwyno ei hymchwil ar y risg o hunanladdiad a dynladdiad ymhlith gofalwyr.
Roedd Siobhan yn eiriol dros gynnwys atal hunanladdiad yn y strategaeth genedlaethol i ofalwyr; codi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol; sicrhau hyfforddiant atal hunanladdiad; a gwerthuso effaith ymyriadau.
Trafododd aelodau'r grŵp bwysigrwydd cymorth dan arweiniad cymheiriaid a'r angen i fynd i'r afael â risgiau croestoriadol ymhlith is-grwpiau o ofalwyr. Awgrymwyd y gellid archwilio ymhellach i ddeall sut y gellid integreiddio ymwybyddiaeth o hunanladdiad mewn asesiadau o anghenion gofalwyr a phecynnau e-ddysgu i weithwyr proffesiynol.
Cyfamod Gofalwyr Ifanc
Soniodd Kate a Ffion am y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Albert Heaney, y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, yn llofnodi'r Cyfamod Gofalwyr Ifanc ar 13 Tachwedd. Mae'r Cyfamod Gofalwyr Ifanc yn ymrwymiad ar draws y DU i sicrhau deg canlyniad allweddol i ofalwyr ifanc, gan gynnwys adnabod yn gynnar, mynediad at addysg a chymorth, a'r hawl i ffynnu.
Mae Llywodraeth Cymru a nifer o awdurdodau lleol eisoes wedi ei lofnodi, ac mae Kate a Ffion yn awyddus i annog sefydliadau, ysgolion, ac unigolion eraill i wneud yr un peth.
Trafododd y grŵp y posibiliadau ar gyfer hyrwyddo'r cyfamod yn ehangach. Awgrymwyd y gellid alinio gweithgareddau codi ymwybyddiaeth â Diwrnod Gweithredu Gofalwyr ym mis Mawrth 2026 er mwyn cael mwy o effaith.
Diweddariad ar Seibiannau Byr a'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr
Cadarnhawyd y byddai'r Cynllun Seibiant Byr a'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr yn cael eu hymestyn am dair blynedd, o fis Ebrill 2026 i fis Mawrth 2029, a bod cyllid o £10.5 miliwn ar gyfer seibiannau byr a £5.25 miliwn ar gyfer y Gronfa Gymorth i Ofalwyr wedi ei gadarnhau. Byddai Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a byrddau partneriaeth rhanbarthol yn parhau i weithredu'r rhaglenni.
Trafododd y grŵp bwysigrwydd sicrhau bod y ddarpariaeth yn cyrraedd grwpiau targed, megis y rheini nad ydynt yn manteisio ar wasanaethau ar hyn o bryd. Cytunodd Kate Cubbage i ymchwilio i fater posibl a oedd wedi ei godi.
Gofynnwyd am eglurhad ar statws y cyllid gwerth £1 miliwn a oedd wedi ei glustnodi ar gyfer ymgysylltu â gofalwyr a rhyddhau o'r ysbyty; ei berthynas â'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol; a chyllid yn y dyfodol y tu hwnt i 2027. Cytunodd Denise Moultrie i wneud gwaith dilynol a darparu eglurhad ysgrifenedig.
Camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf
Cadarnhawyd bod pob cam gweithredu wedi'i gwblhau.
Gofal gan Berthynas a Chroestoriadedd mewn Polisi Gofalwyr
Cododd Bobbie-Jo y mater o ofalwyr sy'n berthynas a chytunodd Kate Cubbage i wneud gwaith dilynol ar hyn gyda Bobbie-Jo y tu allan i'r cyfarfod.
Cyllid Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy
Cadarnhaodd Kate Cubbage y byddai llythyrau ynglŷn ag ymestyn y Cynllun Seibiant Byr a'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr yn cael eu hanfon unwaith y byddai cytundebau grant wedi'u cwblhau.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
I’w gadarnhau.
