Neidio i'r prif gynnwy

Aelodau

Ruth Glazzard, Cadeirydd
Jocelyn Davies, Is-gadeirydd
Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr (Dros Dro)
Dave Matthews, Cyfarwyddwr Strategaeth a Gallu
Mary Champion, Aelod Anweithredol
Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
Indee Dehal, Aelod Staff Etholedig

Cymdeithion

Neil Mukerji, Cydymaith Bwrdd

Apologies

Jim Scopes, Aelod Anweithredol

Agor y Cyfarfod

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Roedd cynrychiolwr o Drysorlys Cymru (TC) a chyflwynwyr a sylwedyddion o ACC yn bresennol. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdrawiad buddiannau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jim Scopes (Aelod Anweithredol).
  2. Wedi'i olygu
  3. Nododd y Cadeirydd mai dyma gyfarfod olaf Neil Mukerji (Aelod Cyswllt o’r Bwrdd), a chroesawodd Indee Dehal, yr Aelod Staff Etholedig newydd ar gyfer y tair blynedd nesaf.
  4. Cytunwyd bod y cofnodion a’r cofnodion wedi’u golygu ar gyfer y cyfarfod blaenorol (21 Mai a sgwrs 24 Mehefin 2025) yn gofnodion cywir o’r trafodaethau.
  5. Nodwyd un cam gweithredu agored mewn perthynas â darparwr newydd ar gyfer sesiynau hyfforddi. Roedd sgyrsiau’n parhau rhwng AD a TA er mwyn sefydlu sut y gellid cael y budd mwyaf ar draws y sefydliad o’r sesiynau hyn a sut gellid sicrhau cysondeb rhwng sesiynau hyfforddi'r Bwrdd a'r rheolwyr. Byddai'r weithred yn cael ei chadw ar y cofnod gweithredoedd.

Adroddiadau

Adroddiad Pennaeth y Staff

  1. Roedd y papur yn manylu ar y cylch chwarterol newydd yn erbyn strwythur llywodraethiant diwygiedig ACC, gan fod cyfarfodydd y Grŵp Arwain Cyflenwi Gwasanaethau (SDLG), y Grŵp Arwain Cyflawni Corfforaethol (CDLG) ac Adrodd Chwarterol Gweithredol yn cael eu cynnal. 
  2. Paratowyd templedi adroddiadau uchafbwyntiau ar gyfer y pwyllgor gwaith, gyda'r nod o wella cysondeb ac effeithlonrwydd adroddiadau. Fodd bynnag, roedd angen adolygu rhywfaint ar fformat y rhain. Gall gweledigaethau'r gwasanaeth, pan gânt eu cyflawni, hefyd gyfrannu at arddull yr adroddiadau uchafbwyntiau. Gofynnodd Pennaeth Staff ACC am adborth gan y Bwrdd ar sut yr hoffent i'r adroddiadau hyn edrych o hyn ymlaen, a byddai'n ceisio newid sut cyflwynir yr adroddiadau ar gyfer y chwarter nesaf. Roedd yr aelodau yn gytûn eu bod yn fodlon â manylder yr adroddiad.
  3. Wedi'i olygu
  4. Wedi'i olygu
  5. Wedi'i olygu

Diweddariad ar yr Ardoll Ymwelwyr a'r Gofrestr Genedlaethol (VLNR)

  1. Wedi'i olygu
  2. Wedi'i olygu
  3. Roedd gwaith cyfathrebu ar y gweill fel rhan o’r paratoadau ar gyfer rhoi Cydsyniad Brenhinol i’r Bil Ardoll Ymwelwyr ar 18 Medi 2025. Byddai ACC yn mynd i’r seremoni llofnodi a selio ffurfiol ar gyfer y Bil, ac yn parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr Llywodraeth Cymru yn swyddfa'r wasg. Mae cydsyniad brenhinol i’r Bil yn nodi'r trosglwyddiad o gyflwyno polisi i’w weithredu ar gyfer ACC. Bydd gan wefan ACC gyfeirnod Ardoll Ymwelwyr a Chofrestriad Cenedlaethol, yn ogystal ag ardal ar gyfer darparwyr llety. Cynhaliwyd sesiwn friffio technolegol i arddangos y gwasanaethau y mae ACC yn eu datblygu. Cafodd hyn sylw gan y BBC a'r Daily Post. Y cam nesaf i dîm cyfathrebu ACC yw tynnu sylw at y Cofrestriad Cenedlaethol a sicrhau bod pobl yn cymryd y camau angenrheidiol ar gyfer cofrestru, yn cael eu cyfeirio at y wybodaeth gywir, a bod y gwahaniaeth rhwng yr Ardoll Ymwelwyr a Chofrestriad Cenedlaethol yn cael ei gyfathrebu’n eglur.
  4. Roedd yr adolygiad porth 0 i fod i ddechrau ar 21 Medi 2025, a byddai'r cyfweliadau’n dechrau yr wythnos honno. Bydd adolygwyr yn adrodd ar drydydd diwrnod yr adolygiad, yna bydd y Pennaeth Cynllunio Strategol a Chyflawni’r Ardoll Ymwelwyr a Chofrestriad Cenedlaethol yn cynnal adolygiad effeithiolrwydd o fwrdd y rhaglen, er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys lefel briodol o her. 
  5. Diolchodd y Bwrdd i'r Pennaeth Cynllunio Strategol a Chyflawni Ardoll Ymwelwyr a Chofrestriad Cenedlaethol am yr adroddiad clir a chryno.

Adroddiad Trysorlys Cymru 

Wedi'i olygu

Adroddiad ar Berfformiad

  1. Cyflwynodd Pennaeth Dadansoddi Data ACC ddangosyddion perfformiad newydd. Mae'r dangosyddion newydd yn cyd-fynd â'r Cynllun Corfforaethol newydd ac mae gwaith yn parhau ar y broses o gasglu data yn eu herbyn. Gofynnodd am sylwadau gan y Bwrdd a gallai addasu'r dangosyddion pe bai angen. Byddai'r tîm yn ceisio mireinio cyflwyniad y dangosyddion cyfredol a chynnwys rhagor o ddangosyddion yn yr adroddiadau, yn enwedig dangosyddion sy'n gysylltiedig â gwasanaethau.
  2. Wedi'i olygu
  3. Wedi'i olygu
  4. Cytunwyd bod slot 45 munud ar gyfer trafod yr adroddiad ar berfformiad wedi sicrhau craffu a thrafodaeth gynhyrchiol, ac y byddai'r aelodau yn croesawu hyn yn y dyfodol. Gallai gwahodd aelodau staff ACC sy'n ymwneud ag astudiaethau achos i drafodaethau’r Bwrdd fod yn fuddiol hefyd. 

Cyllid ac Adroddiad y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

  1. Wedi'i olygu
  2. Wedi'i olygu
  3. Byddai cyfarfod y cael ei gynnal rhwng y Prif Swyddog Cyllid a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) cyn cyfarfod nesaf ARAC er mwyn sicrhau trafodaethau effeithiol yn ystod cyfarfodydd ARAC ac i egluro cyflwyniad y ffigurau/dangosfwrdd.
  4. Roedd Pennaeth Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru yn bresennol yn y cyfarfod ARAC i roi cyflwyniad ar y safonau archwilio mewnol byd-eang newydd. Hefyd, nododd y pwyllgor y cynllun archwilio mewnol 2025–26 gorffenedig yn ogystal â'r adroddiad ar archwiliad Ch1 o brosesau caffael, a oedd wedi derbyn sicrwydd sylweddol. 
  5. Roedd cylch gorchwyl ARAC wedi'i ddiweddaru er mwyn egluro’r berthynas rhwng ARAC a'r Bwrdd, yn ogystal â nodi'r hyn y dylai ARAC edrych amdano ym mhob eitem sefydlog (e.e. ar gyfer craffu, sicrwydd, argymell i'r Bwrdd). Argymhellodd Cadeirydd ARAC gylch gorchwyl i'r Bwrdd er eu cymeradwyaeth, a chymeradwyodd y Bwrdd.
  6. Wedi'i olygu

Trafodaeth y Bwrdd

Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Strategaeth y Bwrdd – Y Camau Nesaf

  1. Nododd Pennaeth Staff ACC pa themâu allweddol yr oedd TA wedi'u nodi fel camau gweithredu o ganlyniad i Ddiwrnod Cwrdd i Ffwrdd Strategaeth y Bwrdd. Roedd y themâu yn cynnwys: trwyddedu, AI, etholiadau'r Senedd a pherthnasoedd â Llywodraeth Cymru. 
  2. Wedi'i olygu

Llinell Amser Gweithgarwch (Allbwn Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd y Bwrdd)

  1. Cyflwynodd Pennaeth Strategaeth a Pholisi ACC amserlen o weithgarwch strategol.
  2. Cytunwyd y byddai wythnos 12 Ionawr 2026 yn adeg briodol i gynnal Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Strategaeth nesaf y Bwrdd, a byddai marc dyddiadur yn cael ei anfon allan yn unol â hynny.
  3. Nodwyd y byddai adroddiad blynyddol nesaf ACC yn debygol o fod yn destun mwy o graffu o ganlyniad i’r cyrhaeddiad cyhoeddus ehangach o ganlyniad i gyflwyno’r Ardoll ymwelwyr ac ers dod o dan Safonau'r Gymraeg yn ffurfiol.

Cau’r Cyfarfod

  1. Soniodd yr aelodau am drafodaethau'r dydd, a oedd ag ystyriaethau risg eang.
  2. Sgwrs Bwrdd fyddai’r cyfarfod nesaf, ar 22 Hydref 2025. 

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.