Adolygiad o amgylchedd ddata VAWDASV yng Nghymru ar sail data presennol a thystiolaeth a gasglwyd oddi wrth randdeiliaid.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Comisiynwyd Alma Economics gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o dirwedd data Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yng Nghymru ar draws ar draws meysydd diddordeb allweddol, sy’n cyd-fynd â nodau craidd Strategaeth VAWDASV 2022-2026 a chwe maes Ffrwd Waith y Glasbrint.
Cynhaliwyd yr ymchwil mewn dau gam.
- Roedd Cam 1 yn cynnwys adolygiad manwl o ddeddfwriaeth allweddol Cymru a thystiolaeth bresennol, cyfres o gyfweliadau cwmpasu lled-strwythuredig gyda rhanddeiliaid allweddol a Galwad am Dystiolaeth a ddosbarthwyd i'r sector.
- Canolbwyntiodd Cam 2 ar ddadansoddi'r dystiolaeth a gasglwyd i nodi bylchau yn y data.
Mae’r canfyddiadau wedi’u cyfuno a'u trefnu yn ôl chwe maes y ffrydiau gwaith, gan alluogi mapio strwythuredig o gryfderau a gwendidau’r data ar draws tirwedd VAWDASV. Yn ogystal, cyflwynir set o argymhellion wedi'u targedu i wella hygyrchedd, ansawdd a chydlyniant data VAWDASV yng Nghymru.
Adroddiadau
Crynodeb gweithredol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 287 KB
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Nerys Owens
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
