Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddais yn flaenorol mewn datganiad ysgrifenedig ar 25 Medi 2014 fod System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn cael ei chyflwyno. Roedd hyn yn cynnwys esboniad manwl o’r model tri cham ynghyd â mesuriadau ar gyfer ysgolion cynradd. Ar ôl hynny, ar 27 Tachwedd 2014, cyhoeddais fanylion am yr 14 mesur sydd yn sail i gategoreiddio ysgolion uwchradd. Gallaf gyhoeddi yn awr, yn dilyn proses asesu fanwl, fod ysgolion cynradd ac uwchradd yn awr wedi eu gosod yn eu categorïau perthnasol o ran cefnogaeth.

Mae’n bwysig cofio mai prif bwrpas y system genedlaethol ar gyfer categoreiddio ysgolion yw dod o hyd i’r ysgolion hynny sydd angen cefnogaeth fwyaf, sicrhau ein bod, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chonsortia, yn targedu ein cefnogaeth a’n hadnoddau yn y modd mwyaf effeithiol i sicrhau’r gwelliannau angenrheidiol o fewn ein system ysgolion. O ganlyniad, bydd hyn yn helpu i godi safonau a pherfformiad yng Nghymru.

Mae’r categorïau hyn wedi eu pennu drwy ddefnyddio mesuriadau perthnasol, yn unol â’r model tri cham. Mae cam un yn ddyfarniad ynghylch perfformiad ysgol, a’r safonau yn yr ysgol, gan ddefnyddio ystod o fesuriadau perfformiad a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae cam dau yn ddyfarniad ynghylch gallu ysgol i wella ei hunan, yn seiliedig ar hunanwerthuso cadarn mewn perthynas â’r arweinyddiaeth, y dysgu a’r addysgu. Mae cam tri yn gyfuniad o’r ddau ddyfarniad sydd, yn ei dro, yn arwain at ddosbarthu ysgol yn ôl categori lliw, gyda’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau gan gynghorwyr her y consortia addysg a’i gytuno gan yr awdurdod lleol. Mae canlyniadau’r categorïau wedi eu safoni yn rhanbarthol ac yn genedlaethol i sicrhau cysondeb o fewn ac ar draws consortia. O ran ysgolion uwchradd, eglurais yn rhan o’r broses safoni na fyddai ysgolion sy’n disgyn o dan y cyfartaledd wedi’i bwysoli o  27.2% ar gyfer perfformiad FSM, yn cael eu gosod yn uwch nag C ar gam 2 neu yn uwch na chategori cymorth melyn. Mae hyn yn cefnogi’r sylw rydw i wedi’i roi yn barhaus ar wella perfformiad disgybl FSM – sef na all cyd-destun gael ei ddefnyddio’n esgus am danberfformio.

Bydd categori cefnogaeth lliw sydd wedi ei bennu ar gyfer ysgolion yn sbarduno rhaglen bwrpasol o gymorth, her ac ymyriad ac mae pob ysgol wedi cael gwybod beth yw eu categori.

Bydd y categorïau lliw ar gyfer pob ysgol yn cael eu cyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru a bydd manylion pellach ar gael ar wefan Fy Ysgol Leol ar 30 Ionawr 2015. Mae canllawiau llawn ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia, yn ogystal â chanllawiau i rieni eisoes wedi cael eu cyhoeddi.