Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae Cymru yn wlad sy'n edrych y tu allan, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drafodaethau cenedlaethol a rhyngwladol sy'n gwella canlyniadau i bobl yng Nghymru a thramor. Mae hyn yn golygu gweithio gyda'n gilydd ag eraill ar gyfleoedd a heriau cyffredin. Mae ein perthynas â'r gwledydd a'r rhanbarthau Celtaidd wedi bodoli ers canrifoedd lawer, ac rydyn ni'n rhannu hanes, diwylliant a masnach.
Ar 1 a 2 Chwefror, bues i yn y Fforwm Celtaidd yn Glasgow, a gynhaliwyd gan Lywodraeth yr Alban. Yno hefyd roedd cymheiriaid o'r Alban, Iwerddon, Llydaw, Ynys Manaw, Cernyw a Galicia.
Dyma'r ail Fforwm Celtaidd, yn dilyn y Fforwm cyntaf a gynhaliwyd yn Rennes, Llydaw yn 2023. Ymrwymodd Datganiad Rennes i atgyfnerthu cydweithredu ar draws nifer o feysydd. Rhoddodd y Fforwm yn Glasgow gyfle i uwch arweinwyr o'r gwledydd a'r rhanbarthau Celtaidd drafod heriau a chyfleoedd cyffredin ac ystyried meysydd posibl ar gyfer cydweithio.
Ar 1 Chwefror, mynychais i dderbyniad croeso yn Neuadd Gyngerdd Frenhinol Glasgow. Roedd hwn yn cynnwys cyngerdd yng Ngŵyl Cysylltiadau Celtaidd, y Sesiynau Trawsatlantig, sy'n gweithio i gysylltu artistiaid o'r gwledydd Celtaidd a Gogledd America drwy gydweithio.
Roeddwn yn falch iawn o glywed am y cyfraniad pwysig a chynyddol mae Cymru yn ei wneud at yr Ŵyl Cysylltiadau Celtaidd dan arweiniad ein partner o fewn Tîm Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Ar 2 Chwefror, ymwelais i â'r Sefydliad Gweithgynhyrchu Cenedlaethol yn yr Alban gydag arweinwyr o'r gwledydd Celtaidd eraill i archwilio arloesedd a chydweithio.
Cyn y cyfarfod bord gron ar gyfer arweinwyr, ymunodd Prif Weinidog yr Alban, John Swinney ASA, â ni. Roedd hyn yn gyfle pwysig i drafod pwysigrwydd cydweithredu rhwng y gwledydd Celtaidd.
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Cyfansoddiad, Materion Allanol a Diwylliant, Angus Robertson ASA, yn cadeirio'r cyfarfod bord gron ar gyfer arweinwyr.
Roedd hwn yn canolbwyntio ar dair thema:
- Cydweithredu rhwng y Gwelydd Celtaidd
- Cyfnewid Diwylliannol
- Ynni Adnewyddadwy ac Arloesi
Ar ôl i'r trafodion ffurfiol ddod i ben, manteisiais i ar y cyfle am gyfarfod dwyochrog gyda Llywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw, Loïg Chesnais-Girard, a Stephane Perrin-Sarzier, Is-lywydd y Cyngor Rhanbarthol.
Trafodon ni'r cydweithio parhaus rhwng Llydaw a Chymru, yn ogystal â'r fersiwn gyfredol o'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng ein dwy lywodraeth sy'n sail i'r gwaith hwn.
