Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 10 Rhagfyr, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ynghylch ymchwil i’r defnydd o gontractau dim oriau mewn gwasanaethau cyhoeddus yn sgil pryderon am eu defnydd a’r effaith ar weithwyr.

Cyhoeddwyd yr ymchwil heddiw ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r ymchwil yn dangos yr amryw amgylchiadau lle defnyddir contractau dim oriau ar draws gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hefyd yn tynnu sylw at faterion ynghylch eu defnydd y mae angen eu hystyried ymhellach a chymryd camau yn eu cylch.

Mae’r materion yn cynnwys effaith ansicrwydd enillion ar weithwyr, rhag-rybudd digonol o waith, rhybudd a iawndal digonol am ganslo gwaith, dosbarthiad teg o waith, a hawliau cyflogaeth fel gwyliau blynyddol, tâl salwch a thâl dileu swydd.

Mae’r ymchwil hefyd yn tynnu sylw at bryderon penodol ynghylch y defnydd o gontractau dim oriau mewn gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu gosod ar gontract, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau gofal cartref sydd eisoes yn cael eu hystyried gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Rwyf felly’n bwriadu gofyn i’r Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus anstatudol newydd, ar ôl ei sefydlu yn yr hydref, ddatblygu canllawiau penodol i fynd i’r afael â phryderon a nodwyd ynghylch contractau dim oriau. Bydd hyn yn gosod disgwyliadau clir o ran arferion y dylem eu disgwyl gan bob cyflogwyr sector cyhoeddus i sicrhau na chaiff contractau dim oriau eu defnyddio mewn ffordd amhriodol. Ochr yn ochr â hyn, bwriedir cyhoeddi Hysbysiad Cyngor Caffael hefyd i osod disgwyliadau tebyg ar gyfer contractwyr gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i’r gweithlu gwasanaethau cyhoeddus a bydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl ledled Cymru.