Neidio i'r prif gynnwy

Sut i baratoi ar gyfer gofal a gynlluniwyd y GIG o'r atgyfeiriad hyd y driniaeth, a gwneud y gorau o'ch apwyntiadau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cipolwg: eich taith triniaeth

Cam 1: Mae eich meddyg teulu, optometrydd neu ddeintydd yn eich atgyfeirio i'r ysbyty

Cam 2: Mae'r ysbyty yn adolygu eich atgyfeiriad ac yn cysylltu â chi i gadarnhau'r camau nesaf

Cam 3: Rydych chi'n mynd i apwyntiadau (a all gynnwys profion)

Cam 4: Rydych chi'n paratoi ar gyfer triniaeth tra byddwch chi'n aros

Cam 5: Rydych chi'n cael eich triniaeth

Cam 6: Rydych chi'n gwella ac yn cael y gofal dilynol priodol

Ynglŷn â'r canllawiau hyn

Gall cael eich atgyfeirio am driniaeth ysbyty yn aml fod yn amser pryderus, yn enwedig os nad ydych chi'n siŵr beth i'w ddisgwyl. Mae'r canllaw hwn yn esbonio beth sy'n digwydd ar ôl i chi gael eich atgyfeirio a sut y gallwch helpu i sicrhau bod eich triniaeth yn llwyddiant.

Eich rôl a'ch cyfrifoldebau

Mae eich triniaeth yn bartneriaeth rhyngoch chi a'r GIG. Dyma beth rydym angen i chi ei wneud i sicrhau eich bod chi'n cael y gorau o'ch gofal.

Gwnewch yn siŵr bod eich manylion yn gyfredol

Gwnewch yn siŵr bod gan yr ysbyty y cyfeiriad, y rhif ffôn a'r e-bost cywir ar eich cyfer. Os bydd eich manylion yn newid, rhowch wybod iddyn nhw ar unwaith. Gallai llythyrau neu alwadau coll olygu eich bod chi'n colli apwyntiadau, a gallech gael eich tynnu oddi ar y rhestr aros.

Ewch i'ch apwyntiadau

Pan fyddwch chi'n cytuno i dderbyn apwyntiad, gwnewch bob ymdrech i fod yn bresennol. Os na allwch gyrraedd yno, cysylltwch â'r ysbyty cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio'r rhif ar eich llythyr apwyntiad.

Os nad ydych chi'n mynd i'r apwyntiad, a heb roi gwybod i'r ysbyty, efallai y bydd eich triniaeth yn cael ei gohirio neu efallai y cewch eich tynnu oddi ar y rhestr aros.

Byddwch yn hyblyg ynglŷn â ble rydych chi'n cael eich trin

Weithiau cewch gynnig triniaeth mewn ysbyty gwahanol, mewn canolfan ranbarthol, neu gan ddarparwr preifat (y bydd y GIG yn talu amdano). Mae hyn yn aml oherwydd y byddwch chi'n cael eich gweld yn gynt neu bod y gofal arbenigol sydd ei angen arnoch yn cael ei ddarparu yno.

Os byddwch yn gwrthod heb reswm da, efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach am driniaeth.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i fynd i’ch apwyntiadau. Gofynnwch i'r ysbyty am hyn.

Llenwch unrhyw holiaduron

Efallai y bydd yr ysbyty yn anfon holiaduron atoch am eich cyflwr. Mae'r rhain yn eu helpu i ddeall sut mae eich cyflwr yn effeithio arnoch chi a'u helpu i gynllunio'r gofal a'r gefnogaeth gywir. Mae'n bwysig eich bod chi'n eu cwblhau mor llawn ag y gallwch. Mae help ar gael os oes ei angen arnoch, naill ai gan staff yr ysbyty neu drwy wasanaeth Aros yn Iach eich bwrdd iechyd.

Paratowch eich hun ar gyfer triniaeth

Dechreuwch baratoi cyn gynted ag y cewch eich atgyfeirio. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i lwyddiant eich triniaeth:

  • rhoi’r gorau i smygu
  • yfed llai o alcohol
  • bwyta'n dda a chyrraedd pwysau iach
  • gwneud mwy o ymarfer corff

Mae pobl sy'n paratoi'n dda yn aml yn gwella'n gyflymach, yn treulio llai o amser yn yr ysbyty, ac yn llai tebygol o orfod gohirio eu triniaeth.

Gall tîm Aros yn Iach yr ysbyty eich helpu i baratoi ar gyfer triniaeth. Bydd y manylion am sut i gysylltu â nhw yn cael eu darparu yn eich llythyr atgyfeirio. Bydd hefyd yn cynnwys dolen i wefan yr ysbyty lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i baratoi ar gyfer eich triniaeth.

Dywedwch wrth yr ysbyty am eich anghenion

Rhowch wybod iddynt cyn eich apwyntiad os ydych chi:

  • angen cyfieithydd
  • yn anabl neu ag amhariad ar y synhwyrau
  • yn cael trafferth teithio
  • yn gyn-aelod o'r lluoedd arfog (efallai y byddwch yn cael blaenoriaeth ar gyfer rhai cyflyrau)
  • neu os oes unrhyw amgylchiadau eraill a allai effeithio ar eich gofal

Dilynwch gyngor meddygol

Cymerwch unrhyw feddyginiaeth ragnodedig a dilynwch gyngor eich meddyg teulu. Os yw'ch cyflwr yn newid tra byddwch chi'n aros, cysylltwch â'r ysbyty.

Rhowch wybod i'r ysbyty os byddwch chi'n newid eich meddwl

Os nad ydych chi eisiau'r driniaeth mwyach, siaradwch â'r person wnaeth eich atgyfeirio chi, neu gyda'r ysbyty. Gallant drafod opsiynau eraill gyda chi.

Beth y gallwch chi ei ddisgwyl gan y GIG

Yn gyfnewid, gallwch ddisgwyl:

  • cael eich trin gydag urddas a pharch
  • cael eich hysbysu am eich gofal
  • cael eich cynnwys mewn penderfyniadau am eich triniaeth
  • cael eich gweld yn yr amser byrraf posibl yn seiliedig ar eich anghenion clinigol
  • cael cymorth i baratoi ar gyfer triniaeth drwy'r gwasanaeth Aros yn Iach
  • cael cyswllt bob 6 mis tra byddwch chi'n aros

Pan fyddwch chi'n cael eich atgyfeirio

Bydd eich meddyg teulu, optometrydd neu ddeintydd yn esbonio pam eu bod yn eich atgyfeirio i'r ysbyty. Gallai hyn fod am brofion, triniaeth, neu lawdriniaeth na ellir ei wneud yn eich clinig lleol.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd arbenigwr yn yr ysbyty yn adolygu eich atgyfeiriad ac yn penderfynu ar y cam nesaf gorau. Gall hyn gynnwys:

  • prawf i helpu i gynllunio eich triniaeth
  • apwyntiad claf allanol
  • mynd yn syth ar y rhestr aros am lawdriniaeth
  • eich meddyg teulu yn rheoli eich gofal gyda chyngor arbenigol (sy'n golygu nad oes angen triniaeth ysbyty arnoch)

Byddwch yn cael cadarnhad drwy lythyr, neges destun neu alwad ffôn yn dweud wrthych:

  • bod eich atgyfeiriad wedi'i dderbyn
  • pa mor hir y gallech aros
  • lle gallech gael eich trin
  • sut i gysylltu â'r gwasanaeth cymorth Aros yn Iach

Mae eich amser aros yn dechrau pan fydd yr ysbyty yn derbyn eich atgyfeiriad. Y targed ar gyfer triniaeth arferol yw 36 wythnos, er y gall hyn amrywio.

Eich apwyntiadau

Mathau o apwyntiad efallai y cewch:

  • apwyntiadau wyneb yn wyneb yn yr ysbyty
  • apwyntiadau dros y ffôn
  • apwyntiadau fideo

Mae apwyntiadau ffôn a fideo yn arbed amser teithio i chi a gallant fod yn fwy cyfleus.

Trefnu eich apwyntiad

Bydd yr ysbyty yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiadau. Byddwch fel arfer yn cael cynnig hyd at ddau ddyddiad gwahanol.

Mae'r cynnig o apwyntiad yn rhesymol os:

  • ydyw o leiaf pythefnos i ffwrdd
  • bod y lleoliad yn addas ar gyfer eich anghenion

Dylech ddweud wrth yr ysbyty am:

  • unrhyw ddyddiadau sydd ddim yn addas (oherwydd gwyliau, apwyntiadau eraill, cyfrifoldebau gofalu)
  • unrhyw anableddau neu anghenion ychwanegol
  • os oes angen cyfieithydd arnoch
  • os oes angen help arnoch gyda theithio

Paratoi ar gyfer eich apwyntiad

Cyn i chi fynd, ysgrifennwch:

  • eich symptomau
  • meddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd (neu dewch â'r pecynnau)
  • unrhyw alergeddau
  • cwestiynau rydych chi am eu gofyn

Gallwch ddod â ffrind, perthynas neu ofalwr gyda chi.

Ar gyfer apwyntiadau ysbyty: cynlluniwch eich taith a chaniatewch amser ychwanegol ar gyfer parcio.

Ar gyfer apwyntiadau fideo: gwiriwch eich dyfais, camera, meicroffon a chysylltiad rhyngrwyd ymlaen llaw.

Ar gyfer apwyntiadau ffôn: gwnewch yn siŵr bod gan yr ysbyty y rhif cywir ar eich cyfer a bod eich ffôn wedi'i wefru.

Yn ystod eich apwyntiad

Bydd eich meddyg neu nyrs yn trafod:

  • eich symptomau a'ch hanes meddygol
  • unrhyw brofion sydd eu hangen arnoch
  • eich opsiynau triniaeth

Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau neu ddweud os nad ydych chi'n deall rhywbeth. Cymerwch nodiadau os yw'n helpu.

Cwestiynau efallai yr hoffech eu gofyn

Ynglŷn â phrofion:

  • Beth yw pwrpas y prawf?
  • Sut ydw i'n paratoi?
  • Pryd fydda i’n cael y canlyniadau?

Ynglŷn â thriniaeth:

  • Beth yw fy opsiynau?
  • Beth yw'r risgiau a'r sgîl-effeithiau?
  • Sut bydda i'n gwybod ei fod yn gweithio?

Ynglŷn â llawdriniaeth:

  • Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i adfer?
  • Faint o amser i ffwrdd o'r gwaith fydd ei angen arnaf?
  • Beth allaf ei wneud i baratoi?

Paratoi ar gyfer triniaeth (Aros yn Iach)

Mae cael eich hun mor iach â phosibl cyn triniaeth yn eich helpu i:

  • adfer yn gyflymach
  • treulio llai o amser yn yr ysbyty
  • lleihau’r risg o gymhlethdodau
  • osgoi oedi i'ch triniaeth

Gall newidiadau bach, wneud gwahaniaeth mawr

Ystyriwch:

  • roi’r gorau i smygu
  • yfed llai o alcohol
  • bwyta'n dda
  • ymarfer mwy
  • cyrraedd pwysau iach

Mae cymorth ar gael

Mae eich llythyr cadarnhad yn cynnwys manylion y gwasanaeth Aros yn Iach. Gallant helpu gyda:

  • gwybodaeth am eich cyflwr
  • cymorth i fod yn iachach cyn triniaeth
  • ateb cwestiynau tra byddwch chi'n aros
  • llenwi unrhyw holiaduron y mae'r ysbyty yn eu hanfon atoch

Bydd yr ysbyty yn cysylltu â chi bob 6 mis tra byddwch chi'n aros. Cysylltwch â nhw os bydd eich cyflwr yn newid.

Asesiad cyn llawdriniaeth

Os ydych chi'n cael llawdriniaeth, byddwch yn cael asesiad i wirio eich bod chi'n ddigon heini ar gyfer y llawdriniaeth a'r anesthetig. Gall eich pwysau, arferion smygu, faint o alcohol rydych yn ei yfed a chyflyrau iechyd eraill i gyd effeithio ar hyn. Os nad ydych chi'n ddigon heini eto, bydd yr ysbyty yn eich helpu i baratoi.

Mynd i apwyntiadau

Os nad ydych yn gallu mynd i'r apwyntiad

Cysylltwch â'r ysbyty cyn gynted â phosibl. Mae'r rhif ffôn ar eich llythyr apwyntiad.

Mae rhesymau da dros ganslo yn cynnwys:

  • salwch neu argyfwng meddygol
  • argyfwng teuluol neu brofedigaeth
  • derbyniad i'r ysbyty neu apwyntiad meddygol arall
  • cludiant ysbyty wedi'i ganslo ar fyr rybudd

Os nad ydych chi'n dod i'r apwyntiad ac nad ydych chi'n rhoi gwybod i'r ysbyty, efallai y cewch eich tynnu oddi ar y rhestr aros.

Os yw'r ysbyty yn canslo

Byddant yn aildrefnu eich apwyntiad cyn gynted â phosibl.

Lleoliadau y triniaethau

Bydd y GIG yn ceisio eich trin yn agos at adref, ond weithiau efallai y byddwch yn cael cynnig triniaeth:

  • mewn bwrdd iechyd arall
  • mewn canolfan arbenigol ranbarthol
  • gyda darparwr preifat (y telir amdano gan y GIG)

Mae cael eich trin mewn lleoliad arall yn aml yn golygu y byddwch chi'n cael eich gweld yn gynt. Efallai y bydd help ar gael gyda chostau teithio.

Os byddwch chi'n gwrthod triniaeth mewn lleoliad arall heb reswm da, efallai y byddwch chi'n aros yn hirach.

Ar ôl eich triniaeth

Unwaith y bydd y driniaeth wedi'i chwblhau, bydd eich meddyg yn trafod beth sy'n digwydd nesaf. Gallai hyn gynnwys:

  • rhyddhau i'ch meddyg teulu: mae eich meddyg teulu yn cymryd drosodd eich gofal
  • Sylw yn ôl Symptomau (SOS): yn hytrach nag apwyntiadau dilynol arferol, rydych chi'n cysylltu â'r ysbyty os oes gennych bryderon. Mae hyn fel arfer yn para 3 i 12 mis
  • Apwyntiad Dilynol ar Gais y Claf (PIFU): ar gyfer cyflyrau hirdymor, rydych chi'n trefnu apwyntiadau pan fydd eu hangen arnoch yn hytrach na mynd i apwyntiadau rheolaidd
  • cymorth hunanreoli: hyfforddiant ac adnoddau i'ch helpu i reoli eich cyflwr eich hun
  • adsefydlu: therapïau fel ffisiotherapi i'ch helpu i wella
  • apwyntiadau dilynol: i wirio eich cynnydd

Bydd eich meddyg yn esbonio beth i'w wneud, pwy i gysylltu â nhw gyda phryderon, a ble i ddod o hyd i ragor o wybodaeth.

Os bydd eich sefyllfa yn newid

Os byddwch chi'n mynd yn sâl wrth aros:

  • salwch tymor byr (o dan 6 wythnos): gellir gohirio ac aildrefnu eich triniaeth
  • salwch tymor hwy: efallai y byddwch chi'n cael eich tynnu oddi ar y rhestr aros nes eich bod chi'n ddigon iach. Ni fyddwch yn mynd i waelod y rhestr pan fyddwch chi'n dychwelyd.

Os cewch eich atgyfeirio am gyflwr arall: Bydd eich meddygon yn penderfynu pa un sydd angen ei drin yn gyntaf. Mae eich lle ar y rhestr aros wreiddiol yn cael ei gadw.

Os nad ydych chi eisiau triniaeth mwyach: Trafodwch hyn gyda'r person wnaeth eich atgyfeirio chi / eich arbenigwr ysbyty.

Cymorth ychwanegol

Dywedwch wrth yr ysbyty os yw unrhyw un o'r rhain yn berthnasol i chi, gan y gallai cymorth ychwanegol fod ar gael:

  • Personél y Lluoedd Arfog (presennol neu flaenorol) a'u teuluoedd
  • Pobl â dementia neu anableddau dysgu
  • Pobl ag anableddau neu golled synhwyraidd
  • Plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol
  • Dioddefwyr cam-drin domestig
  • Pobl ddigartref
  • Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • Cymunedau Sipsiwn a Theithwyr
  • Pobl sy'n gadael y carchar
  • Pobl mewn cartrefi gofal
  • Pobl sy'n newid rhyw

Rhestr wirio: pan fyddwch chi'n cael eich atgyfeirio

  • A yw eich meddyg teulu, optometrydd neu deintydd wedi esbonio pam rydych chi'n cael eich atgyfeirio?
  • Ydych chi'n gwybod a yw'n frys neu'n arferol? (Bydd eich arbenigwr ysbyty yn penderfynu ac yn dweud wrthych)
  • Ydy’ch manylion cyswllt yn gywir?
  • Ydych chi wedi sôn am unrhyw amgylchiadau arbennig neu anghenion ychwanegol?
  • Ydych chi wedi cael eich llythyr cadarnhad?
  • Ydych chi'n gwybod sut i gysylltu â'r gwasanaeth Aros yn Iach?

Rhestr wirio: trefnu apwyntiadau

  • Ydych chi wedi cytuno ar ddyddiad, amser a lleoliad yr apwyntiad?
  • Ydych chi'n gwybod sut i gysylltu â'r ysbyty os na allwch ddod i'r apwyntiad?
  • Ydych chi wedi dweud wrthynt am unrhyw anghenion ychwanegol?
  • Ydych chi'n gwybod ble i gael help gyda theithio?