Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Ers yr Uwchgynhadledd Genedlaethol ar Ymddygiad a gynhaliwyd y llynedd, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar y pum cam gweithredu i’w cymryd ar unwaith i fynd i’r afael ag ymddygiad. Rydym wedi gweithio’n agos gydag ymarferwyr, rhanddeiliaid, ac yn bwysicaf oll ein dysgwyr, i dynnu ar yr arferion gorau ac ymchwil ar ymddygiad i helpu ysgolion i greu amgylcheddau lle y gall pob dysgwr ffynnu.
Rydym yn cryfhau cymorth amlasiantaeth ac yn mynd i’r afael â’r ffactorau ehangach mewn cymdeithas sy’n dylanwadu ar ymddygiad mewn ysgolion. Mae’r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod y rhaglenni sy’n bodoli eisoes i leihau’r pwysau ar ysgolion yn cael cymaint o effaith â phosibl. Ar yr un pryd, mae’n sicrhau hefyd fod cyfleoedd newydd i weithio mewn ffordd gydgysylltiedig yn cael eu nodi’n gynnar, ac yn cael eu cefnogi’n llawn a’u rhoi ar waith yn effeithiol.
Rwy’n ehangu ein trefniadau cydweithio â’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu a’u Lluoedd i gryfhau’r partneriaethau rhwng yr heddlu, yr awdurdodau lleol a’r ysgolion. Byddwn yn bwrw ymlaen â’r dull ar y cyd hwn o weithredu drwy ethos y Rhaglen Ysgolion Bro, gan sicrhau bod anghenion pob cymuned wrth wraidd y cymorth a roddir.
Rydym yn diweddaru’r canllawiau cenedlaethol ar ymddygiad i ddarparu mwy o eglurder a chysondeb. Ers yr Uwchgynhadledd ar Ymddygiad, mae un fforwm ymarferwyr a rhanddeiliaid wedi arwain ar adolygiad llawn o’r canllawiau ar wahardd disgyblion a’u cadw ar ôl y tu allan i wersi, ac mae un arall wedi cydlunio canllawiau newydd ar ddefnyddio ffonau symudol mewn ysgolion. Mae gwaith y ddau grŵp bellach yn dirwyn i ben, gan sicrhau y bydd cymorth cryfach, mwy eglur ar gael i ysgolion cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Rydym nawr yn creu dull cenedlaethol o rannu arferion gorau a sicrhau diffiniadau a dulliau adrodd am ddigwyddiadau cyson. Yn ddiweddar, cyhoeddais gynlluniau a fydd yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith i ddatblygu adnoddau newydd i Gymru gyfan ar gyfer cryfhau diogelwch ysgolion. Bydd Cyngor Caerdydd yn arwain ar waith gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i ddatblygu dull cyson i ysgolion o reoli digwyddiadau pan fydd plant yn mynd ag arfau i safle ysgol. Bydd buddsoddiad cyllid o £300,000 yn gymorth ar gyfer y dull cenedlaethol hwn. Bwriedir sicrhau bod yr adnoddau hyn ar gael yn llawn ledled Cymru cyn gynted â phosibl.
Y tymor hwn, lansiais gyfres o brosiectau arloesol, a arweinir gan ysgolion, a gynlluniwyd i helpu athrawon a staff cymorth i fynd i’r afael yn fwy effeithiol â heriau ymddygiad. Cyflawnir y rhain mewn partneriaeth â phrifysgolion ledled Cymru, gan gynnwys Prifysgolion Wrecsam, Bangor, De Cymru, a Metropolitan Caerdydd. Mae’r prosiectau hyn yn ymchwilio i strategaethau ymarferol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer cryfhau arferion sy’n ymwneud ag ymddygiad mewn ysgolion. Drwy ddod â’r hyn a ddysgir o’r prosiectau hyn ynghyd, gallwn adeiladu system fwy cysylltiedig, a ysgogir gan dystiolaeth – system a fydd yn golygu ei bod yn haws rhannu a mabwysiadu dulliau effeithiol, a’u haddasu yn ôl yr angen, ledled Cymru.
Rydym hefyd yn gwneud cynnydd cadarnhaol i ddatblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar reoli ymddygiad. Ar ddechrau’r flwyddyn ysgol, cyhoeddais becyn cymorth ymddygiad newydd, ar gyfer ymarferwyr ysgol, gan ddod â’r ymchwil a’r adnoddau ymarferol diweddaraf ynghyd i helpu ysgolion i feithrin ymddygiad cadarnhaol a’i gynnal. Bydd y pecyn cymorth hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol ac yn gyfredol.
Gan adeiladu ar y gwaith hwn, mae’r prosiectau bach sy’n cael eu cynnal mewn ysgolion y tymor hwn eisoes yn meithrin dealltwriaeth werthfawr a fydd yn siapio ein cynigion ar gyfer dysgu proffesiynol sy’n fwy strwythuredig i athrawon ac arweinwyr. Bydd Dysgu yn datblygu’r cam nesaf hwn i sicrhau bod staff yn gallu cael mynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n bodloni’r anghenion a nodwyd gan yr ymarferwyr eu hunain.
Y tymor hwn, rwy’n cyflwyno pecyn o gynlluniau peilot adferol i Gymru gyfan. Gan adeiladu ar yr arferion llwyddiannus sydd eisoes ar y gweill, bydd y cynlluniau peilot hyn yn treialu dulliau arloesol, drwy gelf, chwaraeon a theatr i helpu dysgwyr i ail-ymgysylltu â’r ysgol. Y nod yw mapio’r dulliau hyn, deall beth sy’n gweithio, a gweithio’n agos gydag arweinwyr ysgolion i gydlunio strategaethau ymddygiad sy’n gweddu i gyd-destunau unigryw amgylcheddau ein hysgolion unigol.
Mae’r cynlluniau peilot hyn yn arbennig o bwysig oherwydd y cydgysylltiad cryf rhwng presenoldeb ac ymddygiad mewn ysgolion. Gall presenoldeb isel arwain at faterion ymddygiad ac ymddieithrio, ac mae heriau ymddygiadol yn aml yn arwain at absenoldebau cyson. Rwy’n falch o weld yr ystadegau ar bresenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn codi i 90.9% yn 2024/25. Mae hyn yn welliant amlwg o’i gymharu â’r llynedd, ond mae angen gwneud cynnydd pellach.
Er mwyn adeiladu ar y cynnydd hwn, mae ein gwaith i ddileu rhwystrau i bresenoldeb yn parhau. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £15 miliwn ar draws 2024-25 a 2025-26, gan gynnwys £3 miliwn ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, a fydd yn helpu ysgolion ac awdurdodau lleol i sicrhau bod dysgwyr yn ail-ymgysylltu, i fynd i’r afael â gwraidd absenoldebau cyson, ac i greu amgylcheddau mwy cynhwysol. Bydd yr ymgynghoriad ar y codau presenoldeb diwygiedig, a lansiwyd ar 12 Chwefror, yn darparu darlun cliriach a mwy manwl o’r rhwystrau sy’n cadw rhai plant o’r ystafell ddosbarth er mwyn sicrhau bod y cymorth yn canolbwyntio ar yr agweddau hynny lle y mae ei angen fwyaf.
Gyda’i gilydd, mae’r camau hyn yn gam sylweddol ymlaen i gryfhau ymddygiad, presenoldeb a llesiant ledled Cymru. Drwy gyfuno canllawiau cliriach, partneriaethau cryfach, arferion arloesol y mae ysgolion yn arwain arnynt a buddsoddiad wedi’i dargedu, rydym yn adeiladu system fwy cyson, sy’n cael ei hysgogi gan dystiolaeth. Mae’r ymdrech hon ar y cyd yn gosod y sylfeini i ysgolion ddarparu’r amgylcheddau diogel, cefnogol a chynhwysol sydd eu hangen ar bob person ifanc i ffynnu.
