Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Heddiw, mae Rheoliadau’r Cynllun Dychwelyd Ernes (CDE) ar gyfer Cynwysyddion Diod (Cymru) 2026 wedi’u gosod. Mae’r cynllun hwn yn galluogi dychwelyd cynwysyddion diod i’w hailgylchu ac i’w hailddefnyddio, ac felly bydd yn adeiladu ar ein perfformiad ailgylchu sydd eisoes gyda’r gorau yn y byd a lleihau sbwriel a gwastraff ymhellach. Mae hyn yn garreg filltir sylweddol ar ein taith tuag at ddod â
cymdeithas wastraffus i ben ac i greu economi fwy cylchol i wireddu ein hymrwymiad yn Mwy nag Ailgylchu, ac yn y cynllun Sero Net Cymru.
Rydym wedi bod yn glir o’r dechrau ynghylch yr angen i ddatblygu cynllun sy’n diwallu anghenion Cymru ac sy’n gwella ein cyfraddau ailgylchu sydd eisoes yn uchel, ac sydd hefyd yn cyd-fynd â chynlluniau ar draws y DU. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu cynllun sydd yn cynnwys poteli gwydr, er penderfyniad Llywodraeth flaenorol y DU oedd i newid cwmpas y cynllun y cytunwyd arno. Mae’r gwahaniaeth yn y cwmpas yn golygu y bu’n rhaid i ni gael eithriad o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU a thrwy gydweithio gyda Llywodraethau eraill y DU, mae’n bleser gallu cadarnhau eu bod wedi cytuno i ganiatáu’r eithriad.
Bydd y cynllun yng Nghymru yn cynnwys poteli plastig PET, caniau alwminiwm a dur a photeli gwydr o’r diwrnod cyntaf. Bydd yn cychwyn hefyd ar greu llwybr clir ar gyfer ailddefnyddio cynwysyddion, hynny gyda chymorth treialon y mae’r diwydiant wedi ymrwymo i’w cynnal, yn ogystal ag adlewyrchu arferion gorau rhyngwladol ac yn parhau i arwain y ffordd yn y DU.
Fel y dywedwyd ynghynt, er mwyn cwrdd â dymuniad y diwydiant bod yr CDE yn cael ei lansio yr un pryd ym mhob rhan o’r DU ym mis Hydref 2027, bu’n rhaid cyflymu’r broses o ddatblygu rheoliadau sy’n cael eu gosod heddiw i sefydlu’r cynllun. Bydd angen, felly, ymgorffori prif bwyntiau’r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, yn enwedig o ran pennu’r targedau ar gyfer ailddefnyddio, mewn rheoliadau yn y dyfodol. Mae’r drafodaeth am yr eithriad yn UKIMA eisoes wedi dechrau.
Er mwyn sicrhau bod y cynlluniau’n cael eu rhoi ar waith yn esmwyth ledled y DU, rwyf wedi cynnig i Lywodraethau’r DU, Gogledd Iwerddon a’r Alban ein bod yn sefydlu tasglu i sicrhau bod cysondeb rhwng y cynlluniau, gan weithio ar y cyd â’r Sefydliad Rheoli Ernes gaiff ei benodi a’i arwain gan y diwydiant. Byddwn yn cydweithio’n glos â’r diwydiant, Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod y cynllun yn dod â manteision clir i Gymru.
Bydd y Senedd nawr yn ystyried y Rheoliadau sy’n gosod y fframwaith cyffredinol ar gyfer y CDE, sy’n galluogi penodi Sefydliad Rheoli Ernes, ac yn diffinio cwmpas a phwrpas y cynllun. O 1 Hydref 2027, bydd y cynllun yn cwmpasu poteli plastig PET, caniau alwminiwm a dur, a photeli gwydr (150ml i 3L). Yn dilyn trafodaethau gyda’r diwydiant, er y bydd poteli gwydr yn rhan o’r cynllun ac yn cael eu casglu o’r cychwyn, fe fydd cyfnod pontio pan fydd cynwysyddion diodydd gwydr wedi’u heithrio rhag y gofynion labeli ac ni chaiff ernes ei godi arnynt. Bydd hyn yn para am bedair blynedd, gan roi llawer o amser i’r diwydiant addasu i’r gofynion, a ddaw i rym o ran poteli gwydr yr un pryd â chyflwyno ailddefnyddio. Hefyd. bydd y cynllun yn caniatáu i bobl Cymru allu rhoi yr ernes a ad-delir iddyn nhw i elusen, gan gefnogi buddiannau cymdeithasol a chymunedol.
Yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, trwy’r rheoliadau, daw’r CDE i rym yng Nghymru ar 1 Hydref 2027. Mae hyn yn garreg filltir arall yn y daith o ddatblygu’n cynllun, a bydd Cymru’n gallu parhau i arwain y ffordd yn y DU ac yn y byd wrth adeiladu economi gylchol sy’n gweithredu er lles ein heconomi, ein cymunedau a’n hamgylchedd.
