Addysg gychwynnol i athrawon: methodoleg a gwybodaeth am ansawdd
Methodoleg a gwybodaeth am ansawdd ar gyfer ystadegau addysg gychwynnol i athrawon (AGA) a gyhoeddwyd o fis Gorffennaf 2025 ymlaen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Y brif ffynhonnell ddata ar gyfer y rhan fwyaf o'r ystadegau hyn yw cofnod myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). O flwyddyn academaidd 2022 i 2023, newidiwyd fformat cofnod myfyrwyr HESA i fodel Data Futures. Roedd hyn yn newid sylweddol i'r strwythur, ac arweiniodd at heriau mawr o ran amseru a dilysu'r data. Nodwyd problemau ansawdd data yng nghofnod myfyrwyr HESA ar gyfer 2022 i 2023 a 2023 i 2024, ac roedd angen cywiro rhai ohonynt ar lefel darparwr addysg uwch.
Oherwydd natur y newidiadau a'r newid yn y fformat i fodel Data Futures, adolygwyd methodoleg a diffiniadau'r datganiadau AGA blaenorol hefyd. Nodwyd rhai materion yn ymwneud ag ansawdd data ar gyfer blynyddoedd academaidd cyn 2022 i 2023, a gywirwyd yn y datganiad hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Jisc, Medr a darparwyr addysg uwch i wella ansawdd data dros amser. Pan wneir cymariaethau, dylid eu dehongli yng nghyd-destun yr wybodaeth ansawdd a methodoleg a ddarperir.
Gweler 'Addysg Gychwynnol i Athrawon: diffiniadau' am wybodaeth fanylach ynghylch sut mae termau'n cael eu defnyddio yn y bwletin.
Methodoleg
Ffynhonnell y data
Y brif ffynhonnell ddata ar gyfer y rhan fwyaf o'r ystadegau hyn yw cofnod myfyrwyr HESA. Darperir y cofnod hwn i Lywodraeth Cymru gan Jisc, sydd bellach yn berchen ar HESA ac ei redeg.
Mae crynodeb o’r broses o gasglu data myfyrwyr ar gyfer 2023 i 2024, gan gynnwys amserlenni, rheolau busnes a dilysu a phrosesau gwirio, ar gael ar wefan HESA.
Dull cyfrifo
Mae pob cyfrif yn seiliedig ar nifer y cofrestriadau yn hytrach na nifer yr unigolion. Mae tri math o gofrestriadau wedi'u cynnwys yn y bwletin: dechreuwyr, myfyrwyr, ac unigolion cymwysedig. Nid yw'r poblogaethau yn hollol annibynnol ar ei gilydd - er enghraifft, mae'r holl gofrestriadau dechreuwyr yn rhan o'r boblogaeth myfyrwyr a'r boblogaeth dechreuwyr, ac mae llawer o gofrestriadau unigolion cymwysedig yn perthyn i'r boblogaeth myfyrwyr a'r boblogaeth unigolion cymwysedig.
Mewn achosion lle mae unigolyn wedi'i gofrestru ar fwy nag un cwrs sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer cael ei gynnwys yn un o'r poblogaethau hyn, mae'n cael ei gyfrif yn perthyn i'r boblogaeth fwy nag unwaith. Er enghraifft, byddai unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar ddau gwrs gwahanol, gyda'r ddau gofrestriad yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cael ei gynnwys ym mhoblogaeth gofrestru safonol HESA, yn cael ei gyfrif fel dau "fyfyriwr". Gweler 'Addysg Gychwynnol i Athrawon: diffiniadau' am wybodaeth fanylach am yr hyn sy'n cyfrif fel cofrestriad dechreuwr, cofrestriad myfyriwr, a chofrestriad unigolyn cymwysedig.
Caiff arbenigeddau pwnc uwchradd eu cyfrifo ar sail ffigurau cyfwerth â pherson llawn. Mae hyn yn golygu, os yw cwrs yn canolbwyntio ar arbenigedd mathemateg am hanner yr amser, a ffiseg am yr hanner arall, byddai'n ymddangos fel 0.5 cofrestriad mewn arbenigedd mathemateg a 0.5 cofrestriad mewn arbenigedd ffiseg.
Newidiadau i’r fethodoleg
O flwyddyn academaidd 2022 i 2023, newidiwyd fformat cofnod myfyrwyr HESA i fodel Data Futures. Oherwydd y newid hwn, mae rhywfaint o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd yn wahanol mewn blynyddoedd gwahanol. Mewn rhai achosion, gall ffigurau cyhoeddedig hefyd fod yn wahanol i ddatganiadau a gyhoeddwyd yn flaenorol.
Hyfforddiant athrawon dwyieithog
Ar hyn o bryd mae'r Brifysgol Agored yn cofnodi'r holl gyrsiau AGA fel rhai y'u cynlluniwyd i alluogi unigolion i allu addysgu drwy'r Gymraeg yng nghofnod myfyrwyr HESA. Er mwyn osgoi goradrodd ar y ffigurau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cael gwybodaeth am hyfforddiant athrawon dwyieithog yn uniongyrchol gan y Brifysgol Agored ac yn diwygio'r ffigurau bob blwyddyn. Mewn datganiadau ystadegol AGA blaenorol, cofnodwyd bod unigolion yn derbyn hyfforddiant i allu addysgu drwy'r Gymraeg ddim ond os oedd y Brifysgol Agored yn cofnodi hynny ar gyfer y flwyddyn academaidd. Mae'r datganiad hwn bellach yn trin unrhyw unigolion a nodir fel rhai sy'n cael hyfforddiant i allu addysgu drwy'r Gymraeg drwy gydol eu hastudiaethau fel rhai sy'n cael hyfforddiant i allu dysgu drwy'r Gymraeg.
Lefel yr astudio/cymhwyster
Mae datganiadau ystadegol AGA blaenorol yn gwahaniaethu rhwng cyrsiau TAR sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) a chyrsiau eraill sy'n arwain at SAC. Defnyddir y termau ôl-raddedig a TAR yn aml drwy ei gilydd, er gwaethaf gwahaniaethau cynnil. Mae'r gwahaniaeth rhwng lefel astudio/cymhwyster yn disodli'r gwahaniaeth TAR/Arall. Nid yw'r newid hwn yn cael unrhyw effaith sylweddol ar y ffigurau a adroddir yn y datganiad hwn.
Manyleb y dechreuwyr
Ar gyfer blynyddoedd academaidd cyn 2022 i 2023, diffinnir dechreuwyr (a elwid gynt yn flwyddyn gyntaf) gan ddyddiad dechrau 1 Awst (blwyddyn 1) a 31 Gorffennaf (blwyddyn 2). Er enghraifft, ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022, dechreuwyr fyddai'r rhai â dyddiad dechrau rhwng 1 Awst 2021 a 31 Gorffennaf 2022. O flwyddyn academaidd 2022 i 2023 ymlaen, mae'r dyddiadau cychwyn ar gyfer dechreuwyr wedi newid ychydig, i fod rhwng 18 Gorffennaf (blwyddyn 1) a 17 Gorffennaf (blwyddyn 2). Nid yw'r gwahaniaeth hwn yn y diffiniad yn cael effaith sylweddol ar y ffigurau a adroddir yn y datganiad hwn.
Arbenigedd Pwnc
Yn dilyn y symud i'r model Data Futures, o 2022 i 2023, nid yw'r Brifysgol Agored yn cofnodi arbenigeddau pwnc yng nghofnod myfyrwyr HESA. Er mwyn gallu adrodd ar arbenigeddau pwnc yn y bwletin AGA, mae Llywodraeth Cymru yn cael gwybodaeth am arbenigeddau pwnc uwchradd yn uniongyrchol gan y Brifysgol Agored er mwyn gallu diwygio'r ffigurau yn flynyddol.
Talgrynnu a rheoli datgeliad
Mae'r holl ffigurau sy'n deillio o gofnod myfyrwyr HESA yn cael eu talgrynnu yn unol â methodoleg talgrynnu safonol HESA fel a ganlyn:
- Mae pob rhif wedi’i dalgrynnu i’r lluosrif 5 agosaf
- Mae unrhyw rif sy’n llai na 2.5 yn cael ei dalgrynnu i 0
- Mae pob hanner yn cael ei dalgrynnu i fyny (e.e. mae 2.5 yn cael ei dalgrynnu i 5)
- Mae canrannau sy'n seiliedig ar lai na 22.5 o unigolion yn cael eu hatal
- Mae cyfartaledd yn seiliedig ar 7 neu lai o unigolion yn cael eu hatal
- Mae'r uchod yn berthnasol i gyfrif pennau, data cyfwerth â phersonau llawn (FPE) a data cyfwerth ag amser llawn (FTE)
- Nid yw'r data ariannol wedi'i dalgrynnu
Mae cyfrannau sy'n seiliedig ar ffigurau bach yn cael eu harddangos a'u cyfrifo yn seiliedig ar ffigurau wedi'u talgrynnu er mwyn osgoi datgeliad, ac felly gallant fod yn gamarweiniol.
Ansawdd data
Cyfnod AGA i fyfyrwyr
Ar gyfer 2022 i 2023 a 2023 i 2024, gwelwyd bod rhai myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru y cofnodwyd eu bod ar gyrsiau AGA yn arwain at SAC heb achrediad AGA wedi'i gofnodi. Ar ôl cydlynu â'r darparwr, cafwyd cofnod AGA ar gyfer y myfyrwyr yr effeithiwyd arnynt gan ddefnyddio teitlau cyrsiau lle bo hynny'n briodol. Cafodd myfyrwyr a oedd ar gwrs heb achrediad cyfnod AGA eu trin fel unigolion nad oeddent ar gwrs AGA sy'n arwain at SAC.
Cyfnod AGA ar gyfer unigolion cymwysedig
Dywedodd Prifysgol Metropolitan Caerdydd fod ei holl unigolion cymwysedig AGA yn 2022 i 2023 wedi cymhwyso mewn cyfnod AGA "Arall". Roedd hyn yn golygu nad oedd unigolion cymwysedig AGA o Brifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cael eu dyrannu i'r cyfnod AGA cywir a oedd yn cyfateb i'w cymhwyster SAC. Cafodd hyn ei gywiro trwy sicrhau bod pob unigolyn cymwysedig AGA yn cael ei ddyrannu i gyfnod "Arall" ar gyfer cymhwyster gyda'r un cyfnod AGA â'r cyfnod AGA yr oeddent wedi hyfforddi i addysgu ynddo.
Roedd Prifysgol De Cymru wedi dychwelyd cofnodion anghywir ar gyfer pob unigolyn cymwysedig o gyrsiau AGA yn 2022 i 2023 a 2023 i 2024, heb ddyrannu cyfnod AGA. Roedd hyn yn golygu nad oedd unrhyw unigolyn cymwysedig o gyrsiau AGA yn cael eu trin fel rhai sydd wedi cael SAC, a fyddai wedi arwain at danadrodd mawr o unigolion cymwysedig AGA. Cafodd hyn ei gywiro trwy sicrhau bod pob unigolyn cymwysedig AGA ym Mhrifysgol De Cymru yn cael ei ddyrannu i gyfnod cymhwyso a oedd yr un fath â'r cyfnod AGA y hyfforddwyd i addysgu ynddo, a thrin pob unigolyn cymwysedig o gyrsiau AGA fel rhai oedd wedi cael SAC.
Statws siarad Cymraeg
Yn dilyn symud i'r model Data Futures, o 2022 i 2023 ymlaen, cafwyd newidiadau sylweddol i'r data ynghylch gallu siarad Cymraeg a gasglwyd yng nghofnod myfyrwyr HESA. Effeithiwyd ar ansawdd y data ynghylch statws unigolion mewn perthynas â'u gallu i siarad Cymraeg hefyd yn dilyn gweithredu model Data Futures. Mae'r materion ansawdd data o ran statws siarad Cymraeg yn cynnwys unigolion sydd â chofnodion gwrthgyferbyniol am eu statws siarad Cymraeg ac unigolion sy'n cael eu cofnodi fel siaradwyr Cymraeg heb wybod pa mor rhugl. O ystyried y materion hyn, cofnodir statws siaradwr Cymraeg ar gyfer y rhai y gwyddom eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl, ac yn achos pob categori arall, gan gynnwys lle nad yw'r gallu i siarad Cymraeg yn hysbys, nodir nad yw'n hysbys eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl. Pan fo gan unigolion nifer o gofnodion gwrthgyferbyniol am eu statws siarad Cymraeg, maent yn cael eu trin fel rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg yn rhugl, hyd yn oed pan fo un o'r cofnodion yn nodi eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae hyn yn golygu bod y ffigurau ynghylch statws unigolion mewn perthynas â'u gallu i siarad Cymraeg yn dangos y gyfran y gwyddom eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl, a gall gwelliannau o ran creu data mwy cyflawn effeithio ar y newidiadau o flwyddyn i flwyddyn.
Hyfforddiant athrawon dwyieithog
Nodwyd materion ansawdd data gan sawl darparwr addysg uwch ar gyfer statws hyfforddiant athrawon dwyieithog, dros nifer o flynyddoedd. Mae'n ymddangos bod darparwyr wedi goradrodd neu danadrodd nifer y cofrestriadau ar gyrsiau a gynlluniwyd i alluogi unigolion i addysgu drwy'r Gymraeg. Lle mae materion wedi'u nodi, gwnaed diwygiadau yn seiliedig ar deitl y cwrs a chodau cyrsiau yng nghofnod myfyrwyr HESA. Fodd bynnag, efallai na fydd rhai o'r materion wedi'u nodi oherwydd y berthynas rhwng teitlau cyrsiau a hyfforddiant athrawon dwyieithog.
O ystyried y diwygiadau hyn, yn ogystal â newid yn y fethodoleg ar gyfer adrodd ar hyfforddiant athrawon dwyieithog yn y Brifysgol Agored, mae nifer y cofrestriadau sy'n gysylltiedig â gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn wahanol i'r hyn a gyhoeddwyd mewn datganiadau ystadegol AGA blaenorol. Mae'r gwahaniaethau rhwng data a gyhoeddwyd ar gyfer blynyddoedd academaidd cyn 2022 i 2023 yn y datganiadau cyfredol a blaenorol i'w gweld yn nhabl 1.
| Blwyddyn academaidd | Datganiad AGA blaenorol | Datganiad AGA cyfredol | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| 2015/16 | 365 | 380 | +15 |
| 2016/17 | 340 | 385 | +45 |
| 2017/18 | 330 | 370 | +40 |
| 2018/19 | 280 | 325 | +45 |
| 2019/20 | 335 | 335 | 0 |
| 2020/21 | 440 | 430 | -10 |
| 2021/22 | 450 | 470 | +20 |
[Nodyn 1] Mae gwahaniaethau yn seiliedig ar ffigurau wedi'u talgrynnu
Rhyw
Mae HESA wedi gweld bod darparwyr addysg uwch wedi cofnodi rhyw unigolion fel 'Information Refused' a 'Not Available' ar gyfer myfyrwyr a gofnodwyd yn flaenorol fel 'other'. Am y rheswm hwn, nid yw HESA yn teimlo ei bod yn briodol dangos y categorïau hyn ar wahân yn y data a gyhoeddwyd ac felly maent wedi'u cyfuno ag 'other'.
Ethnigrwydd
Ar gyfer 2022 i 2023, bu cynnydd mawr yn swm y data ethnigrwydd coll ar gyfer myfyrwyr y mae eu cyfeiriad parhaol yn y DU. I gyfrif am hyn, defnyddiwyd data ethnigrwydd o 2021 i 2022 i briodoli ethnigrwydd ar gyfer myfyrwyr oedd yn parhau i astudio gyda darparwyr addysg uwch yng Nghymru lle roedd gwybodaeth am ethnigrwydd ar goll neu'n anhysbys i fyfyrwyr o fewn cwmpas, ac eithrio lle roeddent wedi cofnodi y byddai'n well ganddynt beidio â dweud.
