Neidio i'r prif gynnwy

Blwyddyn academaidd

Mae blwyddyn academaidd HESA yn dechrau ar 1 Awst ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf y flwyddyn ganlynol. Er enghraifft, mae blwyddyn academaidd 2023 i 2024 yn dechrau ar 1 Awst 2023 ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2024.

Oedran

Ar gyfer myfyrwyr a dechreuwyr, ystyr oedran yw oedran unigolyn ar 31 Awst ym mlwyddyn gyntaf y cyfnod adrodd. Er enghraifft, yn ystod cyfnod adrodd 1 Awst 2023 hyd 31 Gorffennaf 2024, oedran yr unigolyn ar 31 Awst 2023 sydd dan sylw.

Ar gyfer myfyrwyr cymwysedig, ystyr oedran yw oedran unigolyn ar 31 Gorffennaf yn ail flwyddyn y cyfnod adrodd. Er enghraifft, yn ystod cyfnod adrodd 1 Awst 2023 hyd 31 Gorffennaf 2024, oedran yr unigolyn ar 31 Gorffennaf 2024 sydd dan sylw.

Hyfforddiant athrawon dwyieithog / Hyfforddiant i allu addysgu drwy'r Gymraeg

Ystyrir bod unigolion yn rhai sy'n hyfforddi i allu addysgu drwy'r Gymraeg os ydynt yn dilyn cwrs sydd naill ai’n arwain at dystysgrif ffurfiol o addysg ddwyieithog, neu nad yw’n arwain at dystysgrif, ond sydd wedi’i gynllunio i'w galluogi i addysgu drwy'r Gymraeg.

Anabledd

Gwyddom fod gan yr unigolyn anabledd neu nad oes ganddo anabledd yn seiliedig ar ei hunanasesiad. Lle nodir nad oes anabledd hysbys, efallai bod yr unigolyn wedi nodi nad oes ganddo unrhyw amhariad, cyflwr iechyd neu wahaniaeth dysgu sy'n hysbys iddo, neu efallai nad yw ei statws anabledd yn hysbys.

Dechreuwyr

Cyfrifir dechreuwyr yn seiliedig ar nifer y cofrestriadau ar lefel addysg uwch sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer eu cynnwys ym mhoblogaeth gofrestru safonol HESA, a rhaid i bob dechreuwr a gofrestrir gydymffurfio â diffiniad HESA o ddechreuwr. Pan fydd unigolyn yn cofrestru i ddechrau mwy nag un cwrs yn yr un flwyddyn academaidd sy'n bodloni'r meini prawf dechreuwyr, bydd pob cofrestriad yn cael ei gyfrif ar wahân.

Ar gyfer data Addysg Gychwynnol i Athrawon, dim ond dechreuwyr ar gwrs sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig sy'n cael eu cynnwys yn nifer y dechreuwyr.

Ethnigrwydd

Mae ethnigrwydd unigolyn yn cael ei hunanasesu, a dim ond ar gyfer unigolion y mae eu cyfeiriad parhaol  yn y Deyrnas Unedig y caiff y data hwn ei gasglu.

Cyfeiriad parhaol

Cyfeiriad cartref yr unigolyn wrth ddechrau'r cwrs yw hwn. Yn swyddogol, nid yw tiriogaethau Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw, sy'n ddibynnol ar y Goron, yn rhan o'r DU na'r UE. At ddibenion dadansoddi, mae Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw wedi'u cynnwys fel tiriogaethau eraill y DU. Cofnodir unigolion y mae eu cyfeiriad cartref yn y DU, ond lle nad yw'r rhanbarth yn hysbys, fel unigolion sy'n byw yn nhiriogaethau eraill y DU.

Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA)

Mae Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cwmpasu pob llwybr tuag at fynd yn athro. 

Ar gyfer data Addysg Gychwynnol i Athrawon, dim ond cyrsiau lle mae eu cwblhau'n llwyddiannus yn arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) sy'n cael eu cynnwys.

Cyfnod AGA

Mae 'cyfnod AGA' yn nodi p'un a yw’r cwrs yn canolbwyntio ar hyfforddi athrawon ysgol gynradd neu uwchradd. Pan fydd athro wedi cymhwyso, efallai y bydd yn addysgu ystod oedrannau wahanol i’r un y bu’n hyfforddi ar ei chyfer i gychwyn. Ar gyfer myfyrwyr a dechreuwyr, mae'r cyfnod AGA yn cael ei bennu gan yr achrediad AGA y mae'r unigolyn yn ceisio ei gael. Ar gyfer myfyrwyr cymwysedig, mae'r cyfnod AGA yn cael ei bennu gan yr achrediad AGA y mae'r myfyriwr cymwysedig wedi llwyddo i'w gael. 

Mae rhai achrediadau ar gyfer cyrsiau AGA yn cwmpasu ystod oedran ehangach. Yn yr achosion hynny, mae'r cyfnod AGA yn cael ei bennu gan y grŵp oedran hynaf y mae'r achrediad yn ei gwmpasu.

Lefel astudio neu gymhwyster

Ar gyfer cofrestriadau myfyrwyr a dechreuwyr, mae'r lefel astudio yn cyfeirio at lefel y cymhwyster y mae'r myfyriwr yn anelu at ei gael ar ôl cwblhau ei astudiaethau. Ar gyfer cofrestriadau myfyrwyr cymwysedig, mae lefel y cymhwyster yn cyfeirio at y lefel y mae'r myfyriwr cymwysedig wedi llwyddo i'w chyflawni. Efallai y bydd myfyriwr cymwysedig yn cael cymhwyster ar lefel wahanol i'r lefel yr oedd yn ei dilyn yn wreiddiol. Mae'r lefel astudio a lefel y cymhwyster naill ai ar lefel ôl-raddedig neu israddedig.

Ar gyfer data Addysg Gychwynnol i Athrawon, dim ond cofrestriadau ar gwrs sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig sy'n cael eu cynnwys. Roedd data blaenorol a gyhoeddwyd yn gwahaniaethu rhwng cyrsiau TAR sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) a chyrsiau eraill sy'n arwain at SAC. Yn aml, defnyddir y termau 'ôl-raddedig' a 'TAR' i olygu yr un peth, er bod rhai mân wahaniaethau rhyngddynt. Mae'r gwahaniaeth rhwng lefel astudio a lefel y cymhwyster yn disodli'r gwahaniaeth  rhwng cwrs TAR a chyrsiau eraill. Gweler TAR i gael rhagor o wybodaeth.

TAR

Mae TAR yn cynnwys Tystysgrif Addysg i Raddedigion, Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg, a’r Diploma Proffesiynol mewn Addysg. Cymhwyster lefel gradd Meistr yw’r Dystysgrif Addysg i Raddedigion, ond nid felly’r Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg. Roedd data blaenorol a gyhoeddwyd yn gwahaniaethu rhwng cyrsiau TAR sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) a chyrsiau eraill sy'n arwain at SAC. Mae'r gwahaniaeth rhwng lefel astudio a lefel y cymhwyster yn disodli'r gwahaniaeth rhwng cwrs TAR a chyrsiau eraill.

Statws Athro Cymwysedig (SAC)

Rhaid bod â Statws Athro Cymwysedig er mwyn addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru. Mae SAC yng Nghymru yn wahanol i SAC yn Lloegr neu gofrestr y Cyngor Addysgu Cyffredinol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban. Fodd bynnag, mae SAC a enillwyd yn Lloegr yn galluogi'r athrawon hynny i addysgu yng Nghymru. Gall athrawon sydd â SAC a gafwyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wneud cais i Gyngor y Gweithlu Addysg  am gydnabyddiaeth fel athro ysgol sy'n gymwys i ymarfer yng Nghymru. Gall athrawon sydd wedi'u hyfforddi'n rhyngwladol hefyd wneud cais i CGA gydnabod eu cymwysterau addysgu ac ennill SAC yng Nghymru.

Myfyrwyr cymwysedig

Cyfrifir myfyrwyr cymwysedig yn seiliedig ar nifer y cofrestriadau sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer eu cynnwys yn y boblogaeth a nodir gan HESA sydd wedi ennill cymwysterau Pan ddyfernir cymwysterau ar gyfer mwy nag un cofrestriad yn yr un flwyddyn academaidd, bydd pob cofrestriad yn cael ei gyfrif ar wahân.

Ar gyfer data Addysg Gychwynnol i Athrawon, dim ond myfyrwyr cymwysedig y dyfarnwyd cymhwyster Statws Athro Cymwysedig iddynt sy'n cael eu cynnwys yn nifer y cymwysterau.

Rhyw

Mae hyn yn seiliedig ar ryw yr unigolyn yn hytrach na'r rhyw y mae'n uniaethu ag ef.

Myfyrwyr

Cyfrifir myfyrwyr yn seiliedig ar nifer y cofrestriadau ar lefel addysg uwch sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer eu cynnwys ym mhoblogaeth gofrestru safonol HESA.

Pan fydd unigolyn yn cofrestru fwy nag unwaith yn yr un flwyddyn academaidd, bydd pob cofrestriad yn cael ei gyfrif ar wahân.

Ar gyfer data Addysg Gychwynnol i Athrawon, dim ond cofrestriadau ar gwrs sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig sy'n cael eu cynnwys yn nifer y myfyrwyr.

Darparwyr addysg uwch Cymru

Gall hyn gynnwys prifysgolion a cholegau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac sy'n darparu addysg uwch, yn ogystal â chanolfan genedlaethol y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae'n seiliedig ar ganolfan weinyddol y darparwr sy'n adrodd yn hytrach na lleoliad y campws.

Statws siaradwr Cymraeg

Mae gallu unigolyn i siarad Cymraeg yn cael ei hunanasesu. Mae'r unigolion sydd wedi'u nodi fel rhai nad yw'n hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl yn cynnwys y rhai sy'n disgrifio eu hunain fel rhai nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg rhugl, rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg, ac unigolion nad yw eu hyfedredd o ran siarad Cymraeg yn hysbys.

Gwybodaeth bellach