Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ebrill 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae addysg a hyfforddiant da ym maes iechyd yn hanfodol er mwyn cynnal a gwella safonau'r gwasanaeth a ddarperir i gleifion ledled Cymru. Mae cael gweithlu sy'n fedrus, yn hyblyg ac yn ddigon sionc i ymateb i'r heriau niferus y mae'r GIG yn eu hwynebu yn hollbwysig er mwyn sicrhau gofal iechyd cynaliadwy. Ar yr un pryd, mae'n rhaid i’r gofal iechyd hefyd fod â gwreiddiau dwfn yn nhraddodiadau’r GIG - dangos trugaredd, canolbwyntio ar y claf, am ddim pan gaiff ei ddarparu ac ar gael i bawb.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mwy na £350m bob blwyddyn i helpu 15,000 a mwy o fyfyrwyr a hyfforddeion ledled Cymru sy'n dilyn rhaglenni iechyd gan gynnwys cyrsiau israddedig, ôl-raddedig ac addysg broffesiynol barhaus.

Mae galwadau gan y system gofal iechyd yn newid yn gyson ac mae'n bwysig ein bod yn cynllunio ar gyfer y newidiadau hyn. Rhaid mai ein nod yw symud adnoddau at dimau gofal sylfaenol a gofal cymunedol amlddisgyblaethol, gan weithio'n agos gyda thimau gofal cymdeithasol i ddiwallu anghenion pobl yn y cartref, neu mor agos â phosibl i’r cartref. Mae camau’n cael eu cymryd, ac mae arian yn cael ei fuddsoddi, i ad-drefnu'r system iechyd a gofal cymdeithasol fel ei fod yn hybu hunanofal, ac yn parhau i leihau'r niferoedd sy'n gorfod mynd i'r adran frys.

Mae felly'n bwysig nad yw penderfyniadau am addysg a hyfforddiant yn canolbwyntio ar gynnal y sefyllfa bresennol, ond yn cael eu cynllunio i fod yn sail i’r newid mewn gwasanaethau sydd ei angen i gyflawni hyn. Mae hefyd yn bwysig cydnabod pa mor werthfawr yw gweithlu o du hwnt i’r ffin, ac i ddeall na all unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig fod yn hunan-gynhaliol yn hynny o beth. Mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng lefel yr hyfforddiant a'r addysg yr ydym yn ei chyllido i ddatblygu ein gweithlu ein hunain yng Nghymru, a recriwtio unigolion sydd eisoes wedi'u hyfforddi ac sydd wedi ennill profiad ehangach trwy amryw o swyddi eraill.

Y llynedd, comisiynais adolygiad o'r trefniadau presennol sydd yn eu lle i gefnogi ein buddsoddiad blynyddol mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol. Roeddwn am weld a oeddent yn gallu sicrhau'r gwerth gorau i Gymru neu a oedd angen gwneud newidiadau. Cafodd yr adolygiad hwn ei gynnal gan banel dan arweiniad Mel Evans, cyn gadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Roedd Dr David Salter, cyn Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru sydd bellach wedi ymddeol, yr Athro Ceri Phillips, Athro Economeg Iechyd yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe, a Dick Roberts CBE, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Caerdydd, a chyn Brif Ymgynghorydd Optometreg Cymru yn aelodau o’r panel.

Mae adroddiad y panel yn cynnig gwneud rhai newidiadau sylfaenol, gan gynnwys:

  • sefydlu un corff newydd i Gymru sy'n dwyn ynghyd yr agweddau strategol ar gynllunio'r gweithlu, comisiynu addysg a datblygu a chynllunio'r gweithlu ar gyfer pob agwedd ar weithlu'r GIG.
  • gweledigaeth strategol newydd ar gyfer y GIG yng Nghymru sy’n darparu’r cyd-destun tymor hwy ar gyfer llunio gweithlu’r dyfodol
  • diwylliant yn y GIG sy'n cefnogi dysgu gydol oes
  • mwy o bwyslais ar hyfforddiant yn y gymuned i gefnogi'r newidiadau sydd eu hangen er mwyn darparu gwasanaethau
  • rhaglen mwy cydlynol o brofiad gwaith a phrentisiaethau gyda’r bwriad o sicrhau bod pobl ifanc yn manteisio’n fwy ar y cyfleoedd sydd ar gael i gymryd rhan yn y broses o ddarparu gwasanaethau gofal iechyd
  • mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg a hyfforddiant cydbroffesiynol ynghyd â dulliau hyfforddi newydd mewn meysydd lle mae'n anodd recriwtio staff a hyfforddeion.

Er fy mod yn croesawu'r adroddiad ac yn cefnogi'r argymhellion ar y cyfan, hoffwn roi'r cyfle i unigolion wneud sylwadau ar adroddiad y panel, ac yn benodol i roi adborth ar nifer o feysydd allweddol mewn perthynas â'r broses weithredu. Bydd cyfnod ymgysylltu o chwe wythnos felly yn dechrau heddiw ac yn dod i ben ar 25 Mai 2015. Bydd yr adborth a ddaw i law yn helpu i lywio barn derfynol am y ffordd ymlaen. Gallwch weld yr adroddiad a'r cwestiynau cysylltiedig yma.

Byddwn yn eich annog i gyfrannu eich safbwyntiau a helpu i lywio'r trefniadau ar gyfer Cymru yn y dyfodol.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.