Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Trafnidiaeth

Mae nifer y bobl sy'n teithio ar fysiau yn rhai o ardaloedd harddaf Cymru, yn ôl y ffigurau diweddaraf, wedi cynyddu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y nifer sy'n teithio ar fws T6 TrawsCymru rhwng Abertawe ac Aberhonddu, wedi cynyddu 14% ers y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r darlun yn debyg yn y Gogledd hefyd, lle mae cynnydd yn nifer y teithwyr ar fws y T10, sy'n teithio trwy barc cenedlaethol Eryri, wedi cynyddu 11.7% dros yr un cyfnod. Mae'r bws yn teithio trwy brydferthwch y wlad rhwng Bangor, Bethesda, Betws y Coed a Chorwen.

Mae gweddill teithiau TrawsCymru, sy'n cynnal gwasanaethau ledled Cymru, wedi gweld cynnydd iach o 8.5% yn nifer y teithwyr, hefyd ers y flwyddyn ddiwethaf.

Ar drothwy hanner tymor, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn annog pobl i ystyried defnyddio'r bws i weld y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig.

"A ninnau wedi buddsoddi yn fflyd TrawsCymru - mewn bysiau newydd, modern gydag aerdymheru a phwyntiau gwefru USB - nid yw'n syndod bod mwy o bobl yn dewis teithio ar fws i fynd o le i le.

"Wrth i hanner tymor agosáu, nid yw hi erioed wedi bod yn haws teithio ar fws i fynd i'r traeth neu i fyny mynydd. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw eistedd yn ôl a mwynhau golygfeydd gwych ein gwlad heb straen na ffwdan."