Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog
Heddiw, bydd Ymchwiliad Covid-19 y DU yn dechrau gwrando ar dystiolaeth lafar yn ei fodiwl olaf, sef Modiwl 10. Bydd yn archwilio effaith y pandemig ar boblogaeth y DU, gan ganolbwyntio'n benodol ar weithwyr allweddol, y rhai a ddioddefodd brofedigaeth, iechyd meddwl a llesiant. Mae tair wythnos o wrandawiadau wedi'u trefnu rhwng nawr a 5 Mawrth.
Cafodd y pandemig effaith ddofn a pharhaol ar bawb yng Nghymru. Rydym yn meddwl am yr holl deuluoedd ac unigolion a wynebodd y profiad ofnadwy o golli anwylyd a phawb y mae eu bywydau wedi'u newid gan y pandemig.
Modiwl 10 yw'r rhan gyntaf o'r ymchwiliad lle na fydd Llywodraeth Cymru wedi cael rôl ffurfiol fel cyfranogwr craidd. Fodd bynnag, rydym wedi cyfrannu ystod eang o dystiolaeth berthnasol at fodiwlau blaenorol yr ymchwiliad, sy'n ymwneud â'r materion pwysig y mae'r modiwl hwn yn ymdrin â nhw.
Byddwn hefyd yn dilyn y gwrandawiadau yn agos iawn, wrth inni barhau i ddysgu o'r dystiolaeth a gyflwynir i'r ymchwiliad. Mae'r gwrandawiadau terfynol hyn yn gyfle pellach i fyfyrio a dysgu o dystiolaeth bersonol y bobl hynny yr effeithiwyd arnynt fwyaf uniongyrchol gan y pandemig.
Rwy'n bwriadu cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Modiwl 2 yr ymchwiliad ynghylch strwythurau gwneud penderfyniadau cyn diwedd tymor y Senedd.
