Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth a dyddiadau allweddol y mae angen i chi eu gwybod ar gyfer Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gofynion y cynllun 

Dyma grynodeb newydd, rheolaidd i rannu gwybodaeth a thynnu sylw at ddyddiadau pwysig y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt ar gyfer Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a ddechreuodd ar 1 Ionawr.

Gallwch ymuno â Haen Gyffredinol yr SFS trwy'ch Ffurflen Cais Sengl (SAF) os ydych chi'n bodloni'r canlynol: 

  • y meini prawf cymhwysedd
  • gofynion y cynllun
  • y Gweithredoedd Cyffredinol sy'n berthnasol i'ch daliad 

Nid oes angen i chi roi gwybod i ni na gwneud cais cyn y SAF os ydych am ymuno â'r SFS. 

Efallai y bydd rhai ffermwyr yn pendroni tybed a allant fodloni gofynion y cynllun. Er mwyn eich helpu i ateb y cwestiwn hwnnw, darllenwch ein cyflwyniad i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae canllawiau manylach ar gyfer y cynllun yn: Cynllun Ffermio Cynaliadwy (2026): haen gyffredinol: llyfryn rheolau 

Mae rhai gweithredoedd yn benodol i adegau penodol o'r flwyddyn, tra bod modd mynd i'r afael ag eraill ar unrhyw adeg. Nid ydym yn disgwyl i chi wneud popeth ar unwaith. 

Rydym yn eich annog i wasgaru'r gweithredoedd. Os byddwch chi'n eu gadael i gyd tan ddiwedd y flwyddyn, gall hyn achosi oedi i'ch taliadau. Bydd y gweithredoedd hyn yn darparu'r gwerth mwyaf i chi pan fyddant wedi'u hintegreiddio fel rhan o'ch gwaith parhaus o reoli'r fferm.   

Efallai y bydd rhai ffermwyr yn ansicr a ydynt yn bodloni'r gofyniad i o leiaf 10% o'r fferm gael ei chynnal fel cynefin. 

Os nad oes gennych ddigon o gynefin ar hyn o bryd, neu os nad ydych yn siŵr faint sydd gennych, gallwch ymuno â'r cynllun o hyd. Efallai y bydd angen i chi ymrwymo i greu cynefin ychwanegol fel gwyndynnydd llysieuol cymysg. Darllenwch ein ganllaw cyflym i cynefin dros dro.

Peidiwch â phoeni os nad yw'ch Gweithredoedd Cyffredinol i gyd yn eu lle eto. Mae gennych ddigon o amser o hyd i'w cwblhau. 

Cyngor a chymorth

Os oes gennych gwestiynau am sut mae'r cynllun yn berthnasol i'ch busnes ffermio, neu os ydych chi’n meddwl efallai na fyddwch yn gallu dilyn rhai o'r gofynion, os gwelwch yn dda: 

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg 

Gall Cyswllt Ffermio gynnig cymorth ym mhob un o'r 12 Gweithred Gyffredinol trwy becyn eang o wasanaethau am ddim neu â chymhorthdal. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • cyngor cyfrinachol un-i-un
  • cymorth busnes
  • hyfforddiant achrededig
  • e-ddysgu
  • gweithdai, a 
  • mentora 

Gallwch gysylltu â Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813, neu drwy ffurflen gyswllt Cyswllt Ffermio (ar businesswales.llyw.cymru). Gallwch hefyd siarad â'ch Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol (ar businesswales.gov.wales).

Ffurflen y Cais Sengl (SAF)

Mae ffenest y SAF yn agor ar 2 Mawrth ac yn cau ar 15 Mai. 

Rydym yn eich annog i adolygu a llenwi'ch SAF cyn gynted â phosibl. Mae hyn oherwydd bod yr SFS yn newydd, a bydd angen gwybodaeth ychwanegol arnoch i gwblhau eich SAF. Bydd y SAF yn cynnwys adolygiad sylfaenol o gynefinoedd lle gallwch gadarnhau manylion eich cynefin a'ch coetir. Os nad oes gennych 10% o gynefin eisoes, gallwch ddweud wrthym pa gynefinoedd newydd dros dro sydd gennych neu y byddwch chi'n eu creu.   

Map yr SFS

Un dasg bwysig i'w gwneud nawr cyn bod y SAF yn agor ar 2 Mawrth yw adolygu eich map SFS (ar RPW Ar-lein) er mwyn:

  • gwirio ffiniau caeau. Cywirwch wallau mapio gan ddefnyddio ‘Rheoli fy Nhir’ cyn cwblhau eich SAF
  • adolygu data cynefinoedd a choetiroedd cyn eich adolygiad sylfaenol o gynefinoedd
  • nodi a oes gennych safleoedd dynodedig neu nodweddion hanesyddol
  • os ydych chi'n tyfu india-corn, gwiriwch y llethrau a'r haenau perygl o lifogydd i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r gofynion ynghylch sefydlu india-corn 

Os ydych chi'n adolygu'ch map SFS nawr, dylai hyn helpu i leihau oedi yn ystod y broses o gwblhau'r SAF. Bydd hyn hefyd yn eich helpu i gynllunio ar gyfer pob Gweithred Gyffredinol, ac unrhyw gynefin dros dro y gallai fod angen i chi ei greu.