Datganiad o fwriad: addysgu darllen cynnar
I gefnogi'r gwaith o gyflwyno hyfforddiant darllen cynnar o ansawdd uchel, wedi’i lywio gan dystiolaeth, ledled Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae'r Panel Arbenigol Llythrennedd wedi datblygu'r datganiad hwn o fwriad i gefnogi'r gwaith o gyflwyno hyfforddiant darllen cynnar o ansawdd uchel, wedi’i lywio gan dystiolaeth, ledled Cymru. Y bwriad yw ategu’r canllawiau sydd ar gael eisoes a llywio dysgu proffesiynol, cynllunio'r cwricwlwm ac arferion addysgeg yn unol â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru a'r Cwricwlwm i Gymru.
Hyfforddiant Darllen Cynnar Effeithiol
Ymwybyddiaeth ffonolegol drwy gyfrwng cyfoeth o brofiadau llafar
Mae datblygiad cynnar lleferydd, iaith a chyfathrebu yn hanfodol ar gyfer darllen ac ysgrifennu. Dylai darpariaeth llafaredd o ansawdd uchel fod yn sail i bob profiad llythrennedd cynnar.
Mae ymwneud â rhigymau, caneuon a cherddi yn helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth ffonolegol, sef y gallu i glywed a thrin synau mewn iaith lafar. Mae'r sylfeini llafar hyn yn cefnogi hyfforddiant ffoneg systematig a phenodol ar gyfer dadgodio geiriau printiedig, a dylent barhau ochr yn ochr â’r hyfforddiant hwnnw.
Addysgu ffoneg mewn ffordd strwythuredig a phenodol
Mae mynd ati’n benodol i addysgu ffoneg yn rhan ganolog o alluogi dysgwyr i ddadgodio geiriau nad ydynt yn eu gwybod yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyfforddiant ffoneg yn cysylltu synau (ffonemau) â llythrennau (graffemau).
Mae’n hanfodol mynd ati i addysgu ffoneg yn systematig ac yn benodol er mwyn galluogi pob dysgwr i ddadgodio geiriau anghyfarwydd a defnyddio’u gwybodaeth am ffonemau wrth sillafu. Dylai addysgu ffoneg ddilyn trefn sydd wedi'i diffinio'n glir, gan alluogi dysgwyr i feithrin mwy a mwy o wybodaeth ac awtomatedd. Dylai’r hyfforddiant gynnwys pob cyfatebiaeth ffonem-graffem gyffredin yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae ffoneg synthetig systematig (SSP) yn elfen bwysig o hyfforddiant darllen effeithiol. Dylid defnyddio hyn ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddulliau i ddatblygu sgiliau llythrennedd ehangach, gan gynnwys rhuglder, geirfa a dealltwriaeth – yn enwedig ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Ni ddylid annog dysgwyr i ddyfalu geiriau gan ddefnyddio ciwiau neu luniau: gallai blaenoriaethu dyfalu ar draul dadgodio danseilio datblygiad sgiliau ffoneg hanfodol. Gall lluniau helpu dysgwyr i ddod i gasgliadau am yr hyn maent yn ei ddarllen wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau deall, a gallant hefyd gynnig cyfleoedd i ddadansoddi, dehongli a chysylltu syniadau y tu hwnt i'r testun.
Wrth i wybodaeth dysgwyr am gyfatebiaeth ffonemau-graffemau ddod yn fwy rhugl, gallant ddarllen geiriau cyfarwydd ar yr olwg gyntaf a gallant adnabod patrymau llythrennau o fewn geiriau, heb orfod eu dadgodio fesul ffonem.
Darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando integredig
Dylai hyfforddiant llythrennedd nodi'n glir y cysylltiadau rhwng darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando. Wrth i ddysgwyr ddatblygu rhuglder, maent yn dod yn fwy hyderus yn adnabod geiriau cyfarwydd a dadgodio rhai newydd. Wrth iddynt ymarfer darllen, mae dysgwyr sydd â sgiliau prosesu orgraffyddol da yn dechrau adnabod geiriau cyfarwydd yn gyflymach drwy gofio patrymau llythrennau. Mae hyn yn gwella eu hadnabyddiaeth o eiriau ar yr olwg gyntaf, eu rhuglder wrth ddarllen a’u cywirdeb o ran sillafu.
Gan adeiladu ar addysgu cyfatebiaethau ffonem-i-graffem ar gyfer darllen, gellir addysgu gwybodaeth orgraffyddol yn effeithiol drwy ddysgu sillafu. Mae gwybodaeth orgraffyddol yn cynnwys gwybodaeth am batrymau sillafu sy'n cynrychioli unedau sain mwy o ran maint: y rhai sy'n cynnwys mwy nag un ffonem, fel dechrau a diwedd sillafau, sillafau cyfan, a geiriau cyfan.
Gall dysgwyr a allai fod yn wynebu heriau gyda phrosesu orgraffyddol ei chael yn anodd gweld patrymau mewn print neu eiriau. Gall hyn effeithio ar ruglder darllen a chywirdeb sillafu.
Mae darllen a sillafu yn brosesau sy’n rhyng-gysylltiedig. Mae dysgu darllen yn cryfhau gwybodaeth am sillafu, ac mae hyfforddiant sillafu penodol yn atgyfnerthu cywirdeb ac awtomatedd darllen.
Mae’n bwysig datblygu iaith lafar dysgwyr fel eu bod yn gallu trafod yr hyn maent yn ei ddarllen a’r hyn maent yn clywed pobl yn ei ddarllen iddynt, a hynny er mwyn iddynt ei ddeall.
Mynediad at destunau amrywiol sy'n briodol yn ddatblygiadol
Yn y camau cynnar, dylai dysgwyr ymarfer darllen gyda thestunau y gallant eu dadgodio ac sy'n cyd-fynd â'r cyfatebiaethau ffonemau–graffemau a addysgwyd iddynt. Mae hyn yn sicrhau llwyddiant wrth ddarllen ac mae’n meithrin rhuglder a hyder. Dylai'r ystod hon o lenyddiaeth ehangu wrth i’r dadgodio ddatblygu i fod yn gywir ac yn awtomatig. Y tu hwnt i ddarllen unigol, dylai dysgwyr gael eu hamlygu i gyfoeth o eirfa a naratifau amrywiol drwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau sy'n cefnogi ymgysylltiad dysgwyr, yn meithrin darllen er pleser, ac yn cyfrannu at dwf geirfa a’r ddealltwriaeth ohoni. Er enghraifft, mae gwrando ar oedolion yn darllen yn uchel yn gwella caffael geirfa, yn dyfnhau’r ddealltwriaeth o strwythurau iaith ysgrifenedig ac yn modelu rhuglder a mynegiant i ddysgwyr.
