Bydd ambiwlansys a cherbydau ymateb newydd ar y ffordd cyn bo hir o ganlyniad i fuddsoddiad gwerth £23.1 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cyllid yn talu am 160 o gerbydau ar gyfer Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – 50 ambiwlans brys newydd, 40 cerbyd ymatebwyr unigol, 67 o gerbydau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys, a thri cherbyd arbenigol i'r Tîm Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus.
Mae'r cerbydau newydd yn bodloni'r safonau allyriadau diweddaraf, gan adlewyrchu ymrwymiad Cymru i aer glanach ac allyriadau carbon is. Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn parhau i ehangu ei rwydwaith gwefru cerbydau trydan ac wedi cyflwyno paneli solar, peiriannau hybrid a cherbydau trydan batri ar draws rhannau o'i fflyd.
Mae'r buddsoddiad yn rhan o raglen foderneiddio gyfredol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Mae'r gwasanaeth hefyd wedi bod yn treialu anfon dronau cludo diffibriliwyr i gyrraedd pobl mewn rhannau mwy gwledig o Gymru, defnyddio ymgyngoriadau fideo i asesu cleifion o bell, ac archwilio'r defnydd o AI i gynorthwyo swyddogion sy'n delio â galwadau 999, gan sicrhau bod pobl yn cael gofal cyflymach a mwy clyfar.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
Pan fydd rhywun yn deialu 999, mae angen iddyn nhw wybod bod help ar y ffordd. Mae'r buddsoddiad hwn yn sicrhau bod gan ein gwasanaeth ambiwlans y fflyd fodern a dibynadwy y mae arno ei hangen i fod yno i bobl ledled Cymru.
Rydyn ni hefyd yn gwneud cynnydd o ran ein hymrwymiadau amgylcheddol, ac mae cerbydau glanach a gwyrddach yn helpu i leihau allyriadau carbon wrth ddarparu'r gofal brys o ansawdd uchel y mae pobl yn ei ddisgwyl.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol ar gyfer Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Chris Turley:
Mae'r buddsoddiad parhaus hwn yn ein fflyd yn golygu y gallwn ni ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy i bobl Cymru. Mae ambiwlansys modern yn fwy dibynadwy, mae ganddyn nhw gyfarpar gwell i helpu i ofalu am gleifion, ac maen nhw'n darparu amgylchedd gwaith mwy diogel a chyfforddus i'n staff.
Fel y gwasanaeth ambiwlans cenedlaethol, sy'n cwmpasu 8,000 milltir sgwâr, rydyn ni hefyd yn falch o fod yn chwarae ein rhan wrth leihau ein hôl troed amgylcheddol. O gerbydau trydan i baneli solar, rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu fflyd wyrddach ar gyfer y dyfodol.
