Disgwylir i dabledi Co-codamol 30mg / 500mg fod yn brin rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2026. Nid yw cryfderau eraill yn cael eu heffeithio.
Cynnwys
Beth yw'r broblem?
Disgwylir i rai mathau o'r feddyginiaeth co-codamol fod yn brin rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2026. Mae'r tarfu ar y cyflenwad yn effeithio ar dabledi co-codamol cryfder uwch (30/500) yn unig.
Mae fformwleiddiadau eraill o co-codamol cryfder uwch megis capsiwlau a thabledi effervescent a phob math o gryfderau eraill o co-codamol, gan gynnwys y rhai y gallwch eu prynu o fferyllfeydd, yn parhau i fod ar gael. Fodd bynnag, byddai tarfu ar gyflenwadau o'r rhain yn digwydd hefyd pe bai presgripsiynau pobl yn newid o dabledi i'r fformwleiddiadau eraill.
Pryd mae disgwyl i'r prinder gael ei ddatrys?
Rydym yn disgwyl i'r tarfu ar y cyflenwad gael ei ddatrys erbyn dechrau mis Mehefin. Fodd bynnag, pan fydd tarfu ar gyflenwadau'n cael ei ddatrys, gall gymryd ychydig o amser i argaeledd lleol sefydlogi. Mae hynny'n golygu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu cael eu presgripsiynau, ond y gallai rhai pobl barhau i gael anhawster am gyfnod byr. Mae hyn oherwydd bod angen i gyfanwerthwyr a fferyllfeydd cymunedol dderbyn y cyflenwad, ac mae angen i fferyllfeydd ddosbarthu unrhyw bresgripsiynau a ddaliwyd yn ôl yn ystod y cyfnod pan oedd cyflenwadau'n gyfyngedig.
Beth sy'n cael ei wneud i ddatrys y prinder?
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gynnal parhad cyflenwadau meddyginiaethau i'r DU. Hoffem sicrhau bod unrhyw darfu ar gyflenwadau’n cael cyn lleied o effaith â phosibl ar y mwyafrif o bobl sy'n cael y meddyginiaethau hyn ar bresgripsiwn. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn gweithio gyda:
- Llywodraeth y DU
- Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd
- Byrddau Iechyd
- Meddygon Teulu
- Fferyllfeydd Cymunedol
Rydym yn rhoi amrywiaeth o gamau gweithredu ar waith i liniaru effeithiau'r tarfu ar gyflenwadau. Mae hyn yn cynnwys gofyn i ragnodwyr beidio â dechrau trin cleifion newydd gyda co-codamol; darparu cyngor clinigol ar opsiynau triniaeth amgen; a gofyn i feddygon adolygu cleifion y gallai meddyginiaeth wahanol fod yr un mor effeithiol iddynt.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gosod gwaharddiad ar gyfanwerthwyr i'w hatal rhag allforio neu gronni cyflenwadau o feddyginiaethau sy'n cynnwys co-codamol 30/500.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i'n cael trafferth i gael fy mhresgripsiwn?
Yn y lle cyntaf, dylech geisio cysylltu â fferyllfeydd gwahanol.
Efallai y bydd rhai fferyllfeydd mwy o faint yn darparu ffordd o wirio ar-lein i weld pa stoc sydd ar gael. Mae hyn yn eich galluogi chi i chwilio am fferyllfeydd yn eich ardal chi a allai fod â chyflenwad.
Ym mhob achos, byddai'n ddoeth ichi ffonio'r fferyllfa cyn mynd. Gellir cael gwybodaeth am gysylltu â fferyllfeydd yn eich ardal drwy glicio ar GIG 111 Cymru.
Os ydych chi'n parhau i gael trafferth i ddod o hyd i gyflenwad o feddyginiaeth, a hynny ar ôl cysylltu â fferyllfeydd gwahanol, efallai y bydd angen ichi siarad â'ch meddyg teulu neu fferyllydd ynghylch meddyginiaethau neu gamau eraill y gallwch eu cymryd i helpu i reoli unrhyw symptomau.
