Canllawiau, Dogfennu
Cynllun Ffermio Cynaliadwy - Haen Gyffredinol: UA6 creu cynefin dros dro ar dir wedi'i wella: canllaw cyflym
Canllaw cyflym ar creu cynefin dros dro ar dir wedi’i wella, yn ôl math.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF , maint ffeil 83 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
| Math | Lleoliad / lled | Amseriad | Prif ofynion | Cyfyngiadau |
|---|---|---|---|---|
| 1. Ymylon o wyndwn | Tir wedi'i wella, wrth ydau/had olew/gwreiddgnydau. O leiaf 3 metr o led. | Ei sefydlu cyn 15 Mai (neu 1 Gorffennaf gwreiddgnydau). | Trin gwely hadau bob blwyddyn. Caniatáu aildyfiant naturiol. | Dim pori, gwrtaith na phlaladdwyr (ac eithrio i sbot-drin). |
| 2. Talar heb ei wrteithio, ei chwistrellu na'i gynaeafu | O leiaf 3 metr o led. | Sefydlu'r cnwd erbyn 15 Mai. Ei gadw tan 15 Chwefror y flwyddyn nesaf. | Gadael talar heb ei wrteithio, heb ei chwistrellu a heb ei gynaeafu. | Dim pori cyn 15 Chwefror. |
| 3. Ymyl sefydlog o borfa arw | O leiaf 3 metr o led. Yr un lleoliad am 3 blynedd neu fwy. | Ei sefydlu erbyn 15 Mai. | Hau cymysgedd: 15% o laswellt sy'n tyfu'n dwmpathau a glaswellt meinddail. Dim rhygwellt. | Dim pori na gwrtaith. Ychydig o dorri ar ôl blwyddyn 1. |
| 4. Ymyl o borfa arw mewn cylchdro | O leiaf 3 metr o led. | Ei sefydlu erbyn 15 Mai. | Yr un cymysgedd hadau ag ymylon sefydlog. | Dim torri na'i ladd am wair os yw'n gylchdro. |
| 5. Cymysgedd o ydau a chnydau protein, wedi'u hau yn y Gwanwyn, heb eu chwistrellu | Cae cyfan neu ymyl. | Hau 1 Mawrth i 15 Mai. Cadw sofl tan 15 Chwefror. | Cymysgedd: 50% ydau a 50% cnydau protein. | Dim chwistrellu, dim hau o dan y cnwd na'i bori cyn 15 Chwefror. |
| 6. Cadw sofl ydau dros y Gaeaf | Cae cyfan. | Ar ôl cynhaeaf ydau, ei gadw tan 15 Chwefror. | Caniatáu aildyfiant naturiol. | Dim chwistrellu, torri, pori na slyri cyn 15 Chwefror. |
| 7. Cnwd gorchudd bywyd gwyllt | Bloc neu ymyl. O leiaf 3 metr o led. | Ei sefydlu cyn 15 Mai. | Cnwd gorchudd aml-rywogaeth i fywyd gwyllt/adar hela. | Dim pori/torri cyn 15 Mawrth. Dim pryfladdwyr/ffwngladdwyr. |
| 8. Clustogfa heb ei thrin wrth gynefin | 12 i 20 metr o led. | Gydol y flwyddyn. | Heb ei wrteithio, ei chwistrellu na'i drin. | Caniateir pori. |
| 9. Gwyndwn cymysg | Cae cyfan neu ymyl. | Hau 15 Ebrill i 15 Medi. Ei gadw am 3 blynedd. | Cymysgedd: o leiaf math o laswellt, 3 chodlys, 3 blodyn. Cyfnod caeedig 1 Mai i 31 Gorffennaf. | Dim Cynhyrchion Amddiffyn Planhigion (PPPs) ar ôl ei sefydlu. Dim pori / lladd am wair yn ystod y cyfnod caeedig. |
| 10. Glaswelltir wedi’i wella, a'i dorri’n hwyr | Cae cyfan. | Cyfnod caeedig: 6 Mai i 15 Gorffennaf. | Silwair / gwair yn unig. | Dim pori na gwaith mecanyddol yn ystod y cyfnod caeedig. |
| 11. Glaswelltir wedi’i wella sydd wedi cael ei adael i hadu | Cae cyfan neu stribedi o leiaf 12 metr o led. | Cyfnod caeedig: 1 Mehefin i 28 Chwefror. | Ei adael heb ei dorri / ei bori i hadu. | Dim torri na phori yn ystod y cyfnod caeedig. |
