Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026: asesiad effaith integredig
Asesiad effaith integredig o'r gwelliannau i'r Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham
Cefndir
Ers sawl blwyddyn, mae pryderon wedi cael eu codi ynghylch lefel gwariant ysgolion fesul disgybl, gwahaniaethau rhwng awdurdodau lleol a rhwng ysgolion ac a yw lefelau cyllido yn ddigonol i ddiwallu anghenion disgyblion.
Arweiniodd hyn at nifer o adroddiadau ac argymhellion ar sut i wella'r system, megis adroddiad Cyllido Ysgolion yng Nghymru y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yr Adolygiad o Wariant Ysgolion yng Nghymru a'r Adolygiad o'r Fformiwla Cyllido Ysgolion.
Caiff penderfyniadau ar lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion a gwasanaethau eraill eu gwneud gan bob awdurdod lleol wrth bennu ei gyllideb gyffredinol a'i dreth gyngor. Mae Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”) yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i ddyrannu a phennu cyllidebau ysgolion, a hysbysu ysgolion a Gweinidogion Cymru amdanynt. Maent yn nodi dosbarthiadau neu ddisgrifiad o wariant at ddibenion y cyllidebau a nodir yn Rheoliadau 2010. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i 70% o Gyllideb Ysgolion Unigol awdurdod lleol fod yn gyllid a arweinir gan ddisgyblion ac yn amlinellu'r hyn sy'n ofynnol o ran cynllun ariannol awdurdod lleol, y trefniadau cyhoeddi a chamau i gymeradwyo diwygiadau.
Mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”) yn rhagnodi ffurf datganiadau cyllideb a ddarperir gan yr awdurdod lleol, ynghyd â'r wybodaeth y dylent ei chynnwys a sut y dylid eu cyhoeddi. Mae'r datganiadau hyn ar gyfer gwariant a gyllidebwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
Mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Alldro) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn rhagnodi ffurf datganiadau alldro a ddarperir gan yr awdurdod lleol, ynghyd â'r wybodaeth y dylent ei chynnwys a sut y dylid eu cyhoeddi. Mae'r datganiadau hyn ar gyfer gwariant gwirioneddol a chronfeydd wrth gefn.
Camau Gweithredu Arfaethedig
Cynigir newidiadau er mwyn gwneud y system cyllido ysgolion yn fwy tryloyw, cymaradwy a chyson, fel bod modd cynnal trafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ar bob lefel. Byddant hefyd yn sicrhau eu bod yn adlewyrchu polisïau a deddfwriaeth gyfredol ac yn diweddaru terminoleg yn briodol.
Rydym yn cynnig dirymu Rheoliadau 2010, Rheoliadau 2002 a Rheoliadau 2003 a gwneud darpariaeth newydd mewn un set newydd o reoliadau, sef Rheoliadau Cyllido Ysgolion, Datganiadau Cyllideb a Datganiadau Alldro (Cymru) 2026 (“Rheoliadau 2026”). Mae'r newidiadau yn Rheoliadau 2026 yn cynnwys y canlynol:
- Y gallu i ysgolion ffederal gael un gyllideb ffederal.
- Ei gwneud yn ofynnol i fformiwlâu cyllido awdurdodau lleol ystyried swm ar gyfer pob disgybl mewn perthynas â chymhwystra disgybl ar gyfer prydau ysgol am ddim neu breswyliaeth disgybl mewn perthynas â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).
- Caiff symiau'r trothwyon ar gyfer gwargedion yng nghyllidebau ysgolion eu disodli â 5% o falans yr ysgol.
- Rhaid i gynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys datganiad yn nodi sut y bydd yr awdurdod lleol yn monitro'r modd y bydd corff llywodraethu yn defnyddio'r gwarged sydd wedi'i gynnwys mewn unrhyw ddatganiad gwarged.
- Rhaid i gynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu gyflwyno cynllun adennill diffyg i'w awdurdod lleol er mwyn ei gymeradwyo a chynnwys y broses mewn perthynas â chynllun adennill diffyg drafft.
- Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi eu cynlluniau ariannol a'u fformiwlâu cyllido ar eu gwefan.
- Rhaid i gynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys manylion y meysydd o'u cyllideb ysgolion nad ydynt wedi'u dirprwyo i ysgolion, ond a gedwir yn ganolog gan yr awdurdod lleol i wario ar ysgolion.
- Diwygio'r dyddiad ar gyfer dychwelyd datganiadau alldro cyllideb i 31 Gorffennaf.
- Diwygio'r datganiad cyllideb i gynnwys colofnau Dirprwyad Craidd, Dirprwyad Dewisol a Dirprwyad Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) (a gaiff ei rannu ymhellach i Dirprwyad ADY Craidd a Dirprwyad ADY Dewisol) a cholofnau i gofnodi cyfran amcangyfrifedig yr ysgol o'r gyllideb ar gyfer y ddau gyfnod cyllido dilynol.
- Cyfuno Rhannau 2 a 3 o'r datganiad cyllideb fel sy'n ofynnol gan Atodlenni 2 a 3 o Reoliadau 2002 a'i gwneud yn ofynnol i hyn gael ei gwblhau ar gyfer pob un o'r mathau gwahanol o gyllideb ddirprwyedig ar gyfer pob ysgol a math o ysgol.
- Symud ardrethi annomestig o'r gyllideb ysgolion i'r gyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion.
- Caiff y terfyn o 0.2% a gymhwysir at ffioedd trwyddedau neu danysgrifiadau yn Atodlen 2 i Reoliadau 2010, sy'n rhestru'r hyn y gellir ei gynnwys yn y gyllideb ysgolion (gwariant y gellir ei ddirprwyo i ysgolion neu ei gadw'n ganolog gan awdurdodau lleol i'w wario ar ysgolion) ei ddileu.
- Caiff Atodlen 3 i Reoliadau 2010, sy'n nodi ffactorau neu feini prawf ychwanegol y gellir eu hystyried yn fformiwla gyllido awdurdod lleol, ei dileu. Felly, bydd awdurdodau lleol yn gallu ystyried unrhyw ffactor neu feini prawf yn eu fformiwla sy'n ymwneud yn briodol â gwariant yn eu barn nhw o dan y diffiniad o'r gyllideb ysgolion. Caiff enghreifftiau o ffactorau a meini prawf priodol eu cynnwys mewn canllawiau.
Cymhwyso Pum Ffordd o Weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 at y Camau Gweithredu Arfaethedig
Yn y tymor hir
Bydd Rheoliadau 2026 yn cynyddu tryloywder, cysondeb a chymharedd, a fydd yn arwain at drafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau yn y tymor hwy. Hefyd, er mwyn gwella tryloywder a gallu awdurdodau lleol i helpu ysgolion i reoli eu cyllidebau yn y dyfodol, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol amlinellu yn eu cynlluniau ariannol y broses y bydd yr awdurdod lleol ac ysgolion yn ei dilyn mewn perthynas â chyllidebau lle ceir gwarged a diffyg.
Atal
Mae Rheoliadau 2026 yn cynnwys darpariaethau sydd â'r nod o gynyddu tryloywder a chymharedd. Bydd rhanddeiliaid yn gallu deall eu cyllidebau a'r ffactorau sy'n eu hysgogi yn well. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ar bob lefel a dylai alluogi sgyrsiau ynglŷn â lefelau priodol cyllidebau ysgolion er budd pob dysgwr.
Caiff y trothwy ar gyfer gwargedion ei newid i ganran, yn hytrach na swm. Mae hyn yn golygu y bydd y trothwy ar gyfer gwarged yn gymharol â chyllideb ysgol. Bydd hyn yn atal problemau yn y dyfodol os bydd chwyddiant yn effeithio ar y symiau yn y dyfodol.
Integreiddio
Mae Rheoliadau 2026 yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â dull gweithredu cydgysylltiedig lle mae awdurdodau lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am benderfyniadau yn ymwneud â chyllid ysgolion, fel rhan o'u proses gyffredinol ar gyfer pennu cyllidebau a'r dreth gyngor.
Nod y diwygiadau yw sicrhau yr ymdrinnir â chyllid ysgolion mewn ffordd fwy teg ar draws ysgolion, gan gynnal egwyddorion prosesau gwneud penderfyniadau ac atebolrwydd democrataidd lleol ar yr un pryd. Maent hefyd yn ceisio cynyddu tryloywder, cysondeb a chymharedd, a fydd yn arwain at drafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ar bob lefel, fel y gall awdurdodau lleol wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.
Cydweithio a chynnwys
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Gweithgor gyda chynrychiolwyr o awdurdodau lleol i drafod newidiadau posibl a chyfrannu atynt. Rydym wedi ymgysylltu ag aelodau'r gweithgor i geisio eu barn am eu profiad o weithio ym maes cyllid ysgolion. Mae'r grŵp hwn wedi croesawu'r cynigion ar y cyfan.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd ag is-grŵp Cyllid Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC), sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob awdurdod lleol yng Nghymru. Rydym wedi ymgysylltu ag aelodau'r grŵp i geisio eu barn am y materion y maent yn eu hwynebu mewn perthynas â chyllid ysgolion.
Mae gwaith ymgysylltu wedi'i wneud ar argymhellion ar gyfer cyllid ysgolion o ganlyniad i'r Adolygiad o'r Fformiwla Cyllido Ysgolion gyda grwpiau megis Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, Cymdeithas Trysoryddion Cymru a'r Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer Ysgolion. Roedd yr Adolygiad o'r Fformiwla Cyllido Ysgolion hefyd yn dibynnu ar waith ymgysylltu ag awdurdodau lleol i lywio canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad, a lywiodd y newidiadau y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt yn Rheoliadau 2026.
Cynhaliwyd ymgynghoriad 10 wythnos i gasglu barn rhanddeiliaid am y cynigion rhwng 24 Mehefin a 2 Medi 2025. Tynnwyd sylw at yr ymgynghoriad yn Dysg a chyfarfu swyddogion ag undebau, Cyfarwyddwyr Addysg llywodraeth leol, Trysoryddion, a chynrychiolwyr o'r Is-grŵp Dosbarthu, i'w briffio a'u diweddaru ar y newidiadau arfaethedig yn Rheoliadau 2026 a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad. Gwnaethom ystyried yr holl sylwadau a wnaed mewn ymateb i'r ymgynghoriad a'u cadw mewn cof wrth ystyried a ddylid parhau â'r diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig.
Unwaith y caiff Rheoliadau 2026 eu gwneud, bydd angen i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheini ac, felly, bydd cyfnod o amser i awdurdodau lleol ddiwygio eu prosesau cyn i Reoliadau 2026 ddod i rym. Er enghraifft, bydd yn rhoi amser i awdurdodau lleol ymgynghori ag ysgolion a'r Fforwm Ysgolion ar unrhyw newidiadau i'r fformiwlâu cyllido. Rydym yn cynnig, os caiff Rheoliadau 2026 eu cyflwyno ar ddechrau mis Mawrth 2026, y dylai fod yn ofynnol i bob awdurdod lleol gydymffurfio â Rheoliadau 2026 erbyn blwyddyn ariannol 2027 i 2028.
Rydym yn rhagweld y bydd mwy o waith gweinyddol i awdurdodau lleol i ddechrau wrth iddynt ddiwygio eu prosesau, ond bydd rhai agweddau ar y newidiadau yn creu llai o faich gweinyddol i awdurdodau lleol. Er enghraifft, cyfuno rhannau 2 a 3 o ffurflen y datganiad cyllideb yn Rheoliadau 2002, fel mai dim ond un ffurflen y mae angen ei chyflwyno o dan Reoliadau 2026.
Ochr yn ochr â Rheoliadau 2026, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau i gynorthwyo dealltwriaeth a gwella cysondeb. Mae rhanddeiliaid wedi gofyn am hyn.
Dull
Bydd angen i Reoliadau 2026 gael eu cyflwyno yn unol â gweithdrefn annilysu'r Senedd. Bydd Memorandwm Esboniadol, gan gynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cyd-fynd â Rheoliadau 2026.
Adran 8: casgliad
Sut mae pobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Gweithgor gyda chynrychiolwyr o awdurdodau lleol i drafod newidiadau posibl a chyfrannu atynt. Rydym wedi ymgysylltu ag aelodau'r gweithgor i geisio eu barn am eu profiad o weithio ym maes cyllid ysgolion.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd ag is-grŵp Cyllid Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC), sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob awdurdod lleol yng Nghymru. Rydym wedi ymgysylltu ag aelodau'r grŵp i geisio eu barn am y materion y maent yn eu hwynebu mewn perthynas â chyllid ysgolion.
Roedd pob awdurdod lleol yn rhan o'r Adolygiad diweddar o'r Fformiwla Cyllido Ysgolion, lle cafwyd trafodaethau manwl â'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ddeall eu prosesau a'u methodolegau. Mae gwaith ymgysylltu wedi'i wneud ar argymhellion ar gyfer cyllid ysgolion o ganlyniad i'r Adolygiad o'r Fformiwla Cyllido Ysgolion gyda grwpiau megis CCAC, Cymdeithas Trysoryddion Cymru a'r Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer Ysgolion.
Yn 2022, gwnaethom hefyd ofyn i awdurdodau lleol ac undebau llafur gwblhau holiadur anffurfiol i gasglu eu barn gychwynnol am newidiadau posibl er mwyn helpu i lywio syniadau cynnar am y diwygiadau arfaethedig.
Cynhaliwyd ymgynghoriad 10 wythnos i gasglu barn rhanddeiliaid am y cynigion rhwng 24 Mehefin a 2 Medi 2025. Tynnwyd sylw at yr ymgynghoriad yn Dysg a chyfarfu swyddogion ag undebau, Cyfarwyddwyr Addysg llywodraeth leol, Trysoryddion, a chynrychiolwyr o'r Is-grŵp Dosbarthu, i'w briffio a'u diweddaru ar y newidiadau arfaethedig a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad.
Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol
Effeithiau mwyaf arwyddocaol Rheoliadau 2026 fydd mwy o dryloywder, cysondeb a chymharedd, gan alluogi rhanddeiliaid i gynnal trafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ar bob lefel. Bydd diwygiadau i wneud y system yn fwy tryloyw yn cynyddu dealltwriaeth rhanddeiliaid ar draws y system. Drwy wneud y system yn fwy tryloyw, bydd modd trafod dewisiadau ac effeithiau gwahanol mewn perthynas â'r gyllideb.
Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu, o ganlyniad i Reoliadau 2026, bod angen iddo ddiwygio ei fformiwla cyllido ysgolion, gall hyn arwain at newidiadau i gyllidebau ysgolion unigol. Gallai hyn arwain at fwy o gyllid i ysgolion unigol neu lai o gyllid i ysgolion unigol, sydd yr un mor bosibl ac a allai arwain at lai o adnoddau. Fodd bynnag, nod y diwygiadau yw sicrhau yr ymdrinnir â chyllid ysgolion mewn ffordd fwy teg ar draws ysgolion, er mwyn sicrhau bod cyllid ac adnoddau yn cael eu dyrannu mewn ffordd deg a thryloyw.
Nid yw'r cynigion yn effeithio ar lefelau cyffredinol y cyllid sydd ar gael, dim ond y fformiwla a ddefnyddir i ddosbarthu'r cyllid sydd ar gael i ysgolion. Bydd penderfyniadau ynglŷn â lefel y cyllid sydd ar gael i ysgolion yn cael eu gwneud gan bob awdurdod o hyd, a bydd yr awdurdodau yn parhau i fod yn gyfrifol am sicrhau bod darpariaeth addysg addas ar gael yn eu hardal, er budd pob dysgwr. Bydd ysgolion yn parhau i gael y cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau eu hawdurdod lleol ynglŷn â chyllidebau ysgolion drwy drafod ag awdurdodau, gan gynnwys drwy eu fforwm cyllideb. Unwaith y bydd awdurdodau lleol wedi pennu eu cyllidebau ar gyfer eu hysgolion, corff llywodraethu'r ysgol fydd yn gyfrifol am reoli'r cyllidebau hynny. Mae'n bosibl hefyd y bydd cyllidebau ysgolion unigol yn amrywio o ganlyniad i gydymffurfiaeth well â Rheoliadau 2010, lle bu achosion o gamddehongli yn flaenorol o bosibl.
Bydd effaith ar awdurdodau lleol gan y bydd angen iddynt adolygu a diwygio eu prosesau er mwyn bodloni'r gofynion a nodir yn Rheoliadau 2026, gan gynnwys gwaith ymgynghori gofynnol ag ysgolion â'r fforwm cyllido ysgolion ar unrhyw newidiadau i fformiwlâu cyllido. Bydd rhywfaint o waith i ysgolion ymgysylltu ag ymgyngoriadau a newidiadau, ond nid yw hyn yn ofyniad newydd a bydd yn galluogi ysgolion i gyfrannu at y cynigion.
Er y bydd gan awdurdodau lleol waith i ddiwygio eu prosesau yn y lle cyntaf, bydd rhai agweddau ar y newidiadau yn creu llai o faich gweinyddol i awdurdodau lleol yn y tymor hwy. Er enghraifft, cyfuno rhannau 2 a 3 o ffurflen y datganiad cyllideb yn Atodlenni 2 a 3 yn Rheoliadau 2002, fel mai dim ond un ffurflen y mae angen ei chyflwyno o dan Reoliadau 2026. Mae hefyd yn bosibl y bydd rhywfaint o'r llwyth gwaith i rai awdurdodau lleol yn deillio o gydymffurfio'n well â'r gofynion presennol, yn hytrach na'r gofynion newydd neu diwygiedig yn Rheoliadau 2026.
Mae Rheoliadau 2026 yn cynnwys darpariaethau sy'n diwygio'r trothwy ar gyfer gwarged i 5% o gyllideb ysgol, yn hytrach na swm, a all olygu y bydd gan ysgolion llai, os ydynt yn cael cyllideb lai o gymharu ag ysgol fwy, drothwy ariannol is nag ysgol fwy. Mae ysgolion llai yn tueddu i fod yn fwy cyffredin mewn ardaloedd gwledig, a gall ardaloedd gwledig gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg weithiau.
Er ei bod yn bosibl y bydd gan ysgol lai drothwy is ar gyfer gwarged, bydd hyn yn gymharol â chyllideb yr ysgol. Nod Rheoliadau 2026 yw sicrhau yr ymdrinnir â chyllid ysgolion mewn ffordd fwy teg.
Mae Rheoliadau 2026 yn cynnwys darpariaethau sy'n golygu y gall ysgolion ffederal gael un gyllideb ffederal a allai effeithio ar ysgolion ffederal. Gallai hyn helpu ffederasiynau, os byddant yn dewis cael un gyllideb ffederal, i ddefnyddio eu cyllidebau yn fwy effeithiol, lleihau eu gwaith gweinyddol ac adrodd, a chefnogi dull mwy strategol o dan eu corff llywodraethu unigol.
Bydd symud ardrethi annomestig o'r gyllideb ysgolion i'r gyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion hefyd yn creu llai o waith gweinyddol i ysgolion ac awdurdodau lleol gan na fyddant yn dirprwyo cyllid ar gyfer ardrethi annomestig i ysgolion, y mae'n rhaid iddynt ei dalu'n ôl i'r awdurdod lleol yn syth.
Mae diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau ariannol awdurdodau lleol gynnwys darpariaeth lle mae'n rhaid i gorff llywodraethu gyflwyno cynllun adennill diffyg, ac mae'n bosibl y bydd hyn yn effeithio ar ysgolion ac awdurdodau lleol. Os bydd angen i ysgolion gwblhau cynllun adennill diffyg, gall hyn effeithio ar lwyth gwaith ysgolion gan y bydd angen iddynt gwblhau cynllun ac ar lwyth gwaith awdurdodau lleol gan y bydd angen iddynt ei gymeradwyo. Fodd bynnag, mae'r arfer hon eisoes ar waith yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, os nad pob un, a nod y diwygiad hwn yw galluogi trefniadau monitro gwell a mwy tryloyw a helpu awdurdodau lleol i gefnogi ysgolion i reoli eu cyllidebau ac atal ysgolion rhag cynyddu eu diffyg.
Er ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnwys ffactor amddifadedd yn eu fformiwlâu cyllido ar hyn o bryd, mae diwygiadau yn cynnig y dylai fod yn rhaid i fformiwlâu cyllido ystyried swm ar gyfer pob disgybl mewn perthynas â chymhwystra disgybl ar gyfer prydau ysgol am ddim neu breswyliaeth disgybl mewn perthynas â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol ddangos y ffactorau amddifadedd y maent wedi'u defnyddio yn eu fformiwla hefyd er mwyn sicrhau tryloywder. Er mai mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu faint o gyllid y byddant yn ei ddyrannu o hyd, drwy wneud y dyraniad yn gliriach, bydd modd cynnal trafodaethau mwy deallus am lefelau priodol y cyllid sydd ei angen.
Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig, yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant a (neu), yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol
Nod Rheoliadau 2026 yw rhoi mwy o hyblygrwydd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i roi cymorth gwell i ysgolion reoli eu cyllidebau a sicrhau bod y system yn fwy tryloyw, cymaradwy a chyson, fel bod modd cynnal trafodaethau ar sail gwybodaeth ynghylch cyllidebau ar bob lefel, er budd pob dysgwr.
Mater i awdurdodau lleol fydd gwneud penderfyniadau ynglŷn â chyllidebau ysgolion o hyd a dylai awdurdodau lleol barhau i weithio gyda'u hysgolion a gynhelir i werthuso effeithiolrwydd eu trefniadau cyllido ysgolion o ran cefnogi a gwella cyflawniad pob dysgwr. Ni fydd Rheoliadau 2026 yn cael effaith uniongyrchol ar gyllidebau cyffredinol ysgolion ond, yn hytrach, bydd yn effeithio ar y fformiwla a ddefnyddir i ddyrannu'r gyllideb i ysgolion unigol. Nod Rheoliadau 2026 yw gwneud y system yn decach. Bydd ysgolion yn parhau i gael y cyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau eu hawdurdod lleol ynglŷn â chyllidebau ysgolion, gan gynnwys drwy eu fforwm cyllideb, sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
I liniaru effeithiau unrhyw newidiadau i fformiwlâu cyllido ysgolion, bydd unrhyw ddiwygiadau i fformiwlâu cyllido ysgolion yn destun ymgynghoriad o hyd.
Hefyd, mae Rheoliadau 2026 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth bennu cyllideb ysgol, ystyried a fyddai'r gyllideb honno fwy na 5% yn llai na chyllideb y flwyddyn flaenorol. Os bydd yr awdurdod lleol yn pennu y bydd cyllideb yr ysgol fwy na 5% yn llai ac yn penderfynu cynyddu'r cyllid er mwyn mynd i'r afael â'r gostyngiad, rhaid i hyn gael ei wneud yn unol â graddfa a gyhoeddwyd gan yr awdurdod lleol yn ei gynllun ariannol, er mwyn cynnal tryloywder a thegwch.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am Reoliadau 2026 fel bod ganddynt ddigon o amser cyn iddynt gael eu rhoi ar waith. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol drwy weithdai cyn i'r Rheoliadau gael eu rhoi ar waith a bydd yn cyhoeddi canllawiau ar y rheoliadau diwygiedig er mwyn cynyddu dealltwriaeth a gwella cysondeb.
Bydd cyfnod o amser i awdurdodau lleol ddiwygio eu proses ar ôl i Reoliadau 2026 gael eu gwneud a chyn i'r darpariaethau ddod i rym. Caiff Rheoliadau 2026 eu cyflwyno ar ddechrau mis Mawrth 2026, ond ni fydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gydymffurfio â'r Rheoliadau hynny tan 1 Chwefror 2027. Bydd Rheoliadau 2026 yn berthnasol i flynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2027 neu ar ôl hynny.
Rydym wedi ystyried yr holl effeithiau tebygol ar grwpiau gwahanol ac ar lesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol wrth ystyried y diwygiadau arfaethedig. Gwnaethom groesawu rhanddeiliaid i ymateb i'n hymgynghoriad ffurfiol gydag effeithiau, costau, manteision a risgiau posibl y newidiadau arfaethedig. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid mewn perthynas ag effeithiau posibl.
Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau
Os caiff newidiadau eu rhoi ar waith, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gydymffurfio â Rheoliadau 2026 erbyn blwyddyn ariannol 2027 i 2028.
Byddwn yn monitro'r broses o roi Rheoliadau 2026 ar waith er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwriadedig, sef gwneud y system cyllido ysgolion yn fwy tryloyw, cymaradwy a chyson. Fel rhan o hyn, byddwn yn parhau i gydgysylltu â CCAC ac yn ystyried unrhyw adborth.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gasglu a monitro data ar gyllidebau ysgolion er mwyn monitro effeithiau. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i ddehongli a chymhwyso'r Rheoliadau yn gywir, gan gynnwys drwy gynnal gweithdai a chyhoeddi canllawiau.
