Rhaglen Plant Iach Cymru (cysylltiadau gyda phlant): Gorffennaf i Medi 2025
Mae’r Rhaglen Plant Iach Cymru yn rhaglen iechyd cyffredinol ar gyfer pob teulu gyda phlant oed 0 i 7 ar gyfer Gorffennaf i Medi 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
Ffigur 1: Cyfradd cwblhau cyswllt chwarterol Rhaglen Plant Iach Cymru, Hydref 2016 i Medi 2025 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy'n dangos bod canran y cysylltiadau a gwblhawyd wedi cynyddu ers dechrau'r rhaglen.
Ffynhonnell: Y Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
[Nodyn 1] Mae’r data ar gyfer pob plentyn: yn cynnwys plant a ddiffinnir fel rhai sy’n derbyn, ac nid sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg gan ddefnyddio eu cod post Dechrau’n Deg.
- Gyda’i gilydd, derbyniodd 87.7% o blant cymwys gyswllt Plant Iach Cymru yn y chwarter Gorffennaf i Fedi 2025, mae hyn yn cynnydd o 0.2 pwynt canran ar y chwarter blaenorol.
- Derbyniodd canran uwch o blant cymwys gysylltiadau nag yn y chwarter blaenorol ar gyfer pob un o’r pwyntiau cyswllt heblaw am 6 wythnos a 3.5 blynedd, gyda’r cysylltiadau 8 wythnos, 12 wythnos, 16 wythnos a 27 mis yn uwch nag a gofnodwyd erioed.
Manylion cyswllt
Ystadegau iechyd cymunedol a phoblogaeth
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
